Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru 2019
Crynodeb Gweithredol
Mae dyfroedd ymdrochi o ansawdd da yn bwysig iawn i gymunedau arfordirol, ymwelwyr a'r economi yng Nghymru. Yn 2019, gwnaeth bob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru gyflawni’r safonau a bennir gan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi. O'r 105 o ddyfroedd ymdrochi a aseswyd yng Nghymru, roedd 83 o safon ragorol, 17 wedi cyflawni safon dda, ac roedd pump o safon ofynnol, ddigonol.
Mae'r Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi yn cyflwyno system ddosbarthu gyda safonau ansawdd dwr llym ac yn rhoi pwyslais ar ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd. Mae'n rhaid i aelod-wladwriaethau hysbysu aelodau'r cyhoedd am y dull o reoli dyfroedd ymdrochi, ansawdd dyfroedd ymdrochi a'r peryglon posibl sy'n gysylltiedig ag ansawdd dyfroedd ymdrochi ac iechyd cyhoeddus. Mae’r safonau ansawdd dŵr o fewn y gyfarwyddeb bresennol yn llawer uwch na'r rheini yn y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi wreiddiol. Mae dyfroedd yn cael eu dosbarthu yn seiliedig ar samplau a gymerwyd o'r pedair blynedd flaenorol er mwyn cymedroli effeithiau sefyllfaoedd eithafol.
Enillodd pum dŵr ymdrochi ychwanegol ddosbarthiad rhagorol yn 2019 o gymharu â'r canlyniadau yn 2018. O gymharu â glawiad hirdymor cyfartalog, mae data'r Swyddfa Dywydd yn dangos bod 2019 yn flwyddyn wlyb. Fel arfer, disgwylir dirywiad mewn ansawdd y dŵr gan fod glawiad yn golchi llygredd o ardaloedd trefol ac amaethyddol gwledig i gyrsiau dŵr ac yn cynyddu gweithrediad gorlifoedd carthion, a gynlluniwyd i atal carthion rhag cronni a threiddio i gartrefi a busnesau.
Mae cyflawni'r gwelliant cyffredinol hwn, yn ystod blwyddyn wlyb, yn adlewyrchu'r camau sy'n cael eu cymryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Awdurdodau Lleol, sefydliadau ffermio a thirfeddianwyr i wella ansawdd dŵr. Gwneir y gwelliannau'n lleol, megis gwelliannau i arllwysfeydd a charthffosiaeth; ac yn fwy cyffredinol, er enghraifft lleihau llygredd dŵr gwasgaredig o dir ffermio cefn gwlad ehangach.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar y safonau yn y gyfarwyddeb. Mae'r samplau'n cael eu dadansoddi am ddau fath o facteria, sy'n nodi llygredd o garthion neu dda byw. Gall dŵr sydd wedi'i lygru gael effaith ar iechyd dynol, gan achosi anhwylder y stumog a dolur rhydd os caiff ei lyncu.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau monitro'r dyfroedd ymdrochi yn 2019. Ein her yw diogelu a gwarchod ein hadnoddau naturiol ac felly cynnal y safonau uchel a gyflawnwyd eleni yn ein dyfroedd ymdrochi.
Canlyniadau gwaith samplu a dadansoddi ansawdd dŵr 2019
|
Enw’r Dŵr Ymdrochi |
Cydymffurfio yn 2019 |
Cydymffurfio yn 2018 |
|
Aberdaron |
Ardderchog |
Da |
|
Aberdyfi Gwledig |
Ardderchog |
Da |
|
Abereiddi |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Aberffraw |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Abermawr |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Abersoch |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth Canolog Amroth |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Barafundle |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Abermo |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Benllech |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Y Borth |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Borthwen |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Bracelet |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Broad Haven (Canolog) |
Ardderchog |
Da |
|
Broad Haven (De) |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Caerfai |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Caswell |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Porth Swtan |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Cilborth |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Cold Knap, Y Barri |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Colwyn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Colwyn Porth Eirias |
Ardderchog |
N/A |
|
Coppet Hall |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth Craig Ddu (Canolog) |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Dale |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Druidston Haven |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Dyffryn (Llanendwyn) |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Y Friog |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Freshwater East |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Freshwater West |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth Glan Don |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Harlech |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Langland |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Limeslade |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Little Haven |
Ardderchog |
Da |
|
Llandanwg |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llanddona |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llanddwyn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llandudno (Gorllewin) |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llanfairfechan |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llangrannog |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llanrhystud |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Llyn Padarn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Lydstep |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Maenorbŷr |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth Marloes |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Morfa Dinlle |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Morfa Nefyn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Mwnt |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Harbwr Cei Newydd |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Niwgwl |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Oxwich |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Pen-bre |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Penalun |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Pen-bryn |
Ardderchog |
Da |
|
Pentywyn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Penmaenmawr |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Gorllewin Poppit |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Porth Eynon |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Porth Dafarch |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Porth Neigwl |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Prestatyn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Pwllheli |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Rest Bay, Porthcawl |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Rhosneigr |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Rhosili |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Sandy, Porthcawl |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Saundersfoot |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Rhoscolyn |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Southerndown |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
St Davids - Benllech |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Tal-y-Bont |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth y De, Dinbych-y-pysgod |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth Lligwy |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Trearddur |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Trecco, Porthcawl |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Tresaith |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
West Angle |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Traeth Mawr |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Bae Whitmore, Ynys y Barri |
Ardderchog |
Da |
|
Wiseman's Bridge |
Ardderchog |
Ardderchog |
|
Aberafan |
Da |
Da |
|
Aberdyfi |
Da |
Da |
|
Aberporth |
Da |
Da |
|
Aberystwyth (Gogledd) |
Da |
Ardderchog |
|
Aberystwyth (De) |
Da |
Da |
|
Clarach (de) |
Da |
Da |
|
Cricieth |
Da |
Ardderchog |
|
Bae Jackson, Ynys y Barri |
Da |
Digonol |
|
Bae Cinmel (Sandy Cove) |
Da |
Da |
|
Cei Newydd (Gogledd) |
Da |
Digonol |
|
Traeth y Gogledd, Trefdraeth |
Da |
Da |
|
Nolton Haven |
Da |
Da |
|
Dwyrain y Rhyl |
Da |
Da |
|
Sandy Haven |
Da |
Da |
|
Bae Abertawe |
Da |
Digonol |
|
Traeth Gwyn, Cei Newydd |
Da |
Da |
|
Tywyn |
Da |
Da |
|
Abergele (Pensarn) |
Digonol |
Da |
|
Cemais |
Digonol |
Digonol |
|
Llandudno (Gogledd) |
Digonol |
Da |
|
Llyn Morwrol, y Rhyl |
Digonol |
Da |
|
Y Rhyl |
Digonol |
Digonol |