Newidiodd y ddeddf sy’n rheoli sut mae cronfeydd dŵr yn cael eu rheoleiddio ar 1 Ebrill 2016.

Darperir yr wybodaeth hon i’ch cynorthwyo i:

Mae yna dri newid pwysig:

  • Bydd rhai cronfeydd dŵr yn cael eu rheoleiddio am y tro cyntaf
  • Bydd rhai perchenogion/gweithredwyr cronfeydd dŵr yn elwa o reoleiddio gostyngol
  • Rhaid i ni gael gwybod am ddigwyddiadau sy’n cael effaith ar ddiogeIwch cronfa ddŵr

Mae Cymru yn enwog am ei chronfeydd dŵr a’i hargaeau sydd â’u hoedran ar gyfartaledd ymhell dros 100 mlynedd. Mae Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yn bodoli er mwyn gwarchod diogelwch y cyhoedd drwy leihau’r risg o ddŵr yn cael ei ryddhau’n afreolus o gronfeydd dŵr uwch mawr a’r llifogydd trychinebus posib y gall hyn ei achosi. Ein diben ni yw sicrhau bod ymgymerwyr yn cadw at ac yn cydymffurfio â’r gyfraith, a thrwy wneud hynny cynnig sicrwydd i bobl sy’n byw ac yn gweithio i lawr yr afon bod cronfeydd dŵr yn cael eu cadw mewn cyflwr diogel.

Beth yw cronfa ddŵr uwch fawr?

Mae’r Ddeddf Cronfeydd Dŵr yn berthnasol i gronfeydd dŵr uwch mawr yn unig ac mae’r rhain yn cael eu rheoleiddio gennym ni.

View of a high bankingMae angen argae, arglawdd neu adeilad arall ar gronfa ddŵr uwch (neu gyforgronfa) er mwyn dal y dŵr uwchlaw lefel naturiol y ddaear, ond nid yw’r rhain yn amlwg bob tro ac nid ydynt wastad yn cynnwys dŵr.

  • mae argae, arglawdd, wal neu adeilad arall wedi eu cynllunio neu’n cael eu defnyddio i gasglu neu storio dŵr, ac
  • mae’r adeilad uwch yn gallu dal 10,000 metr ciwbig, neu fwy, uwchlaw lefel naturiol unrhyw ran o’r tir oddi amgylch

Byddai dŵr yn dianc pe bai’r adeilad uwch yn cael ei symud ymaith. Nid yw dŵr sy’n cael ei storio islaw lefel y ddaear ac sydd heb allu ddianc wedi ei gynnwys yn y cyfrifiad capasiti.

Tua 2.2 miliwn o alwyni yw 10,000 metr ciwbig, ac mae hyn yn gyfwerth, yn fras, â phedwar pwll nofio maint Olympig. Gellir llunio dynodiad symledig o gyfaint drwy luosi arwynebedd y gronfa ddŵr pan yw’n llawn gydag uchder yr argae neu’r arglawdd. Er enghraifft, gall cronfa ddŵr sy’n mesur 100 x 100 metr ac iddi arglawdd 1 metr o uchder ddal 10,000 metr ciwbig os yw pob un o’r ochrau’n fertigol. Rydym yn argymell eich bod yn gofyn am farn broffesiynol os oes gennych unrhyw amheuaeth ynglŷn â sut i gyfrifo cyfaint.

Defnyddir gwahanol dermau’n aml i gyfeirio at gronfeydd dŵr ac mae iddynt ystod eang o ddefnyddiau; gallai’r rhain gynnwys:

  • Storio dŵr
  • Pyllau dyfrhau
  • Lagynau gwastraff
  • Pyllau addurnol
  • Hamdden / amwynder
  • Ardaloedd storio llifogydd
  • Llynnoedd ynni dŵr

Mae’r term cronfa ddŵr yn cynnwys pob argae, arglawdd neu adeiladau eraill sy’n dal dŵr, yn ogystal â’r ardal sy’n cael ei gwlychu. Mae hyn yn bwysig os oes mwy nag un perchennog neu weithredwr i’r gronfa – gweler yr adran “Pwy neu beth yw ymgymerwr?

Cronfeydd dŵr gwag, wedi’u siltio a rhai segur

Empty silted up and disused reservoirs Ffigur 1.Er bod cryn dipyn o laid wedi cronni yn y gronfa ddŵr hon – digon i goed dyfu yno – mae’r cymhwyster cyfreithiol yn parhau yr un peth, oni fydd peiriannydd yn ei hardystio’n wahanol.


Gall cronfeydd dŵr gwag neu rai segur sydd â chyfaint o 10,000 metr ciwbig o ddŵr neu fwy ddal fod yn atebol i reoliad a dylech gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth.

Mae rhai cronfeydd dŵr yn cynnwys symiau sylweddol o laid fel bod cyfaint y dŵr wedi ei leihau’n ddirfawr a gall fod dan 10,000 metr ciwbig. Oni fydd peiriannydd sifil cymwysedigwedi darparu tystysgrif fel rhan o’r gwaith adeiladu, newid neu ddirwyn i ben, yna rhaid cynnwys y llaid fel pe bai’n ddŵr ac mae’r cyfaint gwreiddiol yn ddigyfnewid.

Cronfeydd dŵr risg uchel

Cronfa ddŵr risg uchel yw un a allai beryglu bywyd dynol, os digwydd bod dŵr yn cael ei ryddhau’n afreolus. Mae gennym ddyletswydd i ystyried a yw cronfeydd dŵr uwch mawr yn rhai risg uchel. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr adran “Dynodi Risg”.

Pwy neu beth yw ymgymerwr?

“Ymgymerwr” yw’r term cyfreithiol a ddefnyddir i adnabod pwy sy’n rheoli ac yn rheoli defnydd y gronfa ddŵr, ac sy’n gyfrifol am barhau i gydymffurfio â’r gyfraith. Yr ymgymerwr yw’r person, pobl neu gwmni sy’n defnyddio cronfa ddŵr at ddiben penodol. Os nad oes unrhyw ddefnydd, y perchenogion neu’r deiliaid prydles yw’r ymgymerwyr. Gall y gweithredwr fod yn wahanol i’r perchennog.

Os oes nifer o bobl neu sefydliadau yn rheoli’r gronfa ddŵr, gall fod mwy nag un ymgymerwr. Mae’n bwysig eich bod yn diffinio maint eich cyfrifoldebau ac, o ddewis, dylai hyn fod ar gael gennych ar ffurf cytundeb ysgrifenedig.

Rydym yn awyddus i gydweithio gydag ymgymerwyr cronfeydd dŵr er mwyn lleihau’r risg o argaeau’n methu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â diogelwch cronfeydd dŵr, os oes angen cofrestru cronfa ddŵr arnoch, neu adrodd am ddigwyddiad, darllenwch y canllaw sydd ar gael yma neu cysylltwch â’n tîm diogelwch cronfeydd dŵr:

Dros y ffôn:     0300 065 4299

Drwy e-bost:    reservoirs@naturalresourceswales.gov.uk

Drwy’r post:     Cyfoeth Naturiol Cymru

                        Tȋm Diogelwch Cronfeydd Dŵr

                        Tŷ Cambria

                        29 Heol Casnewydd

                        Caerdydd

                        CF24 0TP

Diweddarwyd ddiwethaf