Rhestr Coetiroedd Hynafol

Mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol yn rhestru coetiroedd lle bu gorchudd coetir am gyfnod di-dor o ganrifoedd. Mae astudiaethau’n dangos fod y coetiroedd hyn fel arfer yn fwy amrywiol yn ecolegol ac o werth cadwraeth uwch na’r rhai a ddatblygwyd yn ddiweddar neu’r rheiny lle bu’r gorchudd coetir ar y safle yn ysbeidiol. Gallant hefyd fod yn bwysig yn ddiwylliannol.

Hanes y Rhestr

Yn y 1980au, sefydlodd y Cyngor Gwarchod Natur (fel yr oedd ar y pryd) y Rhestr o Goetiroedd Hynafol (AWI), sy’n ceisio nodi’r holl goetiroedd hynafol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mabwysiadwyd 1600 OC fel dyddiad dechreuol gan fod mapiau gweddol dda ar gael o’r adeg honno (yn Lloegr, o leiaf). Fodd bynnag, dyddiad mympwyol oedd 1600 OC, heb unrhyw derfyn ecolegol clir ar yr adeg hon. Y mapiau sylfaen a ddefnyddiwyd oedd y mapiau Arolwg Ordnans 1”, argraffiad 1af, a gyhoeddwyd yn y 1830au. Fel rhywbeth dros dro, y byddai angen ei gaboli, yr ystyriwyd yr AWI erioed ac nid oedd wedi’i fwriadu i fod yn rhestr ddiffiniol o goetiroedd hynafol, neu’r coetiroedd 'gorau'.

Diweddaru'r rhestr

Lluniwyd fersiwn y 1980au o’r rhestr â llaw gan ddefnyddio dargopïau oddi ar fapiau papur ac roedd ynddynt nifer sylweddol o anghysondebau ffiniau. Yn y 1990au hwyr, cafodd y mapiau papur eu newid i fformat digidol a gwnaed ymdrech gychwynnol i gysoni’r ffiniau â ffiniau digidol yr Arolwg Ordnans. Cwblhawyd y gwaith hwn a rhyddhawyd fersiwn ddigidol gyntaf y rhestr yn 2004. Cyfeirir at y fersiwn hon fel AWI 2004.

Adolygiadau cynhwysfawr

Yn ystod y gwaith digido, daeth yn amlwg fod angen adolygiad cynhwysfawr i ddatrys yn llwyr yr anghysondebau y cafwyd hyd iddynt pan oedd AWI digidol 2004 yn cael ei baratoi.  Roedd fersiynau digidol o fapiau Arolwg Ordnans Cyfres 1af y Siroedd (1: 2,500), sy’n cael eu galw’n fapiau 'Epoch 1', wedi cael eu llunio ac er eu bod rai blynyddoedd yn fwy diweddar na’r mapiau argraffiad 1af, maent yn llawer gwell o ran graddfa, eglurder a manylder. Cafodd y potensial i ddefnyddio’r mapiau hyn fel sylfaen ar gyfer rhestr ddiwygiedig ei gydnabod ac, ar ôl dwy astudiaeth beilot, penderfynwyd y byddent yn datrys llawer o anghysondebau blaenorol ac yn diffinio ffiniau Coetiroedd Hynafol ar draws Cymru yn well o lawer.

Wahaniaethau ecolegol

Cynhaliwyd arolwg ecolegol i gadarnhau nad oedd yna wahaniaethau ecolegol o bwys rhwng y coetiroedd hynny ar yr AWI a oedd yn bodoli’n barod a’r rhai a oedd i’w gweld ar y mapiau 'Epoch 1'. Roedd mapiau 'Epoch 1', sydd ar raddfa fwy, yn golygu bod modd adnabod coetiroedd hynafol cyn lleied â 0.5ha (y trothwy cyn hynny oedd 2ha).

Adolygiadau yng Nghymru

Rhwng 2010 a 2011, comisiynodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru adolygiad o’r AWI yng Nghymru. Y rhagdybiaeth sylfaenol oedd bod coetiroedd sy’n cael eu dangos ar fapiau 'Epoch 1', ac sydd ar y Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol (a seiliwyd ar ddelweddau modern o’r awyr), yn goetiroedd hynafol posib. Mae’r rhestr fwy diweddar hon (AWI 2011) yn dangos fod oddeutu 95,000ha o goetiroedd hynafol yng Nghymru, sy’n cymharu â 62,000ha yn AWI 2004.

  • Mae arwynebedd y coetir hynafol yn AWI 2011 33,000ha (53%) yn fwy nag yn AWI 2004. Mae’r rhan fwyaf o’r ffigwr diwygiedig yn Goetir Hynafol Lled Naturiol (ASNW) mewn perchenogaeth breifat (29,000ha)
  • Mae 5,000ha yn fwy o goetir hynafol ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, o’i gymharu ag yn AWI 2004, ac mae’r rhan fwyaf ohono wedi’i ddynodi’n Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)
  • Ceisiodd y rhestr nodi hefyd ardaloedd o Goetir Pori Hynafol y tu allan i ffiniau’r Coetiroedd Hynafol. Nid yw’r gwaith hwn wedi’i gwblhau ond y mae’n sylfaen ar gyfer datblygiadau pellach

Categorïau Coetiroedd

Mae’r Rhestr Coetiroedd Hynafol yn gosod coetiroedd mewn un o bedwar categori:

  • Coetir Hynafol a Lled-Naturiol (ASNW) – coetiroedd yw’r rhain ag iddynt nodweddion ‘naturiol’ ac sydd yn cynnwys coed brodorol gan mwyaf a rhywogaethau llwyni o darddiad naturiol, a'r rheiny yn amlwg heb eu plannu. Y gred yw eu bod wedi bodoli ers dros 400 mlynedd
  • Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) – y gred yw bod y coetiroedd hyn wedi bodoli ers dros 400 mlynedd. Mae ganddynt ganopi o rywogaethau conwydd anfrodorol sy’n cynrychioli >50% o’r brigdwf
  • Safleoedd Coetir Hynafol a Adferwyd (RAWS) – coetiroedd hynafol yw’r rhain sy'n cynnwys rhywogaethau conwydd anfrodorol. Maent wedi bodoli ers dros 400 mlynedd. Byddant wedi bod trwy gyfnod pan fyddai’r brigdwf yn >50% conwydd anfrodorol ond maent bellach yn >50% llydanddail
  • Sylwer nad yw’r ffynonellau gwybodaeth yn dangos a yw’r coed llydanddail yn gynhenid i’r safle ac felly rhagdybiwyd eu bod yn gynhenid
  • Safle Coetir Hynafol Anhysbys (AWSU) – ardaloedd yw’r rhain a allai fod yn ASNW, RAWS neu PAWS. Mae’r ardaloedd hyn mewn cyfnod o drawsnewid yn bennaf, lle disgrifir y gorchudd coed presennol fel 'llwyni', 'coed ifainc', 'coed a gwympwyd' neu 'dir a baratowyd ar gyfer plannu'

Map y Rhestr o Goetiroedd Hynafol

Gallwch astudio map  a data GIS drwy ddefnyddio MapDataCymru.

Rhestr o Goetiroedd Hynafol - Ymholiadau am ddynodiadau

Gwnewch ymholiad am ddynodiad coetir yn y Rhestr Coetiroedd Hynafol

Diweddarwyd ddiwethaf