Graddau llwybrau beicio mynydd

Beth mae graddau’r llwybrau beicio mynydd yn eu golygu?

Mae pob llwybr beicio mynydd yn cael ei raddio er mwyn dangos pa mor anodd ydyw.

Mae’r graddau’n ystyried:

  • arwyneb y llwybr
  • graddiannau
  • nodweddion technegol
  • y lefelau ffitrwydd sydd eu hangen

Dangosir graddfa pob llwybr ar y panel gwybodaeth ar y dechrau.

Mae’r panel hefyd yn rhoi manylion pellach am y llwybr ac yn dweud pa arwyddbyst i’w dilyn ar dy ffordd o gwmpas (saeth mewn rhyw liw neu fath arall o arwydd).

Cadwch lygad am arwyddion rhybudd “Y Safon Uchaf”. Efallai yr hoffech gael golwg ar y nodweddion hyn cyn mentro am y tro cyntaf.

Ffordd goedwig neu debyg

Yn addas i:

  • Ystod eang o feicwyr.
  • Y rhan fwyaf o feiciau a rhai hybrid.
  • Y gallu i ddefnyddio mapiau yn ddefnyddiol.
  • Llwybrau heb/neu wedi cael eu marcio.

Mathau o lwybrau ag arwyneb:

  • Yn eithaf llydan a gwastad.
  • Gall arwyneb y llwybr fod yn fwdlyd ac yn anwastad ar brydiau.
  • Efallai y bydd y ffyrdd yn cael eu defnyddio gan gerbydau a defnyddwyr eraill, gan gynnwys marchogion a cherddwyr cŵn.

Nodweddion graddiant a thechnegol y llwybr:

  • Gall graddiannau amrywio’n sylweddol a gall gynnwys rhannau byr a serth.
  • Gall y bydd tyllau ar brydiau.

Lefel ffitrwydd awgrymedig:

  • Gall safon dda o ffitrwydd fod o gymorth.

Gwyrdd/Rhwydd

Yn addas i:

  • Beicwyr nofis.
  • Rhaid cael Sgiliau Beicio Sylfaenol.
  • Y rhan fwyaf o feiciau a rhai hybrid.
  • Gall ambell lwybr gwyrdd fod yn addas i ôl-gerbydau.

Mathau o lwybrau ag arwyneb:

  • Eithaf gwastad a llydan.
  • Gall arwyneb y llwybr fod yn rhydd, anwastad neu fwdlyd ar brydiau.
  • Gall gynnwys rhannau byr o drac sengl di-dor.

Nodweddion graddiant a thechnegol y llwybr:

  • Mae’r rhan fwyaf o’r dringfeydd a’r disgyniadau yn fas.
  • Dim nodweddion heriol.

Lefel ffitrwydd awgrymedig:

  • Addas i’r rhan fwyaf o bobl iach.

Glas/Cymedrol

Yn addas i:

  • Beicwyr/beicwyr mynydd Canolradd gyda sgiliau beicio oddi ar y ffordd sylfaenol.
  • Beiciau mynydd neu feiciau hybrid.

Mathau o lwybrau ag arwyneb:

  • Fel y ‘Gwyrdd’ gyda thrac sengl wedi ei adeiladu’n arbennig.
  • Gall arwyneb gynnwys rhwystrau bychan fel gwreiddiau a chraig.

Nodweddion graddiant a thechnegol y llwybr:

  • Mae’r rhan fwyaf o raddiannau’n gymedrol ond gall fod yna rannau byrion serth.
  • Cynnwys mân nodweddion llwybr technegol.

Lefel ffitrwydd awgrymedig:

  • Gall safon dda o ffitrwydd fod o gymorth.

Coch/Anodd

Yn addas i:

  • Beicwyr mynydd medrus gyda sgiliau oddi ar y ffordd da.
  • Addas i feiciau mynydd oddi ar y ffordd o ansawdd da.

Mathau o lwybrau ag arwyneb:

  • Yn fwy serth a chaled, trac sengl gan fwyaf gydag adrannau technegol.
  • Disgwyliwch lawer o arwynebeddau amrywiol.

Nodweddion graddiant a thechnegol y llwybr:

  • Yma ceir amrywiaeth eang o ddringfeydd a disgyniadau eithaf heriol.
  • Byddwch yn barod am lwybrau bordiau, ysgafellau, creigiau mawr, camau cymedrol, disgyniadau, cambrau, a mannau croesi dŵr.

Lefel ffitrwydd awgrymedig:

  • Lefel uwch o ffitrwydd a stamina.

Du/Caled

Yn addas i:

  • Beicwyr mynydd profiadol, sy’n gyfarwydd â llwybrau sy’n heriol gorfforol.
  • Beiciau mynydd oddi ar y ffordd o ansawdd da.

Mathau o lwybrau ag arwyneb:

  • Fel y ‘Coch’ ond dylech ddisgwyl mwy o sialens ac anhawster parhaus.
  • Gall gynnwys unrhyw lwybr defnyddiol yn ogystal â rhannau lle ceir bryniau agored digysgod.

Nodweddion graddiant a thechnegol y llwybr:

  • Byddwch yn barod am nodweddion llwybr technegol a graddiannau helaeth, caled na ellir eu hosgoi.
  • Bydd rhannau heriol ac amrywiol.
  • Yn ogystal gellir cael rhannau ar i waered.

Lefel ffitrwydd awgrymedig:

  • Addas ar gyfer pobl egnïol iawn sy’n gyfarwydd â gweithio’n galed am gyfnodau maith.

Parciau Beiciau Eithafol

Yn addas i:

  • Beicwyr sy’n uchelgeisiol ac wedi cyrraedd lefel elitaidd o allu technegol. Yn cynnwys popeth o feicio gwaeredol cyflawn i neidiau mawr drwy’r awyr.

Mathau o lwybrau ag arwyneb:

  • Llwybrau sydd wedi eu cynllunio i fod yn galed gyda / neu nodweddion naturiol.
  • Pob adran yn heriol.
  • Cynnwys lefelau eithafol o berygl ac o/neu risg.
  • Gallu i neidio’n orfodol.

Nodweddion graddiant a thechnegol y llwybr:

  • Yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion llwybr technegol a graddiannau isel, cymedrol a serth iawn, yn ogystal â llwybrau gwaeredol, adrannau beicio’n rhydd a neidiau gorfodol.

Lefel ffitrwydd awgrymedig:

  • Safon dda o ffitrwydd, ond sgiliau technegol yn bwysicach.
Diweddarwyd ddiwethaf