Coedwigaeth
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am greu, gwarchod a rheoli coetiroedd yng Nghymru.
Mae coetiroedd yn gwella ansawdd yr amgylchedd gan eu bod yn:
- helpu i ddiogelu ansawdd cyflenwadau dŵr yfed
- helpu i reoli digwyddiadau llifogydd
- dal llygryddion niweidiol a gwella ansawdd aer
- darparu cysgod a lloches, ac amsugno sŵn
- sefydlogi priddoedd, lleihau erydiad a thirlithriadau
- darparu cynefin cyfoethog i blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys peillwyr a rhywogaethau prin
Beth ydym yn ei wneud
Rheoli coetiroedd
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- ofalu am Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Ni yw’r rheolwr tir mwyaf yng Nghymru
- gofalu am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae’r gwarchodfeydd natur yn cynnwys rhai o’r coetiroedd brodorol gorau yng Nghymru
Cyflenwi pren
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- gynhyrchu tua 850,000 tunnell o bren bob blwyddyn, o’n coedwigoedd ein hunain
- sicrhau fod gennym gynllun gwerthu a marchnata pren ar gyfer 2021 - 2026, mae’r cynllun hwn yn ein helpu i ddangos sut yr ydym yn gwerthu a marchnata pren
Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- weithio i ddatblygu potensial ynni gwynt a dŵr yr Ystad Goetir.
Rheoleiddio gweithgareddau coedwigaeth
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- rhoi trwyddedau cwympo coed i reoli faint o goed sy’n cael eu torri a’u hailblannu
- ymchwilio i gwympo coed anghyfreithlon ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru
- cyhoeddi Hysbysiadau Statudol i Warchod Iechyd Planhigion. Rydym yn cyhoeddi’r rhain i reoli lledaeniad plâu a chlefydau coed
- wirio beth yw effaith amgylcheddol rhai cynlluniau coedwigaeth. Rydym hefyd yn cymryd camau gorfodi os bydd angen
- gofalu am safleoedd dynodedig. Mae’r safleoedd hyn yn cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig
- rheoleiddio gweithgareddau coedwigaeth a choetir a all effeithio ar fywyd gwyllt
Rhoi cyngor ac arweiniad
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- roi canllawiau a chyngor i ddiwydiant, i fusnesau ac i’r sector gwirfoddol
- gweinyddu’r Rhestr Coetiroedd Hynafol
Gweithio gyda phartneriaid
Rydym yn gwneud hyn drwy:
- weithio gydag Ysgolion Coedwig a helpu’r Rhwydwaith Hyfforddi Dysgu yn yr Awyr Agored
Diweddarwyd ddiwethaf