Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghymru
Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn darparu un o’r ffyrdd o gael mynediad i gefn gwlad yng Nghymru ac i’w fwynhau. Mae yna tua 33,000km (20,750 milltir) o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru. Maen nhw i gyd yn briffyrdd cyhoeddus ac mae gan y cyhoedd hawl i’w defnyddio. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am reoli hawliau tramwy cyhoeddus.
Mae yna bedwar categori gwahanol o hawliau tramwy cyhoeddus:
- Llwybrau troed cyhoeddus, ar gyfer cerddwyr yn unig. Mae’r mwyafrif o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru yn llwybrau troed
- Llwybrau ceffyl cyhoeddus, ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogion
- Cilffyrdd cyfyngedig, ar gyfer yr un grwpiau â’r rhai sy’n defnyddio llwybrau ceffyl, ond gall car a cheffyl a cherbydau di-fodur deithio arnynt hefyd
- Cilffyrdd sy’n agored i bob traffig, ar gyfer pawb, yn cynnwys teithwyr mewn cerbydau modur
Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn deithio ar yr holl lwybrau uchod os ydyn nhw’n addas. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau a all fod yn berthnasol i ardaloedd o Dir Mynediad sydd â mynediad cyhoeddus o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn berthnasol ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus sy’n croesi’r tir.
Gall pobl fynd â’u cŵn gyda hwy wrth ddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus, er nad oes unrhyw ddyletswydd ar awdurdodau priffyrdd a pherchnogion tir i ddarparu camfeydd sy’n addas ar gyfer cŵn.
Mae’r Côd Cefn Gwlad, y Côd Defnyddwyr Llwybrau a’r Côd Cerdded Cŵn yn rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus a chrwydro yn yr awyr agored.
Mapiau Diffiniol o hawliau tramwy cyhoeddus
Bydd y mwyafrif o hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu cofnodi ar fap diffiniol a datganiad ar gyfer yr ardal.
Ein rôl
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod hawliau tramwy cyhoeddus:
- Mewn cyflwr ardderchog ac yn hawdd eu defnyddio
- Yn cael cyhoeddusrwydd da ac yn hawdd cael gwybodaeth amdanynt
- Mor hygyrch i bob defnyddiwr cyfreithlon â phosibl
Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
- Darparu cyngor arbenigol ac ymateb i ymgynghoriadau ar ddeddfwriaeth a pholisi Hawliau Tramwy
- Darparu cyngor ar ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyhoeddi ar gyfer y cyhoedd ac eraill
- Cydlynu’r gwaith o ddarparu’r tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Llwybr Arfordir Cymru
- Ymateb fel ymgynghorai statudol i Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy yng Nghymru
Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a chyllid
Mae’n ofynnol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i awdurdodau priffyrdd lleol gynhyrchu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy ar gyfer eu hardal, a bydd mwyafrif y cynlluniau cyfredol yn parhau hyd 2017.
Mae’r cynlluniau strategol hyn yn nodi blaenoriaethau allweddol yr awdurdod ar gyfer gwella hawliau tramwy gydol oes y Cynllun.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hwb sylweddol i weithredu’r Cynlluniau hyn trwy’r Rhaglen Ariannu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (ROWIP). Mae’r rhaglen hon yn cael ei gweinyddu a’i rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ers 2008/09, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £10.9 miliwn i helpu awdurdodau lleol i weithredu eu cynlluniau gwella hawliau tramwy, ynghyd ag £1 miliwn arall yn 2016/17.
Mwy o wybodaeth am y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy a chanlyniadau’r Rhaglen Ariannu.
Llwybrau Cenedlaethol, Llwybr Arfordir Cymru a llwybrau eraill a hyrwyddir
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu’r gwaith o ddarparu’r tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Llwybr Arfordir Cymru. Y rhain yw llwybrau blaenllaw y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein rhan yn y prosiectau cyffrous hyn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cyhoeddusrwydd cenedlaethol ar gyfer llwybrau rhanbarthol a lleol pellter hirach gyda sicrwydd ansawdd.
Cyfleoedd eraill ar gyfer mynediad yng Nghymru
Roedd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn darparu hawliau mynediad cyhoeddus newydd i lawer o ardaloedd ar fynyddoedd, rhostiroedd a thiroedd comin ledled Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r ystad goedwig sy’n cael ei rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi’i neilltuo fel Tir Mynediad. Gallwch ddarganfod mwy am Dir Mynediad yma. Mae traciau beicio wedi’u dynodi’n arbennig ar gyfer beicio, ond gallwch yn aml gerdded neu farchogaeth arnynt hefyd. Mae’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn cynnwys llawer o’r llwybrau hyn ac yn cael ei hysbysebu gan Sustrans ar eu gwefan.
Mae’n bosibl y gellir mwynhau mynediad caniataol mewn rhai ardaloedd.Nid yw mynediad caniataol yn hawl cyhoeddus. Yn hytrach, mae’n golygu tir, neu lwybrau, y mae’r perchennog yn caniatáu i bobl eu defnyddio. Ni fydd y rhain yn cael eu dangos ar fapiau fel arfer gan nad ydyn nhw’n barhaol. Mae nifer o sefydliadau tirfeddiannol cyhoeddus neu elusennol fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Coed Cadw ac Ymddiriedolaethau Natur, ynghyd ag awdurdodau lleol, yn darparu mynediad ar safleoedd y maen nhw’n berchen arnynt neu’n eu rheoli. Gwiriwch eu gwefannau i weld beth sy’n cael ei gynnig yn eich ardal chi. Efallai y bydd cyfle hyd yn oed i fod yn rhan o’r gwaith cynnal a chadw ar y safleoedd hynny.