Atodiad 2 – Ffeithlenni ar gyfer haenau canllawiau arbennig

Cyrff dŵr sy'n sensitif i asid

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Dŵr: Arfer Da Coedwigoedd 11; Canllawiau Coedwigoedd 1, 2, 6

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 300,513 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos dalgylchoedd cyrff dŵr afonydd a llynnoedd y nodwyd eu bod yn methu neu mewn perygl o fethu â chael statws da ecolegol gan yr awdurdodau rheoleiddio dŵr oherwydd asideiddio. Cyrff dŵr sy’n methu yw’r rhai lle y mae asidedd y dŵr sy’n llifo allan yn uwch na safonau cemegol y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar gyfer pH neu gapasiti niwtraleiddio asid.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae'n hysbys fod gan goedwigaeth ddylanwad ar asideiddio, yn bennaf o ganlyniad i allu canopïau coedwigoedd i ddal mwy o sylffwr asid a llygryddion nitrogen o'r atmosffer na mathau byrrach o lystyfiant. Mae canllawiau coedwigoedd a dŵr Safonau Coedwigaeth y DU yn darparu arweiniad ynghylch rheoli coedwigoedd mewn ardaloedd sy'n sensitif i asid, gan gynnwys mannau plannu newydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau hefyd ynghylch sut y mae'n gweithredu'r agwedd hon ar y safonau yng Nghymru. Bydd angen i gynlluniau yn yr ardaloedd hyn ddangos eu bod wedi cydymffurfio â'r safonau hyn.

Canllawiau

  • Dilynwch ganllawiau Safonau Coedwigaeth y DU a chanllaw gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru os yw'r ardal arfaethedig o fewn yr haen hon. Mae Adran 5.1 y canllaw gweithredu'n darparu arweiniad ynghylch pryd y bydd asesiad llwyth critigol yn ofynnol
  • Rhowch dystiolaeth o gydymffurfiaeth wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio

Nodiadau data

Cymerwyd y data o Gylch 2 Cyrff Dŵr Sensitif i Asid y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2016).

Gwybodaeth ddefnyddiol

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys dolenni at ganllawiau Safonau Coedwigaeth y DU a chanllaw gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru, gweler

Tir comin

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Phobl: Coedwigoedd a Phobl; Cyfreithiol 3

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 174,661 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos yr holl diroedd comin cofrestredig yng Nghymru.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Mae angen ystyried yn ofalus unrhyw waith a allai rwystro hawliau comin rhag cael eu harfer, a sicrhau cytundeb ymlaen llaw gan unrhyw ddeiliaid hawliau cominwyr. Mae angen cydsyniad Llywodraeth Cymru i godi ffensys i amddiffyn coed rhag pori ar dir comin, yn unol ag Adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Os yw’r tir comin yn eiddo i’r Ymddiredolaeth Genedlaethol, bydd angen cael cydsyniad yn unol â Deddf yr Ymddiriedolaeth Gendlaethol 1971. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cynigion i blannu ar dir comin cofrestredig oni bai fod yr holl ganiatadau a chymeradwyaethau gofynnol ar waith cyn cyflwyno'r mynegiad o ddiddordeb.

Canllawiau

  • Dylech geisio cytundeb â phob deiliad hawliau comin, a’r tirfeddiannwr ar gyfer yr ardal dan sylw. Os nad yw’n hysbys pwy yw’r tirfeddiannwr, mae’n bosibl mai’r awdurdod lleol sydd ag awdurdod, a dylid cysylltu ag ef.
  • Dylech gael cydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith cyfyngedig o dan Ran 3, Adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006. Os yw’r tir comin yn eiddo i’r Ymddiredolaeth Genedlaethol, bydd angen cael cydsyniad yn unol â Deddf yr Ymddiriedolaeth Gendlaethol 1971.
  • Dylech ond gynnwys tir comin cofrestredig os oedd yr holl ganiatadau angenrheidiol ar waith ar adeg y mynegiad o ddiddordeb.
  • Cysylltwch â Thaliadau Gwledig Cymru os ydych yn ansicr a yw hyn yn effeithio ar eich cynnig.

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o ffiniau tir comin a gofnodwyd yn y cofrestrau swyddogol sydd ym meddiant awdurdodau cofrestru tir comin. Mae'n bwysig nodi, oherwydd cymhlethdod tir comin, nad yw'r haen ddata hon yn derfynol ac efallai y bydd tir comin nad yw'n bresennol yn yr haen hon. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau nad yw'r cynllun plannu newydd arfaethedig ar dir comin.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ardal tirwedd hanesyddol (pob ardal)

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a'r Amgylchedd Hanesyddol: Arfer Da Coedwigoedd 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 10; Coedwigoedd a Thirweddau: Arfer Da Coedwigoedd 2; Canllawiau Coedwigoedd 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 554,818 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r 58 o ardaloedd hyn yn cynrychioli ‘ardaloedd cymeriad’ y tirweddau hanesyddol cofrestredig sydd â diddordeb eithriadol ac arbennig yng Nghymru.
Mae ymddiriedolaethau archaeolegol yn monitro'r cofnodion ar gyfer tirweddau hanesyddol ar ran Cadw. Y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru yw:

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Bydd yn ofynnol i’r ymddiriedolaeth archaeolegol berthnasol gynnal asesiad o bob cynnig Creu Coetir Glastir. Dylid dilyn unrhyw gyngor a roddir.

Efallai y bydd creu coetir i'w groesawu yn yr ardaloedd hyn, ond bydd yn dibynnu ar natur y dirwedd a manylion y gwaith plannu arfaethedig.

Canllawiau

  • Amlygwch bresenoldeb unrhyw ardal o dirwedd hanesyddol pan fyddwch yn cysylltu â’r ymddiriedolaeth archaelegol berthnasol – bydd cyfeirnod grid neu deitl yn cyflymu’r gwaith prosesu.
  • Os yw’n ofynnol, addaswch eich cynllun yn unol â’r cyngor a roddwyd, a sicrhewch eich bod wedi cynnwys ymateb yr ymddiriedolaeth yn eich cynllun pan fyddwch yn ei gyflwyno ar gyfer ei wirio.

Nodiadau data

Lluniwyd y tirweddau cofrestredig ar y cyd gan Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru) a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS).

Gwybodaeth ddefnyddiol

Parc cenedlaethol (Bannau Brycheiniog)

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arfer Coedwigoedd 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 134,954ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer y parc cenedlaethol.

Mae gan awdurdodau parciau cenedlaethol rôl benodol sy'n cynnwys dyletswydd i 'gadw a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol' wrth geisio 'meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol’. Er mwyn gwneud hyn, mae'n ofynnol ymgynghori â'r awdurdod ynghylch cynlluniau Creu Coetir Glastir sy'n diwallu meini prawf penodol.

Canllawiau

  • Os yw eich cynllun plannu newydd arfaethedig yn fwy na 2 hectar anfonwch e-bost at enquiries@beacons-npa.gov.uk a gofynnwch am ymateb i ymgynghoriad tirwedd ar gyfer eich cynllun arfaethedig. Defnyddiwch “Cais am ymgynghoriad tirwedd cynllun CCG” fel teitl ar gyfer eich e-bost. Os yw’r cynllun wedi'i liwio'n wyrdd ar y map Cyfleoedd Creu Coetir, cofiwch gynnwys yr wybodaeth hon yn eich e-bost
  • Mae angen i chi ddilyn unrhyw argymhellion a chynnwys yr ymateb wrth gyflwyno

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o ffin statudol y parc cenedlaethol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Parc cenedlaethol (Arfordir Sir Benfro)

Safon Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Thirwedd: Arferion Coedwigo 1, 2; Canllawiau Coedwigoedd 3, 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 61,461ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ardal Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer y parc cenedlaethol.

Mae gan awdurdodau parciau cenedlaethol rôl benodol sy'n cynnwys dyletswydd i 'gadw a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol' wrth geisio 'meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol’. Er mwyn gwneud hyn, mae'n ofynnol ymgynghori â'r awdurdod ynghylch cynlluniau Creu Coetir Glastir sy'n diwallu meini prawf penodol.

Canllawiau

  • Mae awdurdod y parc yn dal nifer o setiau data lleol a allai helpu i wella ansawdd eich cais. Anogir ymgynghori anffurfiol ar gyfer pob cynllun o fewn y parc.
  • Mae ymgynghoriad ffurfiol yn ofynnol ar gyfer:
  1. Unrhyw gynllun o fewn 1km i'r morlin ac o fewn y parc cenedlaethol
  2. Unrhyw gynllun yn y categori coetir cymysg gwell sydd â llai na 60% o blanhigion llydanddail
  3. Unrhyw gynllun dros 2ha

Nodiadau data 

Mae'r haen yn deillio o ffin statudol y parc.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwefan Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

Parc Cenedlaethol (Eryri)

Canllawiau Coedwigoedd 3, 24

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 213,933ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw'r awdurdod cynllunio ar gyfer y parc cenedlaethol.

Mae gan awdurdodau parciau cenedlaethol rôl benodol sy'n cynnwys dyletswydd i 'gadw a gwella'r harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol’ wrth geisio 'meithrin llesiant economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol o fewn y parc cenedlaethol’. Er mwyn gwneud hyn, mae'n ofynnol ymgynghori â'r awdurdod ynghylch cynlluniau Creu Coetir Glastir sy'n diwallu meini prawf penodol.

Canllawiau

  • Os yw eich cynllun yn fwy na 2ha, rhaid i chi ymgynghori ag awdurdod y parc. E-bostiwch parc@eryri.llyw.cymru gan ddefnyddio ‘Cais am ymgynghoriad tirwedd cynllun CCG’ fel teitl
  • Mae angen i chi ddilyn unrhyw argymhellion a chynnwys yr ymateb wrth gyflwyno eich cynllun i'w wirio

Nodiadau data

Mae'r haen yn deillio o ffin statudol y parc cenedlaethol.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mynediad agored

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Phobl: Cyfreithiol 3

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 353,443 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn dangos tir y mae gan y cyhoedd hawliau mynediad ato o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd o dir y nodwyd eu bod yn fynydd, rhos, gwaun a thwyn; tir comin cofrestredig; a thir y mae'r perchennog wedi'i neilltuo'n ffurfiol fel tir mynediad agored.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Rhaid i gynlluniau creu coetir ar dir mynediad a ddynodwyd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy sicrhau nad yw mynediad cyhoeddus yn cael ei rwystro. Dylid gofalu bod llwybrau anffurfiol yn aros heb eu plannu er mwyn galluogi mynediad parhaus, a dylid cynnal yr holl bwyntiau mynediad at y tir. Dylid cynnwys giatiau mewn ffensys i alluogi mynediad parhaus.

Bydd ymgynghoriad â'r awdurdod mynediad lleol yn ofynnol ar gyfer cynigion ar dir mynediad. Efallai y bydd yr awdurdod lleol hefyd yn dymuno ymgynghori â'i fforwm mynediad lleol. Os yw'r hawliau mynediad ar waith oherwydd ystyrir bod y tir yn gefn gwlad agored, ac os yw'r awdurdod lleol yn ystyried ei fod yn bwysig ar gyfer mynediad cyhoeddus, efallai y bydd yn gofyn iddo gael ei neilltuo fel tir mynediad cyn i'r cynllun fynd yn ei flaen.

Canllawiau

  • Darparwch dystiolaeth fod yr holl lwybrau anffurfiol yn cael eu cadw heb eu plannu
  • Sicrhewch fod giatiau digonol yn cael eu hychwanegu at unrhyw ffensys newydd i ganiatáu mynediad parhaus i'r cyhoedd
  • Gofynnwch am ymateb i'r ymgynghoriad gan dîm mynediad yr awdurdod lleol. Rhowch unrhyw argymhellion a wneir ganddynt ar waith, a darparwch eu hymateb pan fyddwch yn cyflwyno eich cynllun i'w wirio

Nodiadau data

Mae'r ffiniau wedi'u cymryd o fapiau statudol tir mynediad agored.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwiwerod coch

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 48,446 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r haen yn nodi ardaloedd lle mae presenoldeb gwiwerod coch a llwyd yn golygu bod angen i gynlluniau creu coetir newydd gael eu llunio i hyrwyddo'r rhywogaeth frodorol. Nid yw ardaloedd gwiwerod coch lle mae gwiwerod llwyd wedi'u dileu (megis Ynys Môn) wedi'u cynnwys.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Er bod creu coetiroedd yn cael ei annog yn gyffredinol yn yr ardaloedd hyn, bydd y dewis o ran cymysgedd coetir yn gyfyngedig i goetir cymysg gwell yma. Mae cymysgeddau eraill yn debygol o ffafrio gwiwerod llwyd ac ni fyddant yn cael eu cymeradwyo. Dylech hefyd anelu at deilwra eich cynllun i fwyafu'r buddion i boblogaethau gwiwerod coch ac osgoi lledaeniad pellach gwiwerod llwyd.

Canllawiau

  • Cyfyngwch gynlluniau plannu arfaethedig i goetir cymysg gwell yn yr ardaloedd hyn
  • Osgowch blannu rhywogaethau coed brasddeiliog â hadau mawr, megis derwen, castanwydden, ffawydden, onnen, sycamorwydden neu gollen, lle nad yw'r rhain eisoes yn bresennol
  • Dyluniwch y cynllun plannu i osgoi cysylltu coetiroedd sydd â gwiwerod llwyd â choetiroedd sydd â gwiwerod coch
  • Wrth ochr cynefinoedd presennol y wiwer goch, ac i gyd-fynd â nhw, plannwch 20% pinwydd (pinwydd yr Alban/camfrig) a 15% coed sbriws Norwy mewn patrwm o goed brasddeiliog â hadau bach a choed sbriws Sitka

Nodiadau data

Mae'r haen yn defnyddio data o Fforwm Gwiwerod Cymru, sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Llygoden y dŵr

Safonau Coedwigaeth y DU – Coedwigoedd a Bioamrywiaeth: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Phobl: Cyfreithiol 1; Arfer Da Coedwigoedd 3, 4; Coedwigoedd a Dŵr 12

Cyfanswm yr arwynebedd yng Nghymru – 114,296 ha

Beth mae'r haen yn ei ddangos

Mae'r set ddata'n dangos cofnodion o lygod y dŵr yng Nghymru.

Effaith ar gais Creu Coetir Glastir

Dylai cynlluniau plannu yn yr ardaloedd hyn gael eu teilwra i ddarparu amodau ffafriol ar gyfer llygod y dŵr. Cofiwch fod llygod y dŵr yn rhywogaeth a warchodir, ac efallai y bydd angen trwydded ar gyfer rhywfaint o waith (gweler y ddolen isod). Byddwn yn ystyried a oes angen trwyddedau ac yn rhoi gwybod i chi fel rhan o'r broses wirio.

Canllawiau

  • Gadewch o leiaf bum metr o lain glustogi heb unrhyw beth wedi'i blannu ar lannau'r afon
  • Y tu hwnt i'r llain glustogi pum metr, cynhwyswch y coed a llwyni canlynol ger cyrsiau dŵr: helyg, aethnenni, poplys duon, gwern cyffredin, cyll, masarn bach, cerddin, drain gwynion, coed afalau surion, coed ceirios yr adar, ac ysgaw
  • Dyluniwch eich cynlluniau plannu i osgoi rhannu coridorau afonol sy'n cysylltu ardaloedd o gors, mign, pyllau, ffosydd neu nentydd
  • Osgowch blannu ar dir uchel sydd ag is-haen feddal ger cyrsiau dŵr oherwydd mae'n bosibl y bydd llygod y dŵr yn defnyddio'r ardaloedd hyn fel lloches yn ystod llifogydd

Nodiadau data

Mae'r haen yn dangos clystyrau o arolygon cadarnhaol â llain glustogi o 2km. Coladwyd data gan ein hecolegwyr ac mae'n cynnwys cofnodion safleoedd rhanbarthol a ddelir gan ymddiriedolaethau natur Cymru.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf