Y Sefyllfa Ddŵr Gyfredol
Gwnawn hyn drwy ddefnyddio ein data hydrometrig ein hunain, ynghyd â data a ddarparwyd gan y Swyddfa Dywydd a chwmnïau dŵr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- faint o law sy’n disgyn mewn gwahanol ddalgylchoedd
- pa mor sych yw priddoedd a faint o law y gallant ei amsugno mewn gwahanol ardaloedd (gridiau)
- faint o ddŵr sy’n llifo mewn gwahanol afonydd
- faint o ddŵr sy’n cael ei storio o dan y ddaear mewn dyfrhaenau ac uwchben y ddaear mewn cronfeydd
Mae’r lefelau afonydd a môr mesuredig mwyaf diweddar ledled Cymru a ddaw o’n gorsafoedd monitro ar hyd yr afonydd a’r arfordir, ar gael ar-lein.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am setiau data penodol yr Adroddiad Sefyllfa Ddŵr ar gyfer 2018 hyd at fis Mehefin 2019, cysylltwch â WREPP@naturalresourceswales.gov.uk.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am y sefyllfa dŵr am y tri mis nesaf yn Hydrological Outlook UK.
Mae crynodebau hydrolegol ar gyfer safleoedd yng Nghymru ar gael o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (CEH) yn eu crynodeb hydrolegol misol.
Mae rhagor o ddata hefyd ar gael drwy Borth Sychder CEH.