Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Cyflwyniad

Heriau cyfredol

Yn yr Adroddiad cyntaf ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, gwnaethom gydnabod mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r her fwyaf i reoli adnoddau naturiol Cymru'n gynaliadwy.  

Tair blynedd ar ôl ein hadroddiad cyntaf, mae'n amlwg ein bod yn wynebu dwy her fyd-eang fawr a rhyng-gysylltiedig: y newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Cadarnhawyd graddfa'r newid yn yr hinsawdd yn 2019 gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC).

Yn 2019, gwnaeth yr adroddiad ar fioamrywiaeth ac ecosystemau gan y Platfform Polisi Gwyddoniaeth Rhynglywodraethol ar Wasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (IPBES) ddisgrifio colli bioamrywiaeth fel bygythiad o'r un faint.

Mae Rhagolwg Adnoddau Byd-eang 2019 Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) yn nodi camau gweithredu arloesol a pholisi sy'n ddeniadol i'r economi ac yn ymarferol yn dechnolegol. Gallai'r rhain oresgyn cydnerthedd ein systemau cynhyrchu a defnyddio anghynaliadwy – ar yr amod ein bod yn eu rhoi ar waith ar unwaith.

Datganiadau

Mae llywodraethau a chynghorau wedi datgan argyfwng o ran yr hinsawdd a byd natur. 

Pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ei bod yn gobeithio y byddai'r datganiad yn sbarduno:

ton o weithredu, gartref ac yn rhyngwladol, o'n cymunedau, busnesau a sefydliadau ein hunain i seneddau a llywodraethau ym mhob cwr o'r byd. 

Rydym wedi cefnogi hyn drwy rannu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i leihau ein heffaith garbon mewn pedwar maes o'n busnes.

Ymgyrchoedd

Ledled y byd, mae ymgyrchoedd fel Streiciau Ysgol dros yr Hinsawdd a'r Extinction Rebellion yn mynnu camau gweithredu brys. 

Mynd i'r afael â'r heriau

Gellir datrys yr heriau hyn os byddwn yn gweithredu nawr.

Mae adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn pwysleisio y bydd mynd i'r afael â'r argyfwng o ran yr hinsawdd yn gofyn am newidiadau ym mhob sector economaidd mawr.

Bydd angen i ddiwydiannau trwm, ynni, gwastraff, defnydd tir, amaethyddiaeth, seilwaith, trafnidiaeth ac adeiladau addasu. 

Noda Rhagolwg Amgylchedd Byd-eang y Cenhedloedd Unedig fod angen polisïau newydd, effeithiol ac integredig ar systemau bwyd, ynni a thrafnidiaeth, cynllunio trefol, a chynhyrchu cemegol i gyd.

Ffocws ein hadroddiad interim

Yn yr adroddiad interim hwn, rydym yn egluro ein dull o asesu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Rydym yn edrych yn fanylach ar yr argyfyngau o ran yr hinsawdd a byd natur, gan nodi anghenion tystiolaeth.

Wedyn, rydym yn cynnig datrysiadau economaidd a chymdeithasol i'r problemau hyn.

Yr hyn y gall yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ei wneud

Gall yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol gael ei ddefnyddio gan unrhyw un sy'n ceisio lleihau effaith Cymru ar adnoddau naturiol ar yr un pryd ag yr ydym yn cael budd ohonynt.

Mae'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn helpu i lywio Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. 

Mae'n galluogi cynnydd yn erbyn nodau llesiant Cymru.

Caiff yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ei ddefnyddio gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth iddynt weithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Bydd yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau cynllunio lleol i helpu i wneud penderfyniadau cynllunio lleol. 

Mae'n bwydo i mewn i'r gwaith o ddatblygu Datganiadau Ardal er mwyn hybu ein gwaith yn lleol.   

Adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol, polisi adnoddau naturiol, datganiadau ardal

Sut rydym yn asesu adnoddau naturiol Cymru

Cewch wybod sut rydym yn asesu'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf