Diweddaru Targedau Ansawdd Dŵr ar gyfer ACAau Afonydd Cymru 2022

Yn sgil newidiadau i ganllawiau ansawdd dŵr gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, rydym wedi adolygu’r Amcanion Cadwraeth ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonydd yng Nghymru.

Mae naw ACA a ddynodwyd ar gyfer un neu fwy o nodweddion afonydd yng Nghymru, sef:

  • Afon Eden – Cors Goch Trawsfynydd
  • Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn
  • Afon Teifi
  • Afon Tywi
  • Afonydd Cleddau
  • Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion (Afon Glaslyn)
  • Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid
  • Afon Wysg
  • Afon Gwy

Y llynedd, cyhoeddwyd targedau ffosfforws diwygiedig ar gyfer y naw afon ACA, ynghyd ag asesiad cydymffurfio yn erbyn y targedau hynny.

Darllenwch yr adroddiad ar y targedau ffosfforws.

Rydym bellach yn cyhoeddi'r targedau ar gyfer saith dangosydd ansawdd dŵr arall sef:

  • Cyfanswm Amonia
  • Amonia heb ei Ïoneiddio
  • Y Galw Biolegol am Ocsigen
  • Ocsigen Tawdd
  • pH
  • Y Gallu i Niwtralu Asidau
  • Mynegai Diatomau Troffig

Rhennir pob afon ACA yn gyrff dŵr (ardaloedd rydym yn eu hasesu). Ar gyfer y naw afon ACA mae cyfanswm o 127 o gyrff dŵr a darperir y targedau ar gyfer pob dangosydd ansawdd dŵr yn y daenlen isod.

Mae'r targedau ansawdd dŵr hyn wedi'u cynnwys yn yr Amcanion Cadwraeth ar gyfer pob afon ACA, fel y'u cyhoeddwyd yn y Cynlluniau Rheoli Craidd ar gyfer pob safle.

Gallwch weld y Cynlluniau Rheoli Craidd drwy fynd at yr ardal warchodedig sydd o ddiddordeb i chi ar ein adnodd chwilio am safleoedd gwarchodedig dynodedig.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf