Blaenoriaethau Ymchwil Cydweithredol Amgylchedd Dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu rhestr o gyfleoedd ar gyfer prosiectau ymchwil cydweithredol sy’n ymwneud â’r amgylchedd dŵr yng Nghymru.

Mae’r blaenoriaethau’n rhoi arwydd cynnar o themâu a phrosiectau ymchwil sydd ar gael ac sy’n cynnig cyfleoedd i gydweithio â phartneriaid a sefydliadau academaidd.

Gellir categoreiddio anghenion y dystiolaeth yn fras fel a ganlyn:

  • Ansawdd dŵr
  • Monitro
  • Adnoddau dŵr
  • Rheoli tir
  • Ecosystemau

I gael rhagor o fanylion lawr lwythwch Ddrafft Anghenion Tystiolaeth Dŵr.

Croesawn ymholiadau a sylwadau gan bobl sydd â diddordeb mewn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ein hanghenion ymchwil. Rydym yn awyddus i glywed am ymchwil presennol ac arfaethedig allai ddiwallu ein hanghenion, neu unrhyw farn sydd gennych am flaenoriaethau neu fylchau mewn gwybodaeth nad ydym wedi eu nodi.

Cyflwynwch eich sylwadau i: WFDWales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Gallwch hefyd ddarllen am ein blaenoriaethau ymchwil cydweithredol bioamrywiaeth forol.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf