Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Cyfyngu Ar Drwyddedau Pysgota  Rhwydi) 2017
Disgwylir y bydd y rheolau arfaethedig newydd mewn grym ar gyfer tymor 2018.
Cefndir
Mae’r gostyngiad parhaol yn niferoedd oedolion yr eogiaid a’r sewin sy’n dychwelyd i afonydd Cymru wedi cyrraedd niferoedd isel nas gwelwyd erioed o’r blaen yn ystod y blynyddoedd diweddar ac maent yn awr yn bygwth dyfodol nifer o bysgodfeydd.
Rydym yn ystyried nifer o weithredoedd a mesurau a fydd yn gymorth i reoli a gwrthwneud y tuedd hwn gan sicrhau fod y rhywogaethau eiconig yma yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hamgylchedd a’n diwylliant.
Mae’n rhaid i ni roi mwy o gyfle i bysgod sy’n oedolion i silio os ydym am sicrhau dyfodol i’r rhywogaethau yn ein hafonydd.
Rydym yn barod wedi gofyn i bysgotwyr a physgotwyr rhwydi i ryddhau’n wirfoddol y pysgod y maent yn eu dal. Rydym nawr yn teimlo, wedi adolygu’r dystiolaeth a chydgysylltu gyda rhanddeiliaid ei bod yn amser i gyflwyno rhagor o reoliadau ar bysgota eogiaid a sewin.
Mae’r rheoliadau arfaethedig ar ddalfeydd yn cynnwys holl afonydd Cymru. Rydym yn cydnabod yr angen am ddull gwbl integredig ar gyfer ein hafonydd ar y ffin ac rydym yn cydweithio â’r Environment Agency i sicrhau fod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol a bydd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad yn ddiweddarach.
Mae tair rhan i’r cynigion:
- Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi
- Rheoliadau Dalfeydd Gwialen a Lein (Is-ddeddfau) (ymgynghoriad disgwyliedig diwedd mis Awst)
- Rheoliadau Dalfeydd Afonydd y Ffin (Is-ddeddfau) (ymgynghoriad disgwyliedig diwedd 2017)
Hyd
Gellir gwrthwynebu’r Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi am gyfnod o 12 mis o 1 Awst, 2017 tan 24 Hydref, 2017