Is-ddeddfau afonydd trawsffiniol eogiaid a brithyllod y môr Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Rydym am gael eich barn ar gynigion am reolau dalfa newydd ar afonydd Dyfrdwy a Gwy.

Gobeithir y bydd y rheolau newydd ar waith ar gyfer tymor 2018.

Cefndir

Mae pryderon parhaus ynghylch niferoedd yr eogiaid sy'n dychwelyd i'n hafonydd. Mae stociau wedi cyrraedd eu niferoedd isaf erioed yn y blynyddoedd diweddar ac mae dyfodol llawer o bysgodfeydd dan fygythiad yn awr. Yn syml, nid oes digon o bysgod aeddfed yn silio i gynnal stociau ar eu lefelau presennol nac i atal dirywiad pellach.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r pryderon hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n cynnig nifer o gamau gweithredu a fydd yn helpu i wrthdroi'r duedd a sicrhau bod y rhywogaeth eiconig hon yn gallu parhau i chwarae rhan bwysig yn ein hamgylchedd a'n diwylliant.

Ym mis Awst, lansiwyd ein hymgynghoriad ar reolau dalfeydd, ond nid oedd hwn yn cynnwys yr afonydd trawsffiniol â Lloegr. Mae'r ymgynghoriad pellach hwn yn awr ar y rhannau o afonydd trawsffiniol Dyfrdwy a Gwy sydd yng Nghymru. Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal yr un ymgynghoriad yn union ar rannau'r Dyfrdwy a’r Gwy yn Lloegr.  Trwy wneud hyn, gallwn geisio sicrhau bod datrysiadau integredig yn cael eu cyflwyno ar y ddwy afon. Mae'r rheolau dalfeydd arfaethedig yn cynnwys holl afonydd Cymru. Rydym yn cydnabod yr angen am ddull cwbl integredig o weithredu ar gyfer ein hafonydd ffiniol ac rydym yn cydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol a bydd yn destun ymgynghoriad yn hwyrach.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Gorfodi dal a gollwng eogiaid ar Afon Dyfrdwy,
  • Gorfodi dal a gollwng brithyll y môr cyn 1 Mai ar Afon Dyfrdwy,
  • Cyfyngiad maint o uchafswm o 60cm i frithyllod y môr yn Afon Dyfrdwy
  • Cyfyngiadau ar ddulliau (abwyd, bachau heb adfach a bachau triphlyg) fel bod gan y pysgod sy'n cael eu rhyddhau siawns dda o oroesi. Bydd y rhain yn berthnasol i Afon Dyfrdwy ac Afon Gwy

Ni fydd y mesurau hyn yn effeithio ar y rheolau dalfeydd '10 mlynedd' helaeth sydd wedi bod ar waith ar Afon Gwy ers 2012 ac nad ydynt i fod i ddod i ben tan 2021.

Hyd

Bydd yr ymgynghoriad statudol ar reolau dalfeydd gwialen a llinyn yn dechrau ar 13 Tachwedd 2017 ac yn parhau tan 5 Chwefror 2018

Sut i ymateb:

Is-ddeddfau

Dylid cyflwyno sylwadau ar yr ymgynghoriad ar yr is-ddeddfau rheolau dalfeydd (hyd y tymor ar gyfer rhwydi, dal a gollwng, uchafswm maint a dulliau cyfyngu ar faint o frithyll y môr a gymerir) i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dylid cyflwyno sylwadau erbyn 5 Chwefror 2018. Gallwch gyflwyno eich sylwadau ar y ffurflen ymateb yn y ffyrdd canlynol

Trwy e-bost at fisheries.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Trwy'r post at:

David Mee,
Is-ddeddfau Trawsffiniol Eogiaid a Brithyllod y Môr
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Maes Newydd,
Llandarcy,
Castell-nedd Port Talbot SA10 6JQ

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig