Asesiadau o amonia: asesiadau sgrinio a chasglu tystiolaeth cychwynnol, GN 020

Y cam cyntaf yw casglu tystiolaeth er mwyn cynnal eich asesiad. Rydym yn cynghori eich bod yn defnyddio offeryn o'r enw SCAIL ar gyfer cynnal yr asesiad sgrinio cychwynnol. 

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch er mwyn defnyddio SCAIL, ac, os yw'n ofynnol, ar gyfer gwneud gwaith modelu manwl pellach: 

Sylwer:

  • Gellir ond defnyddio SCAIL i asesu effeithiau o fewn pellter o 250 metr i'r datblygiad 
  • Dylid ond defnyddio SCAIL o dan y dewis ‘Conservative MET’
  • Ni ellir defnyddio SCAIL ar gyfer cynnal asesiadau cyfunol
  • Dylid argraffu'r canlyniadau fel dogfen PDF fel tystiolaeth  

Y pellterau sgrinio i'w defnyddio

Dylid defnyddio'r pellter sgrinio o 5 cilometr oni bai fod math eich datblygiad chi wedi'i restru isod. Os yw math eich datblygiad chi wedi'i restru, gofynnwn i chi ddefnyddio'r pellter sgrinio priodol. Ar gyfer datblygiadau sy'n cynnig defnyddio sgwrwyr, 5 km yw'r pellter sgrinio mwyaf sydd ei angen.

  • Ar gyfer 32,000 neu lai o ddodwyr wyau buarth lle symudir tail gyda belt cludo tail: 3 chilometr
  • Ar gyfer 140 neu lai o wartheg eidion: 3 chilometr
  • Ar gyfer 32,000 o ddodwyr wyau mewn cewyll: 10 cilometr
  • Ar gyfer 100,000 neu fwy o ddodwyr wyau buarth: 10 cilometr
  • Ar gyfer 200,000 o frwyliaid: 10 cilometr
  • Ar gyfer 400 neu fwy o wartheg godro: 10 cilometr
  • Ar gyfer 32,000 neu fwy o fathau eraill o ddofednod (nad ydynt yn ieir): 10 cilometr
  • Ar gyfer 1,500 neu fwy o foch: 10 cilometr

Ar gyfer gweithgareddau treulio anaerobig lle bo cyfaint storio'r storfa porthiant a/neu weddillion treuliad anaerobig yn 1,000 metrau ciwbig neu fwy: 10 cilometr

Yn eich asesiad, bydd angen i chi ystyried y safleoedd sensitif a geir o fewn y pellter sgrinio priodol. 

Safleoedd sensitif 

Rydym yn ystyried bod safle sensitif yn ardal sy'n cynnwys cynefin lle mae rhywogaethau na allant oddef lefelau uchel o nitrogen yn hanfodol bwysig i weithrediad y cynefin/ecosystem. Dim ond lefel benodol o amonia y gall y safleoedd sensitif ei goddef, ac adnabyddir y lefel hon fel y lefel gritigol (Cle).

Bydd gan rai o'r safleoedd mwyaf sensitif lefel gritigol o 1 µg/m3 a bydd gan safleoedd eraill lefelau critigol o 3 µg/m3. Mae pob un o'r safleoedd sensitif yr ydym am i ymgeiswyr eu hasesu i'w gweld ar haen fap y gallwch ei chyrchu isod.

Y map

Gweld ardaloedd yr ystyrir eu bod yn sensitif ar ein map data agored

Dilynwch y ddolen, dadgliciwch ‘NRW operational assets’, dewiswch y tab ‘Air Quality’, dewiswch eich ardal chi ar y map rhyngweithiol a chwyddwch i mewn i lefel briodol. Dewiswch y rhestr haenau, dewiswch ‘designations and access’ ac yna dewiswch ‘Habitat Air Quality’ a dewiswch yr holl haenau o fewn yr adran honno. Bydd hyn yn dangos yr ardaloedd yr ydym yn poeni amdanynt, sef y rhai sy'n rhagori ar y lefel gritigol a lle ceir effaith andwyol ar gynefinoedd a rhywogaethau yr ardaloedd hynny. Dyma'r lefel gritigol briodol y dylech ei defnyddio yn eich asesiad, a bydd naill ai'n 1 µg/m3 neu 3 µg/m3.

Mae'n bosibl y caiff y fersiwn hon o'r map ei diweddaru yn y dyfodol wrth i dystiolaeth o'r angen i ddiogelu ardaloedd pellach ddod i'r amlwg. Caiff unrhyw newidiadau eu hysbysebu tri mis ymlaen llaw, a sicrheir y bydd y dystiolaeth ar gael i'w chraffu'n gyhoeddus. 

Tarddleoedd amonia eraill

Mae'r lefel gefndirol o amonia sydd ar gael i chi ar wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer yn cynnwys tarddleoedd amonia hyd at y dyddiad cyhoeddi. Bydd angen i chi wirio porth cynllunio'r awdurdod lleol i gael gwybodaeth am unrhyw darddleoedd eraill, ar safleoedd datblygu lle mae'r gwaith adeiladu wedi'i gwblhau neu lle mae cais caniatâd ar gyfer adeiladu yn mynd rhagddo, y gallent gael effaith ar y safleoedd sensitif o fewn eich pellter sgrinio. Er mwyn cynnal yr asesiad hwn, bydd angen sicrhau bod pob safle sensitif yng nghanol pob ardal chwilio.

Gallwch ddod o hyd i werthoedd cefndirol o wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer.

Darperir lefelau cefndirol y Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer fel set data tair blynedd, ac felly dylech ond gynnwys tarddleoedd amonia sydd wedi bod yn weithredol ers 31 Rhagfyr y flwyddyn ganol yn y set ddata gyfartalog dros dair blynedd. Ystyrir bod tarddleoedd a oedd yn weithredol cyn y dyddiad hwnnw yn rhan o'r lefel gefndirol.

Gallwch ddod o hyd i gwybodaeth am darddleoedd erraill, a safleodd datblygu o wefan porth cynllunio awdurdod lleol

Darllenwch Sut i gynnal gwaith modelu manwl ar allyriadau amonia

Diweddarwyd ddiwethaf