Datblygiadau ynni gwynt ar y môr
Ynni gwynt ar y môr
Mae ynni gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig.
Yng Nghymru, mae gennym dair fferm wynt ar y môr weithredol ger arfordir gogledd Cymru, Gwynt y Môr, Gwastadeddau'r Rhyl a North Hoyle, yn ogystal â cheblau trawsyrru o ddatblygiadau cyfagos.
Gall ffermydd gwynt ar y môr gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar adar, mamaliaid morol, ecoleg fenthig a physgod, yn ogystal ag effeithiau gweledol. Mae cynllunio a lleoli safleoedd yn ofalus yn hanfodol er mwyn osgoi a lleihau effeithiau.
Canllawiau, data a thystiolaeth
Dewch o hyd i gyngor, data a thystiolaeth ar gyfer eich datblygiad ynni gwynt ar y môr:
- Gwybodaeth am drwyddedau morol a chanllawiau am wneud cais gan ein Gwasanaeth Trwyddedu
- Adroddiadau tystiolaeth morol ac arfordirol
- Defnyddio dull rheoli addasol ar gyfer datblygiadau morol
- Canllawiau ar gynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol
- Cyfoeth Naturiol Cymru ac asesiadau amgylcheddol
- Canllawiau ar sut i gwblhau asesiadau ar gynefinoedd benthig
- Canllawiau ar brosesau ffisegol morol, arfordirol ac aberol a gofynion monitro ar gyfer prosiectau datblygu mawr
- Canllawiau ar unedau rheoli mamaliaid morol mewn asesiadau rheoliadau cynefinoedd
- Canllawiau ar arolygon adar ar y môr ar gyfer datblygiadau morol: pryd y mae angen i chi gynnal arolwg
- Adroddiadau tystiolaeth ar y morwedd a sensitifrwydd gweledol o ran ffermydd gwynt ar y môr
- Cam 1 – Y gydberthynas rhwng pellter tyrbin ar y môr o dderbynnydd sensitif a maint yr effeithiau gweledol
- Cam 2 – Canllawiau lleoli a chynllunio ffermydd gwynt ar y môr mewn perthynas â morweddau
- Cam 3 – Sensitifrwydd gweledol lleoliadau morol yn nhirweddau dynodedig Cymru i ffermydd gwynt ar y môr
- Cyngor ar sensitifrwydd derbynyddion ecoleg forol i weithgareddau ceblau yng Nghymru ar gyfer Rownd 4 (ar y Gyfnewidfa Data Morol)
Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Gwaith cynllunio morol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
- Mae Ystad y Goron yn rheoli'r rhan fwyaf o wely'r môr ac yn dyfarnu prydlesi ar gyfer datblygiadau
- Y Gyfnewidfa Data Morol, a gynhelir gan Ystad y Goron, lle gallwch gael mynediad i ddata gwynt
- Canolfan Adnoddau Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, lle gallwch gael mynediad i adroddiadau tystiolaeth a data
- Fforwm ar y cyd prosiect Gwynt ar y Môr Cyd-raglen y Diwydiant Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORJIP), a gydlynir gan yr Ymddiriedolaeth Garbon
- Ynni Morol Cymru, sy'n dod â rhanddeiliaid at ei gilydd, gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud ag ynni gwynt ar y môr arnofiol
- Tethys, lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth ac ymchwil am ynni gwynt ar y môr o bob cwr o'r byd
Mae adnoddau naturiol Cymru'n cynnig cyfle gwych i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r gwynt, y tonnau a'r llanw. Drwy reoli'r adnoddau hyn yn gynaliadwy, gallwn sicrhau bod y datblygiad cywir yn y lle cywir yn helpu i fodloni targedau datgarboneiddio a galluogi twf glas yng Nghymru.
Cysylltwch â ni
Os ydych yn ystyried prosiect ynni gwynt ar y môr neu brosiect ynni gwynt ar y môr arnofiol yn nyfroedd Cymru, cysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost: marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk