Cynllun Llifogydd Heol Isca (Isca Road Flood Risk Management Scheme)
Beth rydym yn ei wneud?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi ei fwriad i wneud gwaith i wella amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Wysg yng Nghaerleon, NGR ST341902. Bydd y gwaith arfaethedig yn golygu cynnal a chadw ac atgyfnerthu cyfres o argloddiau a waliau amddiffyn rhag llifogydd ger Afon Wysg.
Effaith Amgylcheddol
Barn Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad yw’r gwaith gwella’n debyg o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, ac ni fwriada baratoi datganiad amgylcheddol yn ei gylch. Mae Adroddiad Arolwg Ecolegol a Chynllun Gweithredu Amgylcheddol drafft wedi eu cynhyrchu.
Rhagor o wybodaeth
Canfod rhagor
Gellir cael copïau o’r dogfennau hyn trwy ysgrifennu at:
Andy Brown
Rheolwr Cynllun
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle
Sir y Fflint, CH7 3AJ
Neu yrru neges e-bost atandrew.brown@naturalresourceswales.gov.uk
Os oes gennych unrhyw sylwadau, gyrrwch hwy erbyn 16 Chwefror 2015.