Gwasanaethau Dadansoddi
Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae Gwasanaethau Dadansoddol Cyfoeth Naturiol Cymru (NRWAS) yn labordy dadansoddol sydd wedi'i achredu gan Wasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS), gydag arbenigedd ar reng flaen y diwydiant mewn dadansoddi dŵr croyw a gwaddodion cymhleth.
Wedi'i sefydlu'n wreiddiol yn 1979 yn Llanelli fel Labordy Ardal De-orllewin Awdurdod Dŵr Cymru, ac yn cynnal cyfleuster Ymchwil a Datblygu ar gyfer Gwasanaeth Labordai Cenedlaethol Asiantaeth yr Amgylchedd yn ddiweddarach, rydym wedi bod yn darparu datrysiadau dadansoddol arbenigol ers mwy na 40 o flynyddoedd. Gyda'i gilydd, mae gan ein tîm fwy na 500 mlynedd o brofiad dadansoddol.
Fel rhan anhepgor o Cyfoeth Naturiol Cymru, rydyn ni'n helpu i gyflawni rhwymedigaethau statudol Llywodraeth Cymru i Gyfarwyddebau Fframwaith Dŵr, Dŵr Ymdrochi a Chynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd.
Rydym yn prosesu ystod eang o samplau dŵr croyw, halwynog a dŵr ymdrochi, yn ogystal â gwaddod, priddoedd a biota, a gymerir ledled Cymru er mwyn helpu i sicrhau bod ein dyfroedd yng Nghymru yn cyrraedd safonau ansawdd amgylcheddol sy'n hyrwyddo buddion ar gyfer bywyd gwyllt a phobl Cymru.
Ein safonau a'n hachrediad
Rydym wedi ein hachredu at safon diwydiant rhyngwladol – ISO/IEC 17025:2017 gan UKAS, y corff achredu cenedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Mae’r labordy yn cael ei harchwilio’n allanol yn flynyddol er mwyn sicrhau fod ein gwaith yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion caeth ein System Reoli Ansawdd.
Gweler ein Hatodlen Achredu gan UKAS.
Gwasanaethau dadansoddol
Cynhyrchion organig
Mae ein labordy cynhyrchion organig yn cynnig profion ar gyfer samplau dyfrllyd sy'n cwmpasu halogion fel chwynladdwyr, plaladdwyr a chyfansoddion organig eraill. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Hydrocarbonau aromatig polysyclic (PAHau)
- Biffenylau polyclorinedig (PCBau)
- Ffenols
- Pyrethroidau Synthetig
- Cyfansoddion Organig Anweddol (VOC)
Ceir hyd i'r cyfansoddion hyn mewn sylweddau fel olew, glo, hylifau oeryddion, diheintyddion a phryfladdwyr. Os nad yw cyfansoddiad sampl dyfrllyd yn hysbys, neu os yw amrywiaeth o gyfansoddion o ddiddordeb, rydym yn cynnig profion sgrinio ansoddol sy'n cwmpasu ystod ehangach o gyfansoddion.
Profion sgrinio
Rydym yn cynnig sgriniau Sbectrometreg Màs Cromatograffaeth Hylif (LCMS) a Sbectrometreg Màs Cromatograffaeth Nwy (GCMS) i nodi presenoldeb neu absenoldeb cyfansoddion o fewn Cronfa Ddata Cemegion Peryglus, yn ogystal â'n cronfa ddata o dros 1,600 o gyfansoddion sy'n cynnwys cynhyrchion fferyllol a'u metabolynnau, plaladdwyr, cyffuriau anghyfreithlon a chyfansoddion eraill o bryder gwenwynegol.
Os oes gennych unrhyw ansicrwydd ynglŷn â pha ddadansoddiadau sydd fwyaf addas i'ch buddiannau, bydd ein tîm o arbenigwyr technegol yn gallu rhoi cyngor ar y dull sydd fwyaf priodol ar gyfer eich gofynion.
Rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r llenyddiaeth y mae ein dadansoddwyr wedi cyfrannu ati wrth ddatblygu dulliau organig.
Cynhyrchion anorganig
Mae ein labordy cynhyrchion anorganig yn dadansoddi samplau dŵr croyw a halwynog ar gyfer cyfansoddion gwahanol sy'n digwydd yn naturiol mewn cyrsiau dŵr fel nitradau, ffosffadau a sylffadau yn ogystal â phrofi am nodweddion eraill ansawdd dŵr fel pH, afloywder a lliw.
Mae ein tîm yn gallu profi am lefelau isel o faethynnau sy'n digwydd yn naturiol mewn cyrsiau dŵr, neu ar gyfer lefelau uchel sy'n bresennol yn aml o ganlyniad i garthion ac allfeydd masnach. Mae'r dadansoddiadau a gynhelir gan ein tîm cynhyrchion anorganig yn helpu gyda datblygiad cynlluniau rheoli basnau afonydd drwy nodweddu'r pwysau cemegol sy'n wynebu'r amgylchedd dyfrol ym mhob un o dair ardal basn afon Cymru.
Metelau
Mae ein labordy metelau yn gallu cynnal dadansoddiadau sy'n canfod lefelau hybrin o fetelau a mwynau mewn samplau biota, gwaddod, priddoedd a samplau dyfrol. Mae galluoedd profi'r labordy metelau yn cwmpasu elfennau sy'n digwydd yn naturiol fel calsiwm, magnesiwm neu alwminiwm, yn ogystal â metelau trwm peryglus fel mercwri, cadmiwm a phlwm.
Dadansoddir samplau dyfrllyd ar gyfer metelau hybrin gan ddefnyddio Sbectrometreg Màs Plasma Cypledig Anwythol (ICPMS) neu Sbectrometreg Allyriadau Optegol Plasma Cypledig Anwythol (ICPOES). Mae mercwri dyfrllyd yn cael ei fesur gan fflworoleuedd atomig anwedd oer.
Yn ogystal â meintioli metelau hybrin, mae ein labordy metelau wedi'i hyfforddi'n llawn ar gyfer cynhyrchu dadansoddiad cynhwysfawr ar gyfer maint gronynnau, meintioli carbon organig a chanrannau solidau sych.
Microbioleg
Bob haf, mae ein tîm microbioleg yn profi samplau o 105 o ddyfroedd ymdrochi ledled Cymru er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu diogelu rhag y risgiau i iechyd a achosir gan all-lifau o garthion posibl o dir ffermio, gweithfeydd rheoli gwastraff ac ardaloedd poblog.
Mae ein labordy microbioleg yn profi am ddau fath o facteria penodol, E coli ac enterococci coluddol, sy'n cynnig syniad o lefel y llygredd ysgarthol. Mae'r ddwy organeb ddangosol yn gallu effeithio ar iechyd pobl drwy achosi anhwylderau yn y stumog ac anhwylderau enterig os maen nhw'n cael eu llyncu.
Samplu goddefol
Rydym yn cynnig gwasanaeth samplu goddefol sydd ar reng flaen y diwydiant, o dan oruchwyliaeth yr arbenigwyr technegol a wnaeth helpu i ddatblygu a pherffeithio'r dechneg hon. Mae samplu goddefol yn darparu dull mwy cynhwysfawr ar gyfer nodweddu cyrsiau dŵr, gan fod y ddyfais samplu yn cael ei gadael yn y lleoliad am 2 i 6 wythnos fel arfer, sy'n ein caniatáu i ddal digwyddiadau cyfnodol neu grynodiadau isel sy'n fwy tebygol o gael eu colli gan hapsamplau traddodiadol.
Mae samplwyr goddefol yn casglu halogion toddedig, a gellir defnyddio dadansoddiad i gyfrifo crynodiad sydd wedi'i bwysoli ar sail amser o lygryddion amrywiol fel plaladdwyr, cemegion diwydiannol, metelau a rhai maethynnau.
Mae'r math hwn o samplu a dadansoddi yn ddelfrydol at ddibenion monitro os amheuir bod crynodiadau mewn hapsamplau yn is na therfynau canfod safonol, o ganlyniad i groniad halogion o fewn y samplwyr.
Rydyn ni'n cynnig y samplwyr goddefol canlynol:
- Samplwyr Chemcatcher™
- Samplwyr â philenni rwber silicon
- Samplwyr DGT™ (Graddiant gwasgaredig mewn haen denau)
Mae samplwyr Chemcatcher™ yn addas ar gyfer canfyddiadau meintiol cyfansoddion organig polar fel chwynladdwyr asid, molwsgladdwyr, plaladdwyr neonicitinoid, a chanfyddiadau ansoddol meddyginiaethau milfeddygol, deunyddiau fferyllol a phlaladdwyr organoffosffad.
Mae samplwyr â philenni rwber silicon yn addas ar gyfer canfyddiadau ansoddol cynhyrchion organig nad ydynt yn begynol gan gynnwys hydrocarbonau aromatig polysyclic (PAHau), biffenylau polyclorinedig (PCBau), plaladdwyr organoclorid a pyrethroidau synthetig.
Mae samplwyr DGT ™ (Graddiant gwasgaredig mewn haen denau) yn addas ar gyfer canfod metelau penodol (cadmiwm, copr, manganîs, nicel, plwm, sinc) a ffosffad.
Rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r llenyddiaeth y mae ein dadansoddwyr wedi cyfrannu ati wrth ddatblygu technegau samplu goddefol.
Sondiau Ansawdd Dŵr
Mae Gwasanaethau Dadansoddol CNC yn cynnig ystod o offer ansawdd dŵr, gan gynnwys sondiau a mesuryddion llaw y gellir eu defnyddio i fesur a throsglwyddo ystod o baramedrau yn awtomatig mewn amgylcheddau dŵr croyw a morol. Rydym yn cynnal labordy a gweithdy a adeiladwyd at y diben sy'n cynnig gwasanaethau graddnodi a chynnal ar gyfer sondiau a mesuryddion llaw.
Gellir gosod sond i gymryd mesuriadau ar gyfnodau amser rheolaidd a osodwyd o flaen llaw (e.e. bob 15 munud) er mwyn casglu darlleniadau parhaus o ddangosyddion ansawdd dŵr ar ôl ei roi ar waith. Gellir defnyddio ein sondiau am hyd at 3 mis o waith cofnodi parhaus, gan ddibynnu ar y model a'r amodau amgylcheddol y mae'n cael ei ddefnyddio ynddynt.
Mae defnyddio sond yn aml yn cyflwyno datrysiad mwy costeffeithiol ac effeithlon o gymharu â rhaglen faith o waith samplu rheolaidd allai golli effeithiau digwyddiadau fel stormydd, cylch y llanw, neu ddigwyddiadau llygredd ar ansawdd dŵr.
Gellir mesur y dangosyddion ansawdd dŵr canlynol drwy sond:
- Dargludedd
- Tymheredd
- Dyfnder neu lefel wedi'i awyru
- Ocsigen toddedig
- Deunydd organig tawdd fflwroleuol (fDOM)
- pH
- Potensial i leihau ocsidiad (ORP)
- TAL-Cloroffyl (Cyfanswm Algaidd)
- TAL Phycocyanin neu TAL-Phycoerythrin
- Afloywder
Gellir cyfrifo paramedrau ychwanegol fel amonia, halwynedd neu gyfanswm y solidau crog hefyd gan ddefnyddio un neu fwy o'r paramedrau uchod.
Safonau dŵr yfed
Nid ydym yn gallu cynghori ynghylch diogelwch unrhyw ffynhonnell ddŵr sydd i'w yfed gan bobl.
Cysylltu â ni
Ein nod yw ymateb i chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Ein cyfraniad at lenyddiaeth
Cynhyrchion organig
Cole, R. F., Mills, G. A., Bakir, A., Townsend, I., Gravell, A. & Fones, G. R. 2016. A simple, low cost GC/MS method for the sub-nanogram per litre measurement of organotins in coastal water. MethodsX, 3, 490-6.
Schumacher, M., Castle, G., Gravell, A., Mills, G. A. & Fones, G. R. 2016. An improved method for measuring metaldehyde in surface water using liquid chromatography tandem mass spectrometry. MethodsX, 3, 188-94.
Passive Sampling
Rimayi, C., Chimuka, L., Gravell, A., Fones, G. R. 2019. Use of the Chemcatcher Passive Sampler and Time-of-Flight Mass Spectrometry to Screen for Emerging Pollutants in River sin Gauteng Province of South Africa. 2019. Environ Monit Asses, 191:388.
Castle, G. D., Mills, G. A., Gravell. A., Leggat, A., Stubbs, J., Davis, R., Fones, G. R. 2019. Comparison of Different Monitoring Methods for the Measurement of Metaldehyde in Surface Waters. Environ Monit Assess, 191:75.
Townsend, I., Jones, L., Broom, M., Gravell, A., Schumacher, M., Fones, G. R. 2018. Calibration and Application of the Chemcatcher® Passive Sampler for Monitoring Acidic Herbicides in the River Exe, UK Catchment. Environ Sci Pollut Res, 25, 25130-25142.
Castle, G. D., Mills, G. A., Bakir, A., Gravell, A., Schumacher, M., Townsend, I., Jones, L., Greenwood, R., Knott, S., Fones, G. R. 2017. Calibration and Field Evaluation of the Chemcatcher® Passive Sampler for Monitoring Metaldehyde in Surface Water. Talanta, 179, 57-63.
Petrie, B., Gravell, A., Mills, G. A., Youdan, J., Barden, R. & Kasprzyk-Hordern, B. 2016. In Situ Calibration of a New Chemcatcher Configuration for the Determination of Polar Organic Micropollutants in Wastewater Effluent. Environ Sci Technol, 50, 9469-78.
Vrana, B., Smedes, F., Prokeš, R., Loos, R., Mazzella, N., Miege, C., Budzinski, H., Vermeirssen, E., Ocelka, T., Gravell, A. & Kaserzon, S. 2016. An interlaboratory study on passive sampling of emerging water pollutants. TrAC Trends in Analytical Chemistry, 76, 153-165.
Mills, G. A., Gravell, A., Vrana, B., Harman, C., Budzinski, H., Mazzella, N. & Ocelka, T. 2014. Measurement of environmental pollutants using passive sampling devices - an updated commentary on the current state of the art. Environ Sci Process Impacts.