Ardaloedd Cymeriad Morol

Beth yw Ardaloedd Cymeriad Morol?

Mae morweddau, fel tirluniau, yn adlewyrchu’r perthynas rhwng pobl a lle a’r rhan maent yn chwarae wrth lunio’r cefndir ar gyfer ein bywydau bob dydd

Mae Ardaloedd Cymeriad Morol yn amlygu’r dylanwadau naturiol, diwylliannol a  chanfyddiadol allweddol sy’n gwneud nodwedd bob morwedd unigol yn wahanol ac unigryw.

Cymeriad ein morwedd

Cawsom ein comisiynu i nodi cymeriad morweddau Cymru ar lefel ehangach ar ran Llywodraeth Cymru. Wnaethom rannu ein dyfroedd mewndirol fewn i 29 Ardal Cymeriad Morol.

Mae’r gwaith hwn yn darparu tystiolaeth ofodol strategol ar morweddau er mwyn cyfrannu at Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru, sy’n cael ei baratoi gan Lywodraeth Cymru. Mae eu hymgynghoriad ar y cynllun drafft yn rhoi cyfle i drafod yr ardaloedd hyn.

Ceir disgrifiad o nodweddion allweddol ymhob proffil ardal, gan gynnwys eu dylanwadau canfyddiadol, naturiol a diwylliannol, yn ogystal â mapiau rhyngwelededd tir - môr

Pwysigrwydd o ddeall ein morweddau

Mae cymeriad morwedd yn nodi cysylltiadau rhwng pobl a’u diwylliant, lleoedd a’u hadnoddau naturiol. Felly, mae cymeriad morwedd yn gysyniad cyfannol ac yn hanfodol ar gyfer cynllunio adnodd naturiol.

Mae deall ymdeimlad o le ein morweddau yn bwysig iawn wrth gynllunio gweithgareddau hamdden a thwristiaeth. Mae hyrwyddo beth sy’n wahanol ac arbennig ar gyfer ymwelwyr yn helpu i ddod â ffyniant i’n cymunedau arfordirol. 

Yn eistedd o dan Ardaloedd Cymeriad Morol mae asesiadau cymeriad morwedd ar raddfa leol, sy’n fanylach. Mae rhaglen waith tymor hir i gyflwyno cwmpas manylach, wedi arwain at asesiadau cymeriad morwedd lleol, sydd wedi cynnwys tua 50% o Gymru hyd yn hyn. Yr ardaloedd sydd wedi eu cynnwys hyd yn hyn, yw Sir Benfro, Sir Fôn a rhannau o Wynedd. Mae ardaloedd eraill ar y gweill.

Os ydych am wybodaeth bellach neu am gynnig sylwadau, cysylltwch â 

seascape@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Darllenwch yr adroddiad

Crynodeb gweithredol, cyflwyniad, dull, delwedd map a atodiadau

Diweddarwyd ddiwethaf