Ynni dŵr ar raddfa fach
Nid yw'r tir yn addas ar gyfer prosiectau cynhyrchu ynni dŵr mawr. Fodd bynnag, gellir integreiddio cynlluniau ar raddfa fach, rhwng 10 cilowat (kW) ac 1 megawat (MW), i mewn i goedwigoedd sy'n gweithio os cymerir gofal i reoli'r effaith ar yr amgylchedd ac ar weithgarwch arall yn y goedwig, er enghraifft ein seilwaith mynediad a hamdden.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Ers 2014 rydym wedi bod yn gweithio gyda Datblygwyr a grwpiau cymunedol i alluogi 15 cynllun ynni dŵr graddfa fechan ledled Cymru, sydd bellach yn gweithredu ac yn gallu cynhyrchu tua 1300kW o ynni adnewyddadwy bob blwyddyn. Hefyd, cwblhawyd gwaith ar gynllun ynni dŵr graddfa fechan 17kW Garwnant CNC ym mis Medi 2017 ac mae’r cynllun bellach yn gweithredu’n llawn.
Ar hyn o bryd mae CNC yn gweithio ar 12 cais newydd i alluogi cynlluniau a arweinir gan Ddatblygwyr ar Ystâd a Reolir gan CNC.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'n cynllun neu ein prosiectau, anfonwch e-bost at: commdevteam@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Trwyddedau cynlluniau ynni dŵr
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am roi Trwyddedau Tynnu Dŵr, sy'n ofynnol er mwyn caniatáu tynnu dŵr ar gyfer unrhyw gynllun ynni dŵr yng Nghymru.
Ewch i'r dudalen Cynlluniau Ynni Dŵr er mwyn gweld sut i wneud cais am drwydded.