Cwestiynau ac Atebion

Dyma rai cwestiynau cyffredinol a’r atebion iddynt am y newidiadau sydd mewn golwg ar gyfer y tair Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) hyn.

1. Beth yw Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)?

Mae Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn ardal sydd wedi’i dosbarthu o dan ‘Gyfarwyddeb Adar Gwyllt’ yr Undeb Ewropeaidd, gan ei bod yn cynnal poblogaethau o adar gwyllt sydd o bwys rhyngwladol. Rhaid i bob un o aelod-wladwriaethau’r UE ddynodi AGA ar eu tir a’u môr. Law yn llaw ag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) a ddynodir o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau, mae AGA yn rhan o’r rhwydwaith ‘Natura 2000’ o safleoedd ledled yr UE sydd â’r nod o warchod bioamrywiaeth Ewrop. Mae mwy na 26,000 o safleoedd yn rhwydwaith Natura 2000, sy’n ymestyn dros arwynebedd o 1 miliwn cilometr sgwâr bron iawn, tua’r faint â’r DU, Iwerddon a Ffrainc gyda’i gilydd.

2. Sut mae AGA yn gwarchod rhywogaethau?

Nod Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yw helpu i warchod y poblogaethau o adar y maent wedi cael eu dosbarthu o’u herwydd yn y lle cyntaf. Mae’r awdurdodau perthnasol yn eu gwarchod drwy asesu a rheoli cynigion datblygu, mabwysiadu polisïau priodol a hyrwyddo arferion er mwyn diwallu anghenion penodol y rhywogaethau sydd wrth wraidd dosbarthu’r safleoedd. Mae’r tir yn yr AGA presennol eisoes wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sy’n rheoleiddio gweithgareddau a allai fod yn niweidiol i’r adar neu eu cynefin. Ni fydd yr ardaloedd morol newydd sydd mewn golwg yn cael eu dynodi’n SoDdGA, gan nad ydynt yn berthnasol i’r môr fel rheol.

3. Ydy’r ardaloedd hyn yn Barthau Cadwraeth Morol?

Nac ydynt. Mesur penodol yw Ardal Gwarchodaeth Arbennig i ddiwallu anghenion un rhywogaeth arbennig o adar neu fwy, fel sy’n ofynnol dan gyfraith yr UE. Mae Parthau Cadwraeth Morol yn ddynodiad o fath gwahanol, sy’n cael ei wneud o dan gyfraith gartref (Cymru a Lloegr). Mae’r cynigion diweddar ar gyfer Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru wedi cael eu tynnu’n ôl a bydd adolygiad yn cael ei gynnal o’r angen am Barthau Cadwraeth Morol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2013 gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.

4. Beth yw rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y broses AGA?

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar y Gyfarwyddeb Adar yn gyffredinol ac yn benodol ar y sail wyddonol ar gyfer nodi AGA a’u rheoli. Rhaid i awdurdodau cymwys ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch unrhyw gynlluniau neu brosiectau a allai effeithio ar AGA, ac ystyried cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru wrth benderfynu a gaiff y cynnig fynd yn ei flaen.

Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyfrifol am fonitro’r ardaloedd hyn ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n gyfrifol hefyd am reoleiddio gweithgareddau sydd â’r potensial i niweidio ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) mewn AGA.

5. Beth yw testun yr ymgynghoriad?

Ar ôl cael cyngor gwyddonol gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig newid dynodiad tair Ardal Gwarchodaeth Arbennig bresennol, fel rhan o weithredu Cyfarwyddeb Adar yr UE yng Nghymru. Dyma’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig dan sylw:

  • AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli (Gwynedd)
  • AGA Skokholm and Skomer (Sir Benfro)
  • AGA Grassholm (Sir Benfro)

Dyma’r newidiadau sydd mewn golwg:

  • Yn gyntaf, ymestyn ffiniau’r tri safle i gynnwys y môr o’u hamgylch, rhwng 2km a 9km o ffiniau presennol yr AGA. Mae’r safleoedd hyn yn AGA eisoes i warchod nythfeydd magu adar môr, ond dim ond yr ardaloedd nythu sydd wedi’u cynnwys ar hyn o bryd. Diben ymestyn y ffiniau allan i’r môr yw cynnwys y rhannau o’r môr o amgylch yr ardaloedd nythu y mae’r adar yn eu defnyddio hefyd, ar gyfer ymddygiad a elwir yn orffwyso neu’n ‘loafing’, gweithgaredd pwysig ar gyfer yr adar yn ystod y tymor bridio
  • Yn ail, diweddaru’r rhestri o rywogaethau adar sy’n golygu bod y safleoedd hyn yn cael eu hystyried yn rhai o bwys rhyngwladol. Daw hyn yn sgil canlyniadau adolygiad gwyddonol o rwydwaith AGA’r DU a gyhoeddwyd gan asiantaethau cadwraeth natur y DU yn 2001, ac yn sgil cymhwyso canllawiau cytûn y DU ar gyfer nodi AGA

Diben yr ymgynghoriad hwn yw rhoi gwybod i chi am y cynigion hyn a chael eich barn.

6. Pam mae’r ardaloedd ‘gorffwys’ morol yn bwysig?

Ardaloedd gorffwys yw lle mae’r adar yn ymgynnull neu’n gorffwys cyn ac yn ystod y tymor magu. Maent yn bwysig er mwyn i adar allu gorffwys, ymdrochi, trwsio’u plu a chael eu hunain yn y cyflwr gorau un. Yn arbennig, bydd adar drycin Manaw yn aml yn defnyddio’r ardaloedd hyn i ymgynnull (a elwir yn ‘rafftio’ weithiau) cyn troi am y lan yn y tywyllwch.

7. Pam mae angen diweddaru’r rhestr o rywogaethau sydd wedi’u cynnwys yn y dynodiadau?

Cafodd llawer o’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig presennol eu dosbarthu ddechrau’r 1980au. Bwriad adolygiad y DU o AGA oedd sicrhau bod pob safle wedi’i ddosbarthu ar sail data cyson, o ansawdd, ar niferoedd a dosbarthiad poblogaethau adar perthnasol, ac yn unol â chanllawiau a gytunwyd yn genedlaethol. Mae’r adolygiad, a gyhoeddwyd yn 2001, yn nodi bod angen nifer fach o newidiadau i’r rhestr o rywogaethau sy’n sail i ddosbarthu AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island ac AGA Skokholm and Skomer. Ni chynigir newid y rhywogaethau sy’n sail i ddosbarthu AGA Grassholm.

8. Sut penderfynwyd ar yr ardaloedd arfaethedig a’u ffiniau?

Penderfynwyd ar y safleoedd drwy ddadansoddi data o wahanol adroddiadau (gweler isod) ac o arolygon penodol, yn cynnwys ar Ynysoedd Enlli, Sgogwm a Sgomer, sy’n dangos bod rhai rhywogaethau arbennig o adar môr yn gwneud defnydd sylweddol o’r dyfroedd hyn ac yn amlwg yn dibynnu arnynt yn ecolegol. Gwnaed y gwaith dadansoddi gan y Cyd-bwyllgor Gwarchodaeth Natur (JNCC), asiantaeth y DU sy’n cynnig cymorth gwyddonol a thechnegol i’r cyrff gwarchod statudol yng ngwahanol rannau’r DU. Mae’r JNCC wedi datblygu canllawiau ar ba mor bell i mewn i’r amgylchedd morol y dylid ymestyn AGA, yn dibynnu ar y rhywogaethau magu sy’n eu defnyddio. Dyma’r argymhellion:

  • dylid ymestyn ffiniau AGA sydd â nythfeydd magu aderyn drycin Manaw o leiaf 4km, ac ymhellach lle mae data penodol y safle yn dangos bod angen mwy o estyniad;
  • dylid ymestyn ffiniau AGA sy’n cynnwys nythfeydd magu’r pâl, yr wylog neu’r llurs 1km tua’r môr;
  • dylid ymestyn ffiniau AGA sy’n cynnwys nythfeydd magu’r hugan 2km tua’r môr;

I gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau’r JNCC, ewch i dudalen we’r JNCC ar estyniadau morol i AGA nythfeydd magu adar môr presennol.

9. A oes unrhyw fesurau gwarchod ar waith yn ardaloedd yr estyniadau arfaethedig ar hyn o bryd?

Mae penderfyniad Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru i ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgynghori ar yr estyniadau dan sylw yn cadarnhau eu statws fel AGA arfaethedig (AGAa). Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai AGAa gael ei gwarchod i’r un graddau ag AGA lawn, tan i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid dynodi’r AGA yn ffurfiol ai peidio. Fodd bynnag, mae’r rheoliadau sy’n gwarchod yr AGA presennol rhag datblygiadau a allai fod yn niweidiol yn gwarchod yr ardaloedd hyn hefyd.

10. Pam mae bwriad i ddynodi AGA mewn ardaloedd morol sydd eisoes wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)?

Mae AGA ac ACA yn ddau ddynodiad gwahanol sy’n ofynnol dan gyfreithiau gwahanol yr UE. Diben penodol AGA yw gwarchod poblogaethau adar, ac mae ACA morol yn yr ardaloedd hyn yn gwarchod cynefinoedd morol a rhywogaethau morol penodol, yn cynnwys mamaliaid morol. Yn ymarferol, serch hynny, mae’r ddau ddynodiad yn gweithio gyda’i gilydd, gan fod y rheolau ar gyfer rheoli ACA ac AGA yn debyg iawn, a’r un sefydliadau sydd wrthi. Gan amlaf, bydd gofalu am y cynefinoedd mewn ardal yn helpu i warchod yr holl rywogaethau sy’n dibynnu ar y cynefinoedd hynny. Neu, o’i roi fel arall, mae gwarchod rhywogaethau gan amlaf yn golygu gofalu am y cynefinoedd maent yn dibynnu arnynt.

Mae’r holl estyniadau morol a gynigir ar gyfer AGA Skokholm and Skomer ac AGA Grassholm yn rhan o ACA forol. Mae rhan o’r estyniad morol sydd mewn golwg ar gyfer AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island yn rhan o ACA forol.

11. Beth fydd effaith y cynigion?

Nid yw’r estyniadau morol sydd mewn golwg ynddynt eu hunain yn cyflwyno unrhyw ofyniad ychwanegol am reoliadau, gan fod yr ardaloedd tir yn AGA eisoes. Mae’r ardaloedd morol eisoes yn destun rheoliadau i asesu a rheoli effaith cynigion datblygu. Nid yw ymestyn yr AGA i gynnwys yr ardaloedd morol yn gwneud rheoliadau neu gyfyngiadau ychwanegol yn fwy neu’n llai tebygol o gwbl, ond dylai wneud rheoli’r safleoedd yn fwy eglur a hawdd, ynghyd â chydnabod bod y môr o amgylch y nythfeydd bridio yn llawn mor bwysig i’r adar â’r ardaloedd nythu eu hunain ar lawer ystyr.

Yn yr un modd, er bod y cynigion hefyd yn golygu ychwanegu at y rhestri o rywogaethau sydd wrth wraidd dosbarthu dau o’r tri safle, ni ddisgwylir y bydd yr ychwanegiadau hyn yn creu’r angen am reoliadau neu gyfyngiadau sylweddol ychwanegol. Mae hyn oherwydd y dylai’r gwaith rheoli sydd ei angen i warchod y safleoedd ar hyn o bryd ddiwallu anghenion cadwraeth y rhywogaethau ychwanegol sydd mewn golwg hefyd.

12. A fydd cyfyngiadau ar fynediad a hamdden yn yr ardaloedd morol ychwanegol hyn?

Nid oes bwriad i newid y rheoliadau sy’n ymwneud â mynediad i’r cyhoedd neu fordwyo. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol eisoes yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon tarfu ar adar sy’n nythu, yn fwriadol neu ddi-hid, a lladd adar. Gallai fod angen codau ymddygiad yn y dyfodol, ar gyfer cychod modur neu weithredwyr teithiau bywyd gwyllt, er enghraifft, ond ni ystyrir bod y gweithgareddau hyn yn fygythiad i’r AGA ar hyn o bryd o’u gwneud mewn modd cyfrifol.

Mae’r rhan fwyaf o AGA (tir) presennol ar dir sydd mewn dwylo preifat. Nid yw dynodi neu ail-ddynodi AGA yn creu nac yn dileu unrhyw hawl mynediad cyhoeddus. Mae rhagor o wybodaeth am fynediad i dir ar gael ar y map Crwydro Cymru Arlein ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

13. A oes unrhyw effaith ar weithgareddau cyfredol fel pysgota a ffermio?

Gall yr holl weithgareddau cyfreithlon a wneir ar hyn o bryd, nad ydynt yn cael effaith andwyol ar boblogaethau adar yr AGA, barhau. Nid oes unrhyw arwydd ar hyn o bryd bod gweithgareddau o’r fath, yn cynnwys pysgota masnachol a hamdden sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol, yn bygwth poblogaethau adar yn yr ardaloedd hyn.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl bod y defnydd o’r tir wedi helpu i ddenu’r rhywogaeth gymhwysol. Er enghraifft, mae rhai arferion ffermio arbennig yn helpu i greu cynefin addas ar gyfer y frân goesgoch ym Mhen Llŷn ac ar arfordir Penfro, a gall cloddiau ddarparu safleoedd nythu ar gyfer aderyn drycin Manaw.

14. Pwy sy’n gyfrifol am gynllunio a rheoleiddio gweithgareddau a chynigion datblygu?

Nid yw dynodi neu ymestyn AGA yn newid pwy sy’n gyfrifol am reoleiddio’r defnydd o’r tir a’r môr a phenderfynu ar geisiadau datblygu. Bydd swyddogaethau rheoleiddio a chynllunio presennol awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau’r un fath.

15. A fydd y dynodiad yn effeithio ar gynigion datblygu newydd yn cynnwys ffermydd gwynt allan yn y môr neu gynlluniau ynni eraill, gwaith gwarchod yr arfordir, datblygiad pysgodfeydd newydd?

Nid yw dynodiad AGA yn atal datblygiadau a newidiadau o reidrwydd. Fodd bynnag, mae yna weithdrefn statudol sy’n rhaid ei dilyn wrth ystyried rhai cynigion a allai effeithio ar AGA, waeth a yw’r cynigion o fewn yr AGA neu y tu hwnt i’w ffiniau. Os yw cynnig yn debygol o gael effaith sylweddol ar rywogaethau adar AGA, rhaid i’r awdurdod cymwys (hy yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylai’r cynnig fynd yn ei flaen) gynnal asesiad i weld a fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar yr AGA. Os na ellir dangos na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar y safle, ac nad oes dewis arall, dim ond os oes rhesymau hanfodol sef er budd cyhoeddus tra phwysig y gellir caniatáu’r datblygiad. Mae hyn yn golygu y bydd angen addasu rhai cynigion er mwyn iddynt allu mynd yn eu blaen neu, mewn rhai achosion, ni fydd y cynnig yn gallu mynd yn ei flaen. Mae’r gofynion hyn eisoes yn berthnasol i ddatblygiadau a allai effeithio ar y tair AGA bresennol hyn.

16. Beth yw mantais y cynigion hyn i’r bobl sy’n byw yn y cyffiniau?

AGA yw rhai o’n safleoedd pwysicaf ar gyfer bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Mae’r tri safle dan sylw yn y cynigion hyn yn cynnwys rhai o dirweddau, morweddau ac ynysoedd hyfrytaf a mwyaf gwerthfawr Cymru, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn a gwella ansawdd bywyd y bobl sy’n byw ynddynt ac o’u hamgylch. Y cyfle i weld poblogaethau adar môr sy’n denu llawer o’r ymwelwyr sy’n dod i’r ardaloedd hyn. Nod y cynigion hyn yw sicrhau bod y sail gyfreithiol ar gyfer gwarchod yr ardaloedd hyn, er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, yn glir, yn gadarn ac yn gyfredol, gan adlewyrchu eu pwysigrwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

17. A fydd y newidiadau arfaethedig hyn i’r AGA yn cael eu gwneud yn bendant?

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod digon o dystiolaeth wyddonol i gefnogi’r cynigion i ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ymgynghori yn eu cylch. Bydd hyn yn sicrhau bod y penderfyniad ynghylch a ddylid cadarnhau’r newidiadau ai peidio yn seiliedig ar y wybodaeth orau bosibl. Os yw’r broses ymgynghori yn nodi sail wyddonol ar gyfer peidio â gwneud y newidiadau hyn i’r AGA, mae’n bosibl y bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen ag un neu bob un o’r newidiadau, neu gallant ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ddatblygu cynigion eraill gwahanol. Wrth wneud eu penderfyniad, bydd Gweinidogion Cymru yn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Adar, ac yn ystyried hefyd ddyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop ar sut dylai aelod-wladwriaethau’r UE gymhwyso’r Gyfarwyddeb Adar. Gweinidogion Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.

18. Ai dim ond yng Nghymru mae hyn yn digwydd?

Na. Yn yr Alban, mae estyniadau morol tebyg eisoes wedi’u gwneud i’r 31 AGA bresennol ar gyfer nythfeydd magu adar môr. Mae gwaith ar droed yn Lloegr i nodi nifer o AGA pellach – am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen we Natural England ar safleoedd Natura 2000 morol newydd.

19. Sut bydd ardaloedd sy’n cael eu cynnig i fod yn AGA yn cael eu rheoli?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y trefniadau rheoli a rheoleiddio sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau. Mae tir yr AGA hyn eisoes yn cael ei reoli er lles y poblogaethau adar. Yn ogystal, mae’n bosibl y byddai mwy o bwyslais ar ddarparu ar gyfer poblogaethau’r frân goesgoch sy’n gaeafu ynddynt (AGA Glannau Aberdaron ac Ynys Enlli / Aberdaron Coast and Bardsey Island ac AGA Skokholm and Skomer), er enghraifft, darparu sofl gaeaf neu aeafu da byw yn yr awyr agored i annog anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel bwyd i Frain Coesgoch. Gellid gwneud hyn drwy dargedu cynlluniau amaeth-amgylcheddol gwirfoddol. Yn yr ardaloedd morol, bydd ‘arfer gorau’, fel arferion mordwyo cyfrifol o amgylch adar môr sy’n gorffwys a ger safleoedd nythu, yn cael ei hybu a’i annog.

20. Os cyflwynir y newidiadau, a fydd angen monitro’r ardaloedd newydd?

Bydd angen monitro parhaus i ailasesu nifer yr adar sy’n defnyddio’r safleoedd, i wirio bod y poblogaethau’n iach a bod y ffordd mae’r safleoedd yn cael eu defnyddio a’u rheoli yn ffafriol i’r poblogaethau adar o hyd. Mae’r gwaith hwn yn rhan o raglen fonitro hirdymor Cyfoeth Naturiol Cymru a’i bartneriaid.

21. Beth yw Asesiad Effaith Llywodraeth Cymru?

Yn unol ag arfer gorau, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith yr estyniadau arfaethedig a’r bwriad i restru rhywogaethau ychwanegol er mwyn deall yr holl effeithiau posibl ar yr holl ddefnyddwyr. Bydd hyn yn helpu i lywio’r dewisiadau rheoli ar gyfer pob ardal. Mae penderfyniad Gweinidog Cymru ynghylch a ddylid cyflwyno’r newidiadau i’r dynodiadau AGA yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol yn unig.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad asesiad effaith. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran forol ar wefan Llywodraeth Cymru.

22. Sut mae ymateb a beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r cyfnod ymgynghori yn para rhwng 31 Ionawr 2014 a 25 Ebrill 2014. Fe’ch gwahoddir i roi eich barn ar y cynigion erbyn hanner nos, 25 Ebrill 2014. Os hoffech gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y cynigion, gallwch eu hanfon gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb drwy’r e-bost i: ymgynghoriadaga@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu drwy’r post i’r Tîm Safleoedd Rhyngwladol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Maes-y-Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor Gwynedd, LL57 2DW.

Ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn llunio adroddiad ar y sylwadau a’r safbwyntiau a ddaeth i law ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Yna, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y wybodaeth honno wrth benderfynu a ydynt am gadarnhau’r newidiadau i’r AGA. Bydd crynodeb o’r ymatebion a gafwyd, heb gynnwys enwau ymatebwyr, yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ysgrifennu at randdeiliaid i’w hysbysu am benderfyniad Gweinidog Cymru.

Dylech wybod y gallem gael cais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol am gopi o’r adroddiad llawn ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae’n bosibl y gofynnir i ni ddarparu copïau o ymatebion unigol, yn cynnwys enwau a chyfeiriadau’r unigolion neu’r sefydliadau a’u hanfonodd. Mewn achosion o’r fath, rhaid i ni benderfynu a ddylid rhyddhau’r wybodaeth honno ai peidio, ac os yw rhywun wedi gofyn i ni beidio â datgelu ei enw a’i gyfeiriad, gallwn ystyried hynny wrth benderfynu a ydym am ryddhau’r wybodaeth honno ai peidio.

Mae rhagor o wybodaeth ym mholisi Rhyddid Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os hoffech wybod mwy am y cynigion, cysylltwch ag un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n lleol i’r AGA. Mae croeso i chi ddod i sesiynau galw heibio Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych wyneb yn wyneb.

Ebost: ymgynghoriadaga@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig