Cynlluniau rheoli tail a maetholion
Mae asesu a rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â thail da byw yn hanfodol er mwyn atal niwed i'r amgylchedd a phobl.
Gallai peidio â rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â thail da byw arwain at ei ddosbarthu fel deunydd gwastraff a’i reoleiddio drwy drwydded amgylcheddol.
Cynlluniau rheoli tail
Mae cynlluniau rheoli tail yn hanfodol wrth reoli rhai o peryglon tail da byw a helpu sicrhau nad yw eich tail yn cael ei ystyried yn ddeunydd gwastraff.
Mae cynllun rheoli tail yn manylu ar daith tail a slyri o'r dechrau i'r diwedd o'u cynhyrchu i'w casglu, eu storio a'u defnyddio.
Sut i greu cynllun rheoli tail
Dewch i ddeall faint o dail a slyri y bydd eich da byw a'ch system ffermio yn ei gynhyrchu
Gellir cyfrifo swm y tail o niferoedd y da byw ac o lenyddiaeth; gellir cyfrifo swm y slyri fel hyn hefyd ond gellir ei leihau hefyd drwy ddefnyddio dulliau casglu a storio priodol sy'n lleihau faint o ddŵr glaw sy'n cymysgu â thail.
Gwiriwch fod gennych ddigon o le storio
Pan fyddwch yn deall faint o dail da byw y byddwch yn ei gynhyrchu, dylech sicrhau bod digon o le storio ar gael gan ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y tymor a'r tywydd priodol y gallwch wasgaru'r tail.
Dewch i ddeall sut a ble rydych chi'n mynd i ddefnyddio'r tail
Mae'n hanfodol bod yn sicr y gellir defnyddio'r tail a'r slyri yn gyfreithlon a heb achosi llygredd. Os ydych yn mynd i'w ddefnyddio ar eich tir yna dylech ddatblygu cynllun rheoli maetholion (gweler isod) a llunio Map Risg o’r Cae. Dylai'r map nodi faint o dir sy'n addas ar gyfer taenu tail a sylweddau anorganig, ac ardaloedd lle na ddylid taenu tail na sylweddau anorganig.
Mae llawer o resymau pam y gallai tir fod yn anaddas ar gyfer taenu, dylid dilyn y rheolau yn y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) i ddiogelu cyrsiau dŵr, ond hefyd, ni ddylech daenu’n agos at ardaloedd sy'n cynnwys cynefinoedd sensitif.
Wrth anfon at fferm arall, gwiriwch y bydd yn cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon
Os ydych yn bwriadu anfon eich tail i fferm arall i'w daenu, dylech ofyn am eu cynllun rheoli maetholion a sicrhau y gellir ei ddefnyddio'n gyfreithlon ar eu tir. Gallai peidio â gwirio olygu eich bod yn mynd yn groes i ddeddfwriaeth gwastraff.
Os ydych yn anfon eich tail i gael triniaeth bellach (fel treulio anaerobig) neu i'w ddefnyddio fel tanwydd mae angen i chi sicrhau bod gan y safle sy’n ei dderbyn y trwyddedau cywir. Bydd angen i chi gadw cofnod o'r wybodaeth hon i'w archwilio.
Cynlluniau Rheoli Maetholion
Mae'r cynllun rheoli maetholion yn rhan o'r cynllun rheoli tail cyffredinol ac mae'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am gynnwys maetholion y tir a gofynion maetholion y cnydau rydych yn bwriadu eu tyfu.
Mae pedwar cam sylfaenol i gynhyrchu cynllun rheoli maetholion.
Dadansoddi pridd
Cyn rhoi unrhyw beth ar dir, rhaid i chi wybod beth sydd yn y pridd drwy ei ddadansoddi.
Gofynion y cnydau
Yn dibynnu ar y cnwd rydych yn bwriadu ei dyfu a’r cynnyrch disgwyliedig, bydd angen set wahanol o faetholion arnoch. Bydd y wybodaeth hon, ynghyd â dadansoddiad o’r pridd, yn eich helpu i ddeall yr hyn y mae angen i chi ei roi ar y tir er mwyn sicrhau'r cynnyrch mwyaf posibl a lleihau llygredd.
Dewch i ddeall yr hyn y gall eich tail organig ei ddarparu
Mae eich tail organig yn adnodd gwerthfawr ond nid oes math nodweddiadol o dail organig ac felly mae angen dadansoddi. Gall gwybod beth sydd gennych helpu i lenwi unrhyw ddiffyg ac atal gordaenu, sy’n gallu lleihau'r cynnyrch ond hefyd achosi llygredd.
Dewch i ddeall a oes angen ffynonellau gwrtaith anorganig arnoch
Ffynonellau gwrtaith organig yw'r opsiwn gorau bob amser os gellir eu defnyddio mewn ffordd nad yw'n llygru. Dylid defnyddio ffynonellau anorganig pan fetho popeth arall a dim ond i lenwi'r 'bwlch' a nodir yn eich cynllun rheoli maetholion.
Heb gynllun rheoli maetholion mae'n debygol y bydd eich tail organig yn cael ei ystyried yn ddeunydd gwastraff gan na allwch ddangos na fydd ei ddefnydd yn arwain at niwed i'r amgylchedd.
Amlder profi gofynnol
Dylid profi slyri a thail bob tair blynedd oni bai eich bod yn gwneud newid sylweddol i'r deiet.
Dylid dadansoddi pridd unwaith bob pedair blynedd, neu os bydd tystiolaeth yn dod i'r amlwg yn dangos bod mwy o faetholion mewn cyrff dŵr lleol.
Rydym yn argymell defnyddio'r canllawiau arfer gorau ar daenu tail a slyri ar gnydau (RB209) o wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
Gallwch lawrlwytho canllaw manwl ar greu cynllun rheoli maetholion o wefan Tried and Tested
Anghenion tystiolaeth
Os gofynnir i chi, bydd angen i chi allu dangos bod cynllun rheoli maetholion wedi'i wneud a bod y ffordd yr ydych yn defnyddio tail organig yn briodol ar gyfer y tir y mae'n cael ei ddefnyddio arno.
Os ydych yn cynhyrchu ac yn defnyddio'r tail organig ar eich fferm chi yna chi fydd yn gyfrifol am gadw'r dystiolaeth; os ydych chi'n allforio tail yna bydd angen i chi hefyd gadw tystiolaeth y gall y sawl rydych chi'n ei allforio iddo ddefnyddio'r tail organig heb achosi llygredd.
Os ydych yn dod â thail organig i'ch fferm, yna bydd angen i chi gadw gwybodaeth i ddangos bod angen y maetholion ar gyfer y cnwd arfaethedig ar y tir lle rydych yn bwriadu taenu.