Deddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru
Pryd y dylid defnyddio canllawiau deddfwriaeth cadwraeth forol
Mae'r canllawiau hyn wedi'u cyfeirio'n bennaf at unrhyw un sy'n gwneud cais i gynnal datblygiadau neu weithgareddau yn nyfroedd Cymru.
Byddant yn eich helpu i ddeall statws cadwraeth cyfreithiol rhywogaethau penodol, er mwyn llywio'ch ceisiadau a'ch asesiadau.
Mae'r nodyn canllaw hwn yn crynhoi deddfwriaeth cadwraeth, fel y mae'n gymwys yng Nghymru, ar gyfer y rhywogaethau canlynol:
- Teulu'r morfil (morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion)
- Morloi
- Dyfrgi Ewropeaidd (ardaloedd arfordirol yn unig)
- Crwbanod Môr
- Stwrsiwn Cyffredin
- Heulgwn, corgwn môr a maelgwn
Mae'n cynnwys gwybodaeth am safleoedd arbennig yng Nghymru sydd wedi'u dynodi er mwyn eu diogelu.
Nid yw'r canllawiau yn cwmpasu adar morol nac ystlumod na physgod eraill.
Darllenwch y canllawiau
Canllawiau ar gyfer datblygwyr am ddeddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru. (PDF Saesneg in unig)
Diweddarwyd ddiwethaf