Ein llyfrgell a'n gwybodaeth
Gwybodaeth ar amrywiaeth eang o bynciau
Mae catalog gwe y llyfrgell yn cofnodi'r holl eitemau a gedwir yn ein swyddfeydd.
Gallwch gael mynediad at wybodaeth o lyfrau, adroddiadau, cyfnodolion a chyhoeddiadau llywodraeth ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â rheoli adnoddau naturiol ac amgylchedd Cymru.
Mae'r pynciau hyn yn cynnwys:
- cadwraeth
- polisi ac arfer
- bioamrywiaeth
- bywyd gwyllt y tir a'r môr
- rheoli dŵr a thir
- mynediad a hamdden
- daeareg
- Adroddiadau a chyhoeddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff blaenorol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Comisiwn Coedwigaeth
- llyfrau astudiaethau natur lleol
>Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni.
Ymweld â Llyfrgell Maes y Ffynnon ym Mangor
Mae croeso i chi ymweld â'n llyfrgell ym Maes y Ffynnon, Bangor er mwyn gweld a darllen eitemau. Noder, fodd bynnag, na ellir benthyca eitemau.
Chwilio trwy ein catalog cyn ymweld â ni
Mae'n bosibl y byddwch yn dymuno chwilio trwy catalog gwe y llyfrgell cyn ichi ymweld â ni. Cysylltwch â ni ag unrhyw ymholiadau, i drefnu apwyntiad i ymweld â'n llyfrgell neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano.
Cysylltwch â'r llyfrgell os ydych yn dymuno cael copi o gyhoeddiad neu adroddiad Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt, gallwn ddarparu ar ffurf PDF neu gopi caled.
Oriau ymweld
- Dydd Llun i ddydd Iau, 10am –4:30pm
- Dydd Gwener, 10am – 4pm
Cysylltu â ni
E-bost: library@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Ffôn: 0300 065 4121 neu 0300 065 4890
Gallwch hefyd ysgrifennu i:
Llyfrgell
Cyfoeth Naturiol Cymru
Maes y Ffynnon
Ffordd Penrhos
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW