Asesu Sensitifrwydd y Dirwedd yng Nghymru
Caiff Asesiadau o Sensitifrwydd y Dirwedd eu defnyddio mewn cynllunio gofodol i helpu i lywio datblygiadau neu newidiadau i sut caiff y tir ei reoli ar gyfer lleoliadau llai sensitif yn y dirwedd.
Maent yn nodi a fyddai cymeriad y dirwedd yn fwy tebygol o gael ei effeithio’n wael neu’n llai sensitif i’r math o newid ac a allai hynny effeithio ar werth y dirwedd.
Maent yn cynorthwyo gyda chynllunio strategol ar gyfer datblygu’r seilwaith – er enghraifft, ynni adnewyddadwy, y seilwaith ynni, a dyraniadau tir ar gyfer tai a chyflogaeth.
Cânt eu cynnal yn ystod camau cynnar cynllunio, fel arfer cyn i gynigion a safleoedd penodol ar gyfer datblygiadau gael eu gwneud. Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn eu defnyddio’n aml wrth baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol.
Mae ein canllawiau’n disgrifio sut mae Asesiadau o Sensitifrwydd y Dirwedd
- yn ffitio i broses cynllunio gofodol
- yn cael eu comisiynu, eu cynnal neu eu hadolygu
Mae ein dull wedi’i deilwra ar gyfer Cymru, ond mae’n dilyn egwyddorion tebyg i ganllawiau yn Lloegr a’r Alban.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am y canllaw hwn, gallwch gysylltu â ni yn: