Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i reolwyr tir
Cyngor i reolwyr tir i helpu ymwelwyr i ddilyn...
Yng Nghymru mae yna afonydd, llynnoedd ac aberoedd ysblennydd – llefydd gwych i ymweld â nhw a’u mwynhau. Pan fyddwch chi’n mynd am dro i lefydd o’r fath, cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi yw canfod i ble allwch chi (neu na allwch chi) fynd, a phryd.
Dyma lefydd arbennig iawn, felly cofiwch wneud y canlynol: parchwch bobl eraill, diogelwch yr amgylchedd naturiol, mwynhewch yr awyr agored yn ddiogel.
Cofiwch barchu’r gymuned leol a’r bobl eraill sydd wedi mentro i’r awyr agored. Mae modd i’r hyn a wnewch chi effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl.
Peidiwch â thresmasu. Ddylech chi ddim cymryd yn ganiataol fod gennych chi hawl i fynd ar dir preifat heb ganiatâd y perchennog. Peidiwch ag ymyrryd â hawliau pobl eraill, er enghraifft hawliau pysgota, ffermio neu saethu.
Wrth barcio eich cerbyd, peidiwch â chau ffyrdd, pyrth sy’n arwain at gaeau neu fynedfeydd sy’n arwain at adeiladau.
Peidiwch â dringo dros ffensys a waliau rhag ofn i chi eu difrodi. Defnyddiwch giatiau a chamfeydd, a chofiwch eu gadael fel yr oedden nhw.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi reoli eich ci, gan wneud yn siŵr na fydd yn dychryn neu’n tarfu ar anifeiliaid fferm. Pan fyddwch chi’n agos at dda byw, cadwch eich ci ar dennyn bob amser – dim ond pan fydd hi’n rhy beryglus i chi barhau i afael yn y tennyn y dylech chi ei ollwng.
Cofiwch am y bobl eraill sydd yn/ar/o amgylch y dŵr – cadwch o’u ffordd.
Gwnewch yn siŵr fod maint eich grŵp yn gweddu i’r lle rydych chi’n mynd am dro iddo; gwnewch cyn lleied o sŵn â phosibl; ac os bydd yn rhaid i chi newid eich dillad, gwnewch hynny allan o’r golwg heb dynnu sylw atoch eich hun.
Gall llygredd, niwed ac aflonyddwch effeithio ar ein hamgylchedd naturiol. Ar ôl mynd am dro i rywle, mi ddylech chi adael y lle heb unrhyw arwydd eich bod wedi bod yno.
Peidiwch â dychryn pysgod, adar neu anifeiliaid eraill – gall hyn effeithio’n arw arnyn nhw.
Mae pysgod yn dodwy’u hwyau yn rhannau bas yr afon, a hynny rhwng yr hydref a’r gwanwyn. Yn ystod y cyfnod yma, mi allen nhw fod mewn cyflwr bregus – mae’n drosedd eu niweidio.
Byddwch yn ofalus rhag ofn i chi niweidio’r planhigion sydd yn/o amgylch y dŵr. Cadwch at y llwybrau pwrpasol neu cerddwch ar y creigiau. Os oes modd, defnyddiwch arweinlyfr, gwybodaeth leol neu arwyddion i ddod o hyd i’r llefydd gorau i fynd i mewn ac allan o’r dŵr.
Mi allai cyflwyno planhigion ac anifeiliaid goresgynnol i gyrsiau dŵr gael effaith ddifrifol ar y cynefinoedd sydd i’w cael yno. Er mwyn osgoi hyn, ewch ati i archwilio, glanhau a sychu eich dillad a’ch offer yn drylwyr cyn mynd i le newydd.
Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi a pheidiwch â gadael baw ci na gwastraff dynol ar eich ôl, oherwydd gall gwastraff o’r fath lygru cyrsiau dŵr, niweidio anifeiliaid a lledaenu afiechydon.
Peidiwch â thaflu matsis na thanio sigaréts. Meddyliwch ddwywaith cyn cynnau tân neu drefnu barbeciw. Os oes yn rhaid cael tân neu farbeciw, cofiwch glirio popeth wedyn a chael gwared â phob dim yn ddiogel.
Gall afonydd, llynnoedd ac aberoedd fod yn llefydd peryglus a gall pethau annisgwyl ddigwydd yno. Ceisiwch ddod o hyd i gymaint o wybodaeth â phosibl am eich cyrchfan a chofiwch gynllunio ymlaen llaw.
Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun. Peidiwch â gwneud unrhyw beth sydd y tu hwnt i’ch gallu, rhowch wybod i rywun i ble’r ydych chi’n mynd a phryd fyddwch chi’n dychwelyd, a gwnewch yn siŵr fod gennych chi ryw ffordd o gael help.
Gwrandewch ar ragolygon y tywydd cyn i chi gychwyn. Cofiwch y gall yr amodau ar y dŵr newid yn ystod eich ymweliad.
Byddwch yn ofalus wrth droedio ymyl y dŵr – gall creigiau, glaswellt a mwd fod yn llithrig ac ansad.
Cofiwch ddilyn y cyngor a welwch chi ar arwyddion ar/o amgylch y dŵr bob amser, yn enwedig o amgylch nodweddion sydd wedi’u creu gan bobl, fel cronfeydd dŵr.
Mae peryglon cudd i’w cael mewn dŵr – efallai fod y dŵr yn gyflymach, yn fwy bas, yn ddyfnach neu’n oerach nag y mae’n ymddangos. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i fynd i mewn ac allan o’r dŵr yn ddiogel.
Peidiwch â llyncu unrhyw ddŵr, oherwydd mi allai gynnwys bacteria neu firysau.
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).