Anfonwch eich ffurflen gwastraff peryglus
Diweddariad Coronafirws
Mae ein staff bellach yn gweithio gartref cyn belled ag y bo modd. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn ffurflenni cais papur ar hyn o bryd. Byddwch yn gallu anfon ffurflenni drwy e-bost ac os bydd angen, gallwch wneud taliadau trwy BACS.
Bydd arnoch angen Microsoft Word 2010 neu gyfwerth i allu defnyddio'r ffurflenni electronig. Er ein bod yn gobeithio sicrhau fod hyn yn amharu gyn lleied ag sydd bosibl arnoch, cofiwch y gallai’r amser prosesu fod yn hwy yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid.
Cofnodion Gwastraff Peryglus
Mae derbynwyr gwastraff peryglus yn cadw cofnodion er mwyn ein hysbysu ni am y llwythi o wastraff peryglus sydd wedi’u derbyn, eu symud neu'u gwaredu ar safle. Mae’n rhaid gwneud hyn o dan Reoliadau Gwastraff Peryglus 2005.
Mae’n rhaid i chi anfon cofnodion derbynnydd pob chwarter yn dangos pa wastraff peryglus sydd wedi’i dderbyn neu’i waredu ar eich eiddo neu lle mae’n cael ei gynhyrchu.
Mae hynny’n cynnwys y gwastraff peryglus sydd wedi’i dderbyn ar eich eiddo. Er enghraifft:
- depo gwasanaeth symudol yn derbyn gwastraff a gynhyrchir gan ei staff ar eiddo cwsmer
- busnes yn symud ei wastraff ei hunan o un o’i eiddo i un arall
- busnes yn derbyn gwastraff sy’n cael ei ddychwelyd gan / oddi wrth ei gwsmeriaid
- adnoddau gwastraff eithriedig neu drwyddedig yn derbyn gwastraff peryglus oddi wrth eraill
- safleoedd eithriedig neu drwyddedig sy’n gwrthod gwastraff peryglus (er enghraifft, oherwydd nad oedd y safle wedi’i thrwyddedu i’w dderbyn)
- Efallai y bydd yn rhaid anfon cofnodion hefyd os ydych yn gwaredu gwastraff peryglus ar yr eiddo ble mae’n cael ei gynhyrchu
Os yw’ch busnes yn gwneud unrhyw un o’r rhain rydych yn dderbynnydd. Fel derbynnydd, mae'n rhaid i chi yn ȏl y gyfraith anfon cofnodion at Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae cofnodion derbynwyr yn cynnwys crynodeb manwl o bob llwyth o wastraff a dderbynnir, a waredir ac a wrthodir.
Mae’n rhaid i’ch cofnodion fod ar y ffurf sydd wedi’i gosod gennym ni.
Pryd i anfon cofnod derbynnydd
Mae'n rhaid i chi anfon cofnod yn rhoi cyfrif am eich gweithgareddau bob cyfnod o dri mis (chwarter), a hynny o fewn un mis o ddiwedd y chwarter hwnnw.
Cyfnodau cofnodion chwarterol
Cyfnodau cofnodion chwarterol | Terfyn amser cyflwyno cofnod |
---|---|
Ch1 01 Ionawr – 31 Mawrth | 30 Ebrill |
Ch2 01 Ebrill – 30 Mehefin | 31 Gorffennaf |
Ch3 01 Gorffennaf – 30 Medi | 31 Hydref |
Ch4 01 Hydref – 31 Rhagfyr | 31 Ionawr |
Rydym yn argymell eich bod yn cadw copi o’ch cofnodion am chwe blynedd.
Cofnodion ‘Dim’
Mae gofyn i weithredwyr gyflwyno cofnod bob cyfnod adrodd.
Os nad yw gweithredwr wedi ymdrin ag unrhyw wastraff, dylai anfon ‘cofnod dim’.
I wneud hynny mae gofyn i’r gweithredwr:
- Ticio’r blwch ‘cofnodion dim’ ar y ffurflenni / system cofnodion
- Gadael unrhyw feysydd symiau tunelli neu bwysau a dderbyniwyd yn wag
Rhaid i’r gweithredwr gwblhau adrannau eraill y ffurflen er mwyn rhoi gwybod i ni at ba safle mae’r cofnod ‘dim’ yn cyfeirio.
Penderfyniadau Rheoleiddio (llacio’r rheolau)
Mae gennym ni benderfyniadau rheoleiddio, sy’n cael eu galw hefyd yn ‘llacio’r rheolau’, sy’n lleihau’r gofynion i adrodd yn ȏl am rai ffynonellau o wastraff peryglus. Mae hynny er mwyn cynorthwyo adfer gwastraff o’r fath.
Rydym yn gallu llacio’r rheolau ar gyfer 11 ffynhonnell o wastraff gan gynnwys:
- tiwbiau fflwroleuedd ac offer goleuo peryglus eraill
- batris cerbydau modur plwm-asid
- blychau aerosol clirio’r aer o doiledau neu ystafelloedd ymolchi
- gwastraff milfeddygol o ffermydd
- batris symudol celloedd sych
- nwy wedi’i adfer o oeryddion
- samplau o wastraff peryglus sy’n cael eu hanfon i labordy
- cerbydau diwedd oes heb eu dadlygru
- offer Trydanol ac Electronig Gwastraff o gartrefi
- plaladdwyr dinesig
- gwastraff deunydd pacio
Mae canllawiau ar sut i gwblhau cofnodion derbynyddion ar gyfer y ffynonellau hyn o wastraff i’w cael trwy’r gwefan gov.uk
Bydd yn rhaid i gwsmer sy’n manteisio ar y gofyniad adrodd is gydymffurfio â’r holl amodau yn y datganiad sefyllfa.
Sut i anfon cofnodion derbynnydd
Cewch gyflwyno cofnodion i:-
waleshazreturns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
neu i bostio i
Canolfan Gofal y Cwsmer, Cyfoeth Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Newport Road, Caerdydd, CF24 0TP
Ffioedd cofnodion derbynwyr
Codir ffi ar weithredwyr am gofnodion derbynwyr gwastraff peryglus. Mae’r ffi yn cael ei chodi fesul llwyth o wastraff peryglus sydd wedi’i dderbyn ar eu safle.
Mae costau cofnodion derbynnydd yn amrywio, yn dibynnu ar a yw’r cofnodion yn cael eu hanfon atom ni yn electronig neu ar bapur.
Cofnodion Electronig
- Llwythau Symudiad Sengl: £10
- Llwythau’n ffurfio Aml Gasgliadau: £5
- Does dim tâl am gofnodion ‘dim’
Cofnodion Papur
- Llwythau Symudiad Sengl £19
- Llwythau’n ffurfio Aml Gasgliadau £10
Does dim tâl am gofnodion nil.Cyfnodau cofnodion chwarterol