Sut i gydymffurfio â’r gofyniad i gasglu gwastraff ar wahân
Bydd casglu’r deunyddiau hyn ar wahân i wastraff arall yn gwella ansawdd y deunydd eildro drwy leihau halogi yn y pwynt lle cesglir y deunydd ailgylchadwy. Dylai hyn gynyddu cyfanswm ansawdd, swm a gwerth y deunydd eildro a gynhyrchir ar draws y DU.
Mae’r gofynion casglu ar wahân yn gweithredu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff Ewropeaidd ddiwygiedig. Mae canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar y Gyfarwyddeb yn datgan y gallai casglu’r deunyddiau hyn ar wahân fod ar ffurf casgliadau cydgymysg (casgliad o ddeunyddiau ailgylchadwy sych cymysg mewn un casgliad) cyn belled â bod canlyniad y broses ddidoli yn arwain at ddeunydd i’w adfer nad yw yn waeth ei ansawdd na’r hyn a geid yn sgil casglu’r deunyddiau ar wahân.
Pwy sy’n gorfod cydymffurfio â’r gofyniad i gasglu ar wahân?
Daw’r gofynion hyn o Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011, fel ag y’u diwygiwyd. Bydd angen i weithredwyr casglu gwastraff yn cynnwys cwmnïau preifat, mentrau cymdeithasol ac awdurdodau lleol ddarparu casgliadau ar wahân i’w cwsmeriaid ar gyfer papur, metel, plastig a gwydr.
Mae hyn yn wir am wastraff o bob ffynhonnell, diwydiant (yn cynnwys adeiladu a dymchwel), masnach (yn cynnwys manwerthu, lletygarwch a swyddfeydd), elusennau a chartrefi.
Os yw’r pedwar math hwn o ddeunydd yn cael eu casglu gyda’i gilydd, mae’n rhaid i’r gweithredwr casglu gwastraff ddangos eu bod wedi asesu a yw’r deunyddiau ailgylchadwy a gesglir ganddynt a’r allbynnau o’r broses ddidoli sy’n dilyn, o’r ansawdd gofynnol ar gyfer y diwydiannau ailbrosesu sy’n eu derbyn (y “Prawf Anghenraid”). Hefyd, nad yw yn dechnegol, amgylcheddol ac economaidd ymarferol (TEEP) i gasglu papur gwastraff, gwydr, plastig a metelau ar wahân.
Unwaith bod y pedwar math o ddeunydd gwastraff ar gyfer eu hailgylchu wedi’u casglu ar wahân naill ai drwy gasgliadau ar wahân neu gasgliad cydgymysg cyn gwneud y gwaith didoli angenrheidiol mewn Cyfleuster Adennill Deunydd, mae’r rheoliadau’n mynnu fod y deunyddiau’n cael eu cadw ar wahân a ddim yn cael eu cymysgu â gwastraff arall neu ddeunyddiau eraill sydd â phriodweddau gwahanol.
Cyhoeddir canllawiau ar y prawf anghenraid a’r broses TEEP gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gofyniad hwn yn eistedd ochr yn ochr â’r hierarchaeth gwastraff yn rhan 5 o’r rheoliadau, a chyhoeddwyd canllawiau ar yr hierarchaeth gwastraff gan Lywodraeth Cymru hefyd.
Beth yw rôl Cyfoeth Naturiol Cymru?
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r sefydliad sy’n gyfrifol am sicrhau fod casglwyr gwastraff a chyfleusterau rheoli gwastraff trwyddedig yng Nghymru yn cydymffurfio â’r gofynion newydd hyn.
Rydym wedi ysgrifennu at yr holl gludwyr gwastraff haen uwch cofrestredig a’r holl gyfleusterau gwastraff a drwyddedwyd o dan y rheoliadau trwyddedu amgylcheddol yng Nghymru i’w hysbysu am y gofynion rheoleiddiol sy’n dod i rym.
Bydd deilliannau casgliadau gwastraff cydgymysg yn cael eu monitro drwy’r rheoliadau Cyfleusterau Adennill Deunydd o dan reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2014.
Beth yw rôl Llywodraeth Cymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 'Canllawiau ar y casgliad ar wahân gwastraff papur, metel, plastig a gwydr' a bydd eich helpu i ddeall y gofynion.
Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu’r dull a fydd, yn nhyb Llywodraeth Cymru, yn galluogi awdurdodau lleol, cwmnïau preifat rheoli gwastraff a mentrau cymdeithasol sy’n casglu, yn trosglwyddo neu’n derbyn papur gwastraff, metel, plastig a gwydr i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan y rheoliadau.
Mae’r ymgynghoriad ar y canllawiau wedi cau erbyn hyn. Bydd y canllawiau terfynol a’r ymatebion i’r cwestiynau a godwyd yn cael eu cyhoeddi gyda hyn. Yn y cyfamser gallwch weld y canllawiau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru.
Beth yw rôl y cynhyrchydd gwastraff?
Er bod y gofynion hyn yn gosod dyletswydd ar y gweithredwyr casglu a rheoli gwastraff, nid oes dyletswydd benodol ar y cynhyrchydd.
Fodd bynnag, atgoffir cynhyrchwyr gwastraff o’u rhwymedigaethau o dan y gofynion cyn triniaeth am gwastraff safleoedd tirlenwi ac mae’n rhaid iddynt ddisgrifio’u gwastraff o dan y Ddyletswydd Gofal a defnyddio’r hierarchaeth gwastraff.
Dylai cynhyrchwyr gwastraff naill ai:
- Drin eu gwastraff eu hunain a rhoi gwybodaeth am y driniaeth i’r deiliad dilynol; neu
- Sicrhau y bydd deiliad dilynol yn trin y gwastraff cyn iddo fynd i safle tirlenwi
Byddai cymryd rhan mewn casglu ar wahân yn cael ei ystyried yn fath o gyn-driniaeth a byddai’n cyfrannu at gyflwyno deunyddiau o ansawdd gwell i’w hadennill.