Llifogydd o gronfeydd dŵr
Mae'r graddliwio ar y map yn dangos y sefyllfa waethaf bosibl ar gyfer yr ardal a allai ddioddef o lifogydd petai cronfa ddŵr fawr yn gollwng ac yn rhyddhau'r dŵr y mae'n ei gronni. Mae cronfa ddŵr fawr yn un sy'n dal 10,000 metr ciwbig o ddŵr, sy’n cyfateb i tua 4 pwll nofio o faint Olympaidd.
Mae llifogydd o gronfeydd dŵr yn annhebygol iawn o ddigwydd. Nid oes neb wedi colli'i fywyd o ganlyniad i lifogydd o gronfa ddŵr er 1925. Mae'n rhaid i bob cronfa ddŵr gael ei harchwilio a'i harolygu gan beirianwyr paneli cronfeydd dŵr. Fel yr awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru, rydyn ni'n sicrhau bod cronfeydd yn cael eu harchwilio'n rheolaidd a bod gwaith diogelu hanfodol yn cael ei wneud.
Nid yw mapiau llifogydd y gronfa yn nodi unrhyw debygolrwydd o lifogydd yn digwydd.
Beth i'w wneud pe byddai cronfa ddŵr yn gollwng
Petai'r annhebygol yn digwydd, a chronfa ddŵr yn gollwng, gallai swm mawr o ddŵr ddianc ar unwaith, a gallai llifogydd ddigwydd gyda fawr ddim rhybudd neu ddim rhybudd o gwbl.
Os ydych chi’n byw neu'n gweithio mewn ardal a allai ddioddef o lifogydd o gronfa ddŵr, dylech gynllunio ymlaen llaw beth i'w wneud mewn argyfwng. Efallai y bydd angen i chi fynd oddi yno ar unwaith. Ystyriwch a chynlluniwch i ble, a sut y byddech yn mynd er mwyn bod yn ddiogel, a byddwch yn barod i ddilyn cyngor y gwasanaethau brys.
Er mwyn cael gwybodaeth am gynlluniau brys, cysylltwch â'ch awdurdod lleol. Rhaid i chi fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl na fyddan nhw'n gallu rhoi unrhyw wybodaeth benodol i chi ar unwaith gan fod datblygu cynlluniau argyfwng ar gyfer cronfeydd dŵr yn gyfrifoldeb newydd.
Gall yr ardal hon fod mewn perygl o fathau eraill o lifogydd.