Anfonwch eich ffurflen gwastraff
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i:
- fonitro cydymffurfiad y safle ag amodau eu trwydded amgylcheddol
- cadw cofrestr gyhoeddus
- casglu ystadegau cenedlaethol am wastraff
Templed dychwelyd gwastraff wedi'i ddiweddaru
Rydym wedi diwygio’r ffurflen electronig ar gyfer cofnodion gwastraff o fis Ionawr-Mawrth 2021 ymlaen.
Bydd y daenlen newydd yn eich galluogi i ddewis y blynyddoedd adrodd 2021 a 2022.
Byddwn yn e-bostio copi o’r ffurflen newydd i’r holl weithredwyr gwastraff sydd wedi cyflwyno ffurflen electronig o’r blaen.
Os na fyddwch wedi derbyn taenlen, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000.
Cwblhau'r daenlen
Mae’n rhaid ichi ddefnyddio’r fersiwn diweddaraf o’r daenlen neu ni chaiff eich ffurflen ei derbyn.
Llenwch bob rhan ofynnol o’r daenlen a defnyddiwch eich rhif EPR (Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol) yn hytrach nag unrhyw hen gyfeirnod.
Os oes gennych fwy nag un drwydded gwastraff ar gyfer eich safle, bydd angen i chi ddarparu cofnod ar gyfer pob trwydded.
Os cyflawnir amrywiaeth o weithrediadau gwastraff ar y safle o dan un drwydded, gofynnwn ichi gwblhau mwy nag un cofnod er mwyn sicrhau y cofnodir mewnbynnau ac allbynnau pob gweithrediad gwastraff ar wahân.
I ganolfannau gwastraff nad ydynt yn Gyfleusterau Deunyddiau, nid oes ond angen cwblhau’r rhannau cyntaf o’r tri thudalen yn y gweithlyfr â phenawdau glas; rhaid i Gyfleusterau Deunyddiau lenwi’r tudalennau hyn yn llawn
Ffurflen bapur
Os na allwch gyflwyno'ch ffurflen drwy anfon neges e-bost, gallwch chi lenwi ffurflen bapur. Cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen papur waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni papur wedi'u llenwi i:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP
Sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff
Am ragor o gymorth ar sut i ddewis cod EWC cywir ar gyfer gwastraff, defnyddiwch y canllawiau sydd ar gael.
Terfynau amser ar gyfer cyflwyno cofnodion gwastraff
Chwarter | Terfyn amser |
---|---|
1 Ionawr i 31 Mawrth | Ebrill 30 |
1 Ebrill i 30 Mehefin | Gorffennaf 31 |
1 Gorffennaf 1 i 30 Medi | Hydref 31 |
1 Hydref 1 i 31 Rhagfyr | Ionawr 31 |
Cyfnod cofnodion blynyddol | Terfyn amser ar gyfer danfon y cofnod |
---|---|
1 Ionawr i 31 Rhagfyr | 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol |