Atodiad 2 – Ffeithlenni ar gyfer haenau canllawiau arbennig
Cyrff dŵr sy'n sensitif i asid
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Dŵr: Arfer Da Coedwigoedd 11; Canllawiau Coedwigoedd 1, 2, 6
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 300,513 ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn dangos dalgylchoedd cyrff dŵr afonydd a llynnoedd y nodwyd eu bod yn methu neu mewn perygl o fethu â chael statws da ecolegol gan yr awdurdodau rheoleiddio dŵr oherwydd asideiddio. Cyrff dŵr sy’n methu yw’r rhai lle y mae asidedd y dŵr sy’n llifo allan yn uwch na safonau cemegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer pH neu gapasiti niwtraleiddio asid.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Mae'n hysbys fod gan goedwigaeth ddylanwad ar asideiddio, yn bennaf o ganlyniad i allu canopïau coedwigoedd i ddal mwy o sylffwr asid a llygryddion nitrogen o'r atmosffer na mathau byrrach o lystyfiant. Mae canllawiau coedwigoedd a dŵr Safonau Coedwigaeth y DU yn darparu arweiniad ynghylch rheoli coedwigoedd mewn ardaloedd sy'n sensitif i asid, gan gynnwys mannau plannu newydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau hefyd ynghylch sut y mae'n gweithredu'r agwedd hon ar y safonau yng Nghymru. Bydd angen i gynlluniau yn yr ardaloedd hyn ddangos eu bod wedi cydymffurfio â'r safonau hyn.
Canllawiau
- Dilynwch ganllawiau Safonau Coedwigaeth y DU a chanllaw gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru os yw'r ardal arfaethedig o fewn yr haen hon. Mae Adran 5.1 y canllaw gweithredu'n darparu arweiniad ynghylch pryd y bydd asesiad llwyth critigol yn ofynnol
- Rhowch dystiolaeth o gydymffurfiaeth wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio
Nodiadau data
Cymerwyd y data o Gylch 2 Cyrff Dŵr Sensitif i Asid y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2016).
Gwybodaeth ddefnyddiol
Tir comin
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Phobl: Coedwigoedd a Phobl; Cyfreithiol 3
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 174,661 ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn dangos yr holl diroedd comin cofrestredig yng Nghymru.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Mae angen ystyried yn ofalus unrhyw waith a allai rwystro hawliau comin rhag cael eu harfer, a sicrhau cytundeb ymlaen llaw gan unrhyw ddeiliaid hawliau cominwyr. Mae angen cydsyniad Llywodraeth Cymru i godi ffensys i amddiffyn coed rhag pori ar dir comin, yn unol ag Adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Os yw’r tir comin yn eiddo i’r Ymddiredolaeth Genedlaethol, bydd angen cael cydsyniad yn unol â Deddf yr Ymddiriedolaeth Gendlaethol 1971. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cynigion i blannu ar dir comin cofrestredig oni bai fod yr holl ganiatadau a chymeradwyaethau gofynnol ar waith cyn cyflwyno'r mynegiad o ddiddordeb.
Canllawiau
- Dylech geisio cytundeb â phob deiliad hawliau comin, a’r tirfeddiannwr ar gyfer yr ardal dan sylw. Os nad yw’n hysbys pwy yw’r tirfeddiannwr, mae’n bosibl mai’r awdurdod lleol sydd ag awdurdod, a dylid cysylltu ag ef.
- Dylech gael cydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith cyfyngedig o dan Ran 3, Adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Os yw’r tir comin yn eiddo i’r Ymddiredolaeth Genedlaethol, bydd angen cael cydsyniad yn unol â Deddf yr Ymddiriedolaeth Gendlaethol 1971.
- Dylech ond gynnwys tir comin cofrestredig os oedd yr holl ganiatadau angenrheidiol ar waith ar adeg y mynegiad o ddiddordeb.
- Cysylltwch â Thaliadau Gwledig Cymru os ydych yn ansicr a yw hyn yn effeithio ar eich cynnig.
Nodiadau data
Mae'r haen yn deillio o ffiniau tir comin a gofnodwyd yn y cofrestrau swyddogol sydd ym meddiant awdurdodau cofrestru tir comin. Mae'n bwysig nodi, oherwydd cymhlethdod tir comin, nad yw'r haen ddata hon yn derfynol ac efallai y bydd tir comin nad yw'n bresennol yn yr haen hon. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau nad yw'r cynllun plannu newydd arfaethedig ar dir comin.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Ardal tirwedd hanesyddol (pob ardal)
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol: Arfer Da Coedwigoedd 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 10; Coedwigoedd a Thirweddau: Arfer Da Coedwigoedd 2; Canllawiau Coedwigoedd 24
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 554,818 ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r 58 o ardaloedd hyn yn cynrychioli ‘ardaloedd cymeriad’ y tirweddau hanesyddol cofrestredig sydd â diddordeb eithriadol ac arbennig yng Nghymru.
Mae ymddiriedolaethau archaeolegol yn monitro'r cofnodion ar gyfer tirweddau hanesyddol ar ran Cadw. Y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru yw:
- Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd–Powys
- Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
- Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
- Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwent–Morgannwg
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Bydd yn ofynnol i’r ymddiriedolaeth archaeolegol berthnasol gynnal asesiad o bob cynnig Creu Coetir Glastir. Dylid dilyn unrhyw gyngor a roddir.
Efallai y bydd creu coetir i'w groesawu yn yr ardaloedd hyn, ond bydd yn dibynnu ar natur y dirwedd a manylion y gwaith plannu arfaethedig.
Canllawiau
- Amlygwch bresenoldeb unrhyw ardal o dirwedd hanesyddol pan fyddwch yn cysylltu â’r ymddiriedolaeth archaelegol berthnasol – bydd cyfeirnod grid neu deitl yn cyflymu’r gwaith prosesu.
- Os yw’n ofynnol, addaswch eich cynllun yn unol â’r cyngor a roddwyd, a sicrhewch eich bod wedi cynnwys ymateb yr ymddiriedolaeth yn eich cynllun pan fyddwch yn ei gyflwyno ar gyfer ei wirio.
Nodiadau data
Lluniwyd y tirweddau cofrestredig ar y cyd gan Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru) a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS).
Gwybodaeth ddefnyddiol
Parc cenedlaethol (Bannau Brycheiniog)
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arfer Coedwigoedd 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 24
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 134,954ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn dangos ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer y parc cenedlaethol.
Mae gan awdurdodau parciau cenedlaethol rôl benodol sy'n cynnwys dyletswydd i 'gadw a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol' wrth geisio 'meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol’. Er mwyn gwneud hyn, mae'n ofynnol ymgynghori â'r awdurdod ynghylch cynlluniau Creu Coetir Glastir sy'n diwallu meini prawf penodol.
Canllawiau
- Os yw eich cynllun plannu newydd arfaethedig yn fwy na 2 hectar anfonwch e-bost at enquiries@beacons-npa.gov.uk a gofynnwch am ymateb i ymgynghoriad tirwedd ar gyfer eich cynllun arfaethedig. Defnyddiwch “Cais am ymgynghoriad tirwedd cynllun CCG” fel teitl ar gyfer eich e-bost. Os yw’r cynllun wedi'i liwio'n wyrdd ar y map Cyfleoedd Creu Coetir, cofiwch gynnwys yr wybodaeth hon yn eich e-bost
- Mae angen i chi ddilyn unrhyw argymhellion a chynnwys yr ymateb wrth gyflwyno
Nodiadau data
Mae'r haen yn deillio o ffin statudol y parc cenedlaethol.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Parc cenedlaethol (Arfordir Sir Benfro)
Safon Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arferion Coedwigo 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 24
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 61,461ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn dangos ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer y parc cenedlaethol.
Mae gan awdurdodau parciau cenedlaethol rôl benodol sy'n cynnwys dyletswydd i 'gadw a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol' wrth geisio 'meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol’. Er mwyn gwneud hyn, mae'n ofynnol ymgynghori â'r awdurdod ynghylch cynlluniau Creu Coetir Glastir sy'n diwallu meini prawf penodol.
Canllawiau
- Mae awdurdod y parc yn dal nifer o setiau data lleol a allai helpu i wella ansawdd eich cais. Anogir ymgynghori anffurfiol ar gyfer pob cynllun o fewn y parc.
- Mae ymgynghoriad ffurfiol yn ofynnol ar gyfer:
- Unrhyw gynllun o fewn 1km i'r morlin ac o fewn y parc cenedlaethol
- Unrhyw gynllun yn y categori coetir cymysg gwell sydd â llai na 60% o blanhigion llydanddail
- Unrhyw gynllun dros 2ha
- Y cyfeiriad e-bost ar gyfer ymgynghoriadau yw gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk, a dylid nodi unrhyw e-byst at sylw Sarah Mellor.
Nodiadau data
Mae'r haen yn deillio o ffin statudol y parc.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Gwefan Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
Parc Cenedlaethol (Eryri)
Canllawiau Coedwigoedd 3, 24
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 213,933ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn dangos ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer y parc cenedlaethol.
Mae gan awdurdodau parciau cenedlaethol rôl benodol sy'n cynnwys dyletswydd i 'gadw a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol’ wrth geisio 'meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol’. Er mwyn gwneud hyn, mae'n ofynnol ymgynghori â'r awdurdod ynghylch cynlluniau Creu Coetir Glastir sy'n diwallu meini prawf penodol.
Canllawiau
- Os yw eich cynllun yn fwy na 2ha, rhaid i chi ymgynghori ag awdurdod y parc. E-bostiwch parc@eryri.llyw.cymru gan ddefnyddio ‘Cais am ymgynghoriad tirwedd cynllun CCG’ fel teitl
- Mae angen i chi ddilyn unrhyw argymhellion a chynnwys yr ymateb wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio
Nodiadau data
Mae'r haen yn deillio o ffin statudol y parc cenedlaethol.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mynediad agored
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Phobl: Cyfreithiol 3
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 353,443 ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn dangos tir y mae gan y cyhoedd hawliau mynediad ato o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd o dir y nodwyd eu bod yn fynydd, rhos, gwaun a thwyn; tir comin cofrestredig; a thir y mae'r perchennog wedi'i neilltuo'n ffurfiol fel tir mynediad agored.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Rhaid i gynlluniau creu coetir ar dir mynediad a ddynodwyd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy sicrhau nad yw mynediad cyhoeddus yn cael ei rwystro. Dylid gofalu bod llwybrau anffurfiol yn aros heb eu plannu er mwyn galluogi mynediad parhaus, a dylid cynnal yr holl bwyntiau mynediad at y tir. Dylid cynnwys giatiau mewn ffensys i alluogi mynediad parhaus.
Bydd ymgynghoriad â'r awdurdod mynediad lleol yn ofynnol ar gyfer cynigion ar dir mynediad. Efallai y bydd yr awdurdod lleol hefyd yn dymuno ymgynghori â'i fforwm mynediad lleol. Os yw'r hawliau mynediad ar waith oherwydd ystyrir bod y tir yn gefn gwlad agored, ac os yw'r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn bwysig ar gyfer mynediad cyhoeddus, efallai y bydd yn gofyn iddo gael ei neilltuo fel tir mynediad cyn i'r cynllun fynd yn ei flaen.
Canllawiau
- Darparwch dystiolaeth fod yr holl lwybrau anffurfiol yn cael eu cadw heb eu plannu
- Sicrhewch fod giatiau digonol yn cael eu hychwanegu at unrhyw ffensys newydd i ganiatáu mynediad parhaus i'r cyhoedd
- Gofynnwch am ymateb i'r ymgynghoriad gan dîm mynediad yr awdurdod lleol. Rhowch unrhyw argymhellion a wneir ganddynt ar waith, a darparwch eu hymateb pan fyddwch yn cyflwyno eich cynllun i'w wirio
Nodiadau data
Mae'r ffiniau wedi'u cymryd o fapiau statudol tir mynediad agored.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Gwiwerod coch
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 48,446 ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r haen yn nodi ardaloedd lle mae presenoldeb gwiwerod coch a llwyd yn golygu bod angen i gynlluniau creu coetir newydd gael eu llunio i hyrwyddo'r rhywogaeth frodorol. Nid yw ardaloedd gwiwerod coch lle mae gwiwerod llwyd wedi'u dileu (megis Ynys Môn) wedi'u cynnwys.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Er bod creu coetiroedd yn cael ei annog yn gyffredinol yn yr ardaloedd hyn, bydd y dewis o ran cymysgedd coetir yn gyfyngedig i goetir cymysg gwell yma. Mae cymysgeddau eraill yn debygol o ffafrio gwiwerod llwyd ac ni fyddant yn cael eu cymeradwyo. Dylech hefyd anelu at deilwra eich cynllun i fwyafu'r buddion i boblogaethau gwiwerod coch ac osgoi lledaeniad pellach gwiwerod llwyd.
Canllawiau
- Cyfyngwch gynlluniau plannu arfaethedig i goetir cymysg gwell yn yr ardaloedd hyn
- Osgowch blannu rhywogaethau coed brasddeiliog â hadau mawr, megis derwen, castanwydden, ffawydden, onnen, sycamorwydden neu gollen, lle nad yw'r rhain eisoes yn bresennol
- Dyluniwch y cynllun plannu i osgoi cysylltu coetiroedd sydd â gwiwerod llwyd â choetiroedd sydd â gwiwerod coch
- Wrth ochr cynefinoedd presennol y wiwer goch, ac i gyd-fynd â nhw, plannwch 20% pinwydd (pinwydd yr Alban/camfrig) a 15% coed sbriws Norwy mewn patrwm o goed brasddeiliog â hadau bach a choed sbriws Sitka
Nodiadau data
Mae'r haen yn defnyddio data o Fforwm Gwiwerod Cymru, sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.
Gwybodaeth ddefnyddiol
- Canllawiau pellach ynghylch gwiwerod coch o'n gwefan
- Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru
- Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru
Llygoden y dŵr
Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Phobl: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Dŵr 12
Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 114,296 ha
Beth mae'r haen yn ei ddangos
Mae'r set ddata'n dangos cofnodion o lygod y dŵr yng Nghymru.
Effaith ar gais Creu Coetir Glastir
Dylai cynlluniau plannu yn yr ardaloedd hyn gael eu teilwra i ddarparu amodau ffafriol ar gyfer llygod y dŵr. Cofiwch fod llygod y dŵr yn rhywogaeth a warchodir, ac efallai y bydd angen trwydded ar gyfer rhywfaint o waith (gweler y ddolen isod). Byddwn yn ystyried a oes angen trwyddedau ac yn rhoi gwybod i chi fel rhan o'r broses wirio.
Canllawiau
- Gadewch o leiaf bum metr o lain glustogi heb unrhyw beth wedi'i blannu ar lannau'r afon
- Y tu hwnt i'r llain glustogi pum metr, cynhwyswch y coed a llwyni canlynol ger cyrsiau dŵr: helyg, aethnenni, poplys duon, gwern cyffredin, cyll, masarn bach, cerddin, drain gwynion, coed afalau surion, coed ceirios yr adar, ac ysgaw
- Dyluniwch eich cynlluniau plannu i osgoi rhannu coridorau afonol sy'n cysylltu ardaloedd o gors, mign, pyllau, ffosydd neu nentydd
- Osgowch blannu ar dir uchel sydd ag is-haen feddal ger cyrsiau dŵr oherwydd mae'n bosibl y bydd llygod y dŵr yn defnyddio'r ardaloedd hyn fel lloches yn ystod llifogydd
Nodiadau data
Mae'r haen yn dangos clystyrau o arolygon cadarnhaol â llain glustogi o 2km. Coladwyd data gan ein hecolegwyr ac mae'n cynnwys cofnodion safleoedd rhanbarthol a ddelir gan ymddiriedolaethau natur Cymru.