Nid oes unrhyw newidiadau i'n cynllun codi tâl am y flwyddyn 1 Ebrill 2021 tan 31 Mawrth 2022.

Ein taliadau am ddiogelwch cronfeydd dŵr

Mae dau dâl y bydd yn rhaid i chi o bosib eu talu fel perchennog cronfa ddŵr:

Ffi gofrestru ar gyfer cyforgronfa ddŵr fawr: £510

Ffi monitro cydymffurfiaeth flynyddol ar gyfer cronfa ddŵr risg uchel: £230

Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod.

Mae'r taliadau wedi'u heithrio rhag TAW.

Ffi Gofrestru

Mae angen i chi dalu'r ffi gofrestru ar yr adeg cofrestru.

Nid ydym yn darparu anfonebau ar gyfer ffioedd cofrestru.

Mae methu â chofrestru cyforgronfa ddŵr fawr yn drosedd dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac efallai y byddwn yn ceisio adennill ein costau gorfodi oddi wrthych.

Ffi monitro cydymffurfiaeth flynyddol

Os ydych yn ymgymerwr cronfa ddŵr risg uchel, rhaid i chi dalu ffi monitro cydymffurfiaeth flynyddol.

Mae'r cyfnod codi tâl rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth. Byddwn yn anfon anfoneb atoch bob blwyddyn am y swm llawn sy'n ddyledus am y flwyddyn.

Os mai dim ond am ran o flwyddyn y mae arnoch chi'r ffi monitro, byddwn yn anfonebu pro rata i chi am y cyfnod yr ydych yn atebol amdano. Gall hyn ddigwydd os byddwn yn dynodi cronfa ddŵr fel cronfa ddŵr risg uchel a hynny hanner ffordd drwy’r flwyddyn.

Rhaid talu ffioedd blynyddol cyn gynted ag y byddwch yn derbyn ein hanfoneb.

Sut i dalu

Talu gyda cherdyn credyd 

Gallwn dderbyn taliadau cerdyn trwy Visa, MasterCard neu Maestro. Ffoniwch ni ar 03000 65 3000 i wneud eich taliad. Bydd angen i chi roi enw’r gronfa ddŵr y mae’r taliad yn berthnasol iddi ac ar gyfer beth mae’r taliad, naill ai “cofrestru” neu “ffi flynyddol ar rif anfoneb…”

Talu trwy BACS

Os dewiswch dalu trwy drosglwyddiad electronig (BACS), bydd angen i chi ddefnyddio'r wybodaeth ganlynol i wneud eich taliad.

Enw’r Cwmni: Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeiriad y Cwmni: Adran Incwm, BLWCH SP 663, Caerdydd, CF24 0TP

Cod Didoli: 60-70-80

Rhif Cyfrif: 10014438

Banc: RBS

Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2½ Devonshire Square, Llundain, EC2M 4BA

Dylech roi’r cyfeirnod talu priodol i’r BACS:

“Ffi cofrestru cronfa ddŵr”

“Ffi flynyddol y gronfa ddŵr”

Talu gyda siec

Dylech wneud eich siec neu archeb bost yn daladwy i “Cyfoeth Naturiol Cymru” a’i chroesi ‘a/c talai yn unig’.

Ar gefn eich siec dylech ysgrifennu enw'r gronfa ddŵr rydych yn ei chofrestru.

Anfonwch eich siec gyda'ch ffurflen gofrestru i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Adran Incwm
BLWCH SP 663
Caerdydd
CF24 0TP

Cronfeydd dŵr gyda nifer o ymgymerwyr

Rydym yn gweithredu un set o ffioedd i gronfa ddŵr.

Os ydych chi'n un o nifer o ymgymerwr gwahanol, rhaid i chi gytuno rhyngoch eich gilydd sut i ddosrannu'r ffioedd. Rydym yn cynghori y dylai unrhyw gytundeb gael ei wneud yn ysgrifenedig.

Talu am beirianwyr

Nid yw ein ffioedd yn cynnwys unrhyw gostau ar gyfer penodi peirianwyr sifil cymwys neu ymgynghorwyr arbenigol eraill i gynghori neu gyfarwyddo gwaith ar eich cronfa ddŵr. Chi sy’n atebol am benodi a thalu am y gwasanaethau hyn yn unol â'ch cyfrifoldebau a dynodiad risg eich cronfa ddŵr.

Darllenwch fwy am ddiogelwch cronfeydd dŵr.

Os byddwn yn ystyried bod angen defnyddio peiriannydd i'n cynghori, byddwn yn eich cynghori i wneud yr apwyntiad priodol. Os na wnewch hyn, efallai y byddwn yn defnyddio ein pwerau wrth gefn neu bwerau mewn argyfwng. Byddwn yn ceisio adennill cost hyn oddi wrthych. Mewn argyfwng, efallai y byddwn yn penodi peiriannydd heb eich hysbysu os byddwn yn ystyried y byddai’r oedi’n peryglu diogelwch eich cronfa ddŵr ymhellach.

Ein sail dros godi tâl

Ar 1 Ebrill 2013, penodwyd Cyfoeth Naturiol Cymru yn awdurdod dyletswydd gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975, yng Nghymru. Mae'r ddeddf hon yn ceisio gwarchod diogelwch y cyhoedd rhag dŵr yn dianc heb reolaeth o gyforgronfeydd dŵr mawr.

Yn ein gwaith fel rheoleiddiwr, ein dyletswydd yw sicrhau bod ymgymerwyr cronfeydd dŵr yn cadw at y gyfraith ac yn cydymffurfio â hi; rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu cyngor ac arweiniad fel bod ymgymerwyr yn deall y safonau gofynnol o ran yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud i helpu cadw eu hargaeau ac adeiledd cronfeydd dŵr yn ddiogel, ac maent yn cael eu hatgoffa o'u dyletswyddau o ran archwilio, goruchwylio a chynnal a chadw cronfeydd dŵr.

Caiff Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy arfer ei bwerau a ddarperir gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, a41(1) adennill costau cyflawni’r swyddogaethau a roddwyd iddo gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975; a chyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, mae’n gosod y Cynllun Codi Tâl Cydymffurfiaeth Diogelwch Cronfeydd Dŵr canlynol.

Pam fod angen i chi dalu

Mae ein costau ar gyfer rheoleiddio diogelwch cronfeydd dŵr yn cael eu hadennill oddi wrth berchnogion cronfeydd dŵr oherwydd nhw sy’n bennaf gyfrifol am ddiogelwch cronfeydd dŵr. Mae ein taliadau’n daladwy am unrhyw gronfa ddŵr a gofrestrwyd dan adran 2(2B) o Ddeddf 1975, sy’n gymwys o 1 Hydref 2017.

Mae'r ffioedd a godwn yn cynrychioli cyfran o'n costau am y gwasanaeth a geir wrth gyflawni ein swyddogaethau dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975. Cyfran yn unig o'n costau cyffredinol y mae'r incwm a godwn o'n taliadau yn ei gwmpasu. Er enghraifft, nid ydym yn cynnwys costau ar gyfer camau gorfodi oherwydd byddwn yn ceisio adennill y rhain yn uniongyrchol oddi wrth droseddwr.

Cysylltwch â ni

I drafod ymholiadau bilio, os gwelwch yn dda, cyfeiriwch at y cyfeiriadau e-bost ar flaen eich anfoneb.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r dehongliad o daliadau, os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r tîm taliadau: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk.

Cyfoeth Naturiol Cymru
Tîm Taliadau, Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP

Diweddarwyd ddiwethaf