Gwario amser yn natur – Y buddion i iechyd a dysgu
Eisiau dysgu am fanteision dysgu yn yr awyr agored? Angen cyfiawnhau mynd â'ch dysgwyr yn yr awyr agored?
Rydym yn awyddus i helpu ac annog pawb i fentro allan, mwynhau a chysylltu â’r amgylchedd naturiol.
Mae tystiolaeth yn dangos y gall bod yn yr awyr agored a chysylltu â natur arwain at lu o fanteision, gan gynnwys:
Rydym wedi datblygu ein model dilyniant naturiol i helpu i esbonio bod gan bawb y potensial i symud, gam wrth gam, o fod yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu ag ef i sefydlu sawl ymddygiad cadarnhaol gydol oes a fydd yn ein hannog ni i gyd i ofalu am ein byd.
Lawrlwythwch y poster dilyniant naturiol
Rhaid cael profiad ymarferol o natur cyn y gellir datblygu cysylltiad trwy fwynhad!
Ar ôl inni dreulio digon o amser yn yr awyr agored, mae perthynas yn dechrau ffurfio. Gorau yn y byd yw’r profiad hwn, gorau yn y byd fydd y canlyniadau.
Gall pob un ohonom gymryd camau cadarnhaol i annog a chreu’r cysylltiad:
Ar ôl inni greu cysylltiad â byd natur, mae ein gwybodaeth am brosesau a systemau naturiol yn dechrau datblygu.
Wrth inni ennill gwybodaeth a dealltwriaeth newydd, gallwn symud rhwng camau 3 a 6 nifer o weithiau.
Gydag amser a phrofiad, bydd gwell dealltwriaeth o ecosystemau ac adnoddau naturiol yn datblygu, gan ein galluogi i ystyried sut y mae’r camau a gymerwn yn effeithio ar yr amgylchedd.
Gall pob un ohonom gymryd camau cadarnhaol i wella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth:
Gan fod dealltwriaeth dda o’n lle ym myd natur wedi datblygu bellach, byddwn yn ffurfio ein barn ein hunain ynghylch materion lleol a byd-eang e.e. ein safbwynt personol ynghylch newid hinsawdd neu ein hagwedd at ailgylchu.
Ar ôl creu cysylltiad â natur, ynghyd â datblygu dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol a safbwynt personol, yn awr gallwn addysgu a dylanwadu ar eraill.
Gall pob un ohonom gymryd camau cadarnhaol i addysgu a dylanwadu ar eraill:
Mae CNC wedi datblygu’r camau Dilyniant Naturiol hyn er mwyn cefnogi twf y dinasyddion egwyddorol a gwybodus y mae ein cwricwlwm newydd yng Nghymru yn anelu at eu datblygu.
Am ragor o wybodaeth: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
A oes unrhyw beth o’i le ar y dudalen hon? Rhowch adborth inni