AGA arfaethedig Skomer, Skokholm and the seas off Pembrokeshire / Sgomer, Sgogwm a moroedd Benfro
Dyma estyniad arfaethedig i AGA bresennol Skokholm a Skomer, sydd eisoes wedi ei dynodi er mwyn gwarchod nythfeydd magu adar môr o bwys rhyngwladol, yn enwedig y boblogaeth anferth o adar drycin Manaw sydd yn magu yma, yn ogystal â niferoedd mawr o balod a gwylanod cefnddu lleiaf, ac amryw o rywogaethau eraill. Mae’r AGA arfaethedig yn cynnwys yr ynysoedd eu hunain, y dyfroedd sydd yn eu hamgylchynu yn ogystal ag ardal helaeth o fôr sydd yn ymestyn o arfordir Penfro tua’r gorllewin i’r Môr Celtaidd, gan gynnwys dyfroedd y DU y tu hwnt i derfyn 12 milltir fôr Môr Tiriogaethol Cymru. Mae'r safle arfaethedig yma yn argymhelliad ar y cyd gan CNC a’r JNCC i Lywodraethau Cymru a'r DU.
- ‘Briff Adrannol' (Cyngor CNC/JNCC i Lywodraethau)
- Map
- Amcanion cadwraeth drafft
- Asesiad Effaith Drafft
- Dogfen ddrafft gan y JNCC sy’n edrych ar asesiad effaith y rhan forol o’r AGA arfaethedig