Cloddio am agregau morol
Agregau morol
Mae agregau morol, fel tywod a graean, yn adnodd cyfyngedig y mae'n rhaid ei reoli'n gynaliadwy er mwyn sicrhau y bydd cyflenwad ar gael o hyd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gellir defnyddio agregau morol fel deunydd adeiladu, ar gyfer gwaith adfer tir neu ar gyfer ailgyflenwi traethau. Mae'r rhan fwyaf o’r gwaith cloddio'n digwydd ym Môr Hafren, yn Aber Afon Hafren a ger arfordir gogledd Cymru.
Gall gwaith cloddio am agregau morol gael effaith ar yr amgylchedd, gan gynnwys ar ecoleg fenthig a physgod. Mae cynllunio a lleoli safleoedd yn ofalus yn hanfodol er mwyn osgoi a lleihau effeithiau.
Canllawiau, data a thystiolaeth
Dewch o hyd i gyngor, data a thystiolaeth ar gyfer eich gweithgaredd cloddio am agregau morol:
- Gwybodaeth am drwyddedau morol a chanllawiau am wneud cais gan ein Gwasanaeth Trwyddedu
- Adroddiadau tystiolaeth morol ac arfordirol
- Defnyddio dull rheoli addasol ar gyfer datblygiadau morol
- Canllawiau ar gynnal ymarfer cwmpasu ar gyfer asesiad o’r effaith amgylcheddol ar gyfer datblygiadau morol
- Cyfoeth Naturiol Cymru ac asesiadau amgylcheddol
- Canllawiau ar ein data ar gynefinoedd a rhywogaethau morol a'u defnyddiau mewn datblygiadau
- Canllawiau ar ddeddfwriaeth cadwraeth ar gyfer anifeiliaid asgwrn cefn morol yng Nghymru
- Canllawiau ar sut i gwblhau asesiadau ar gynefinoedd benthig
- Canllawiau ar brosesau ffisegol morol, arfordirol ac aberol a gofynion monitro ar gyfer prosiectau datblygu mawr
Ffynonellau gwybodaeth eraill
- Gwaith cynllunio morol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
- Mae Ystad y Goron yn rheoli'r rhan fwyaf o wely'r môr ac yn dyfarnu prydlesi ar gyfer gwaith cloddio
- Y Gyfnewidfa Data Morol, a gynhelir gan Ystad y Goron, lle gallwch gael mynediad i ddata agregau
- Mae gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain (BMAPA), y corff masnach cynrychiadol, adnoddau a chanllawiau ar gael
- Canolfan Ddata Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) i gael mynediad at setiau data sylfaenol Rhaglen Fonitro Ranbarthol Gwely'r Môr (RSMP)
Cysylltwch â ni
Os ydych yn ystyried gwneud gwaith cloddio am agregau morol yn nyfroedd Cymru, cysylltwch â ni yn gynnar yn eich cynlluniau drwy e-bost ymarine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk