Tîm Modelu ac Asesu Risg Ansawdd Aer
Mae'r Tîm Modelu ac Asesu Risg Ansawdd Aer (AQMRAT) yn dîm technegol o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rhoi arweiniad ar fodelu aer ac asesu risg. Mae AQMRAT yn ymgymryd â nifer o ddyletswyddau allweddol, yn cynnwys:
- Delio gydag asesiadau effaith o allyriadau aer (yn cynnwys llygryddion, aroglau, diocsinau a metelau, cynefinoedd, bio-erosolau a nwyon/gronynnau ymbelydrol y strategaeth ansawdd aer) a sŵn a ryddheir o osodiadau a safleoedd gwastraff
- Adolygu a datblygu canllawiau ac offer rheoleiddio er mwyn cefnogi ein Swyddogion Atal a Rheoli Llygredd a'n Swyddogion Trwyddedu
- Darparu mewnbwn technegol i'r canllawiau, y datblygu offer a'r dystiolaeth reoleiddiol ledled y DU
Data yn ymwneud ag ansawdd aer a'r dehongliad ohono
Rydyn ni'n casglu data allyriadau sy'n ymwneud ag allyrru llygryddion i'r aer o'r gosodiadau a'r cyfleusterau yr ydyn ni'n eu rheoleiddio. Caiff y data hwn ei fewnbynnu bob blwyddyn i'r Gofrestr ynghylch Gollwng a Throsglwyddo Llygryddion (PRTR) https://industry.eea.europa.eu/#/home
Mae ein tudalen gwe ar gyfrifoldebau ynghylch data a gwybodaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhannu data.
Ein cyfrifoldebau data a gwybodaeth
Polisi
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu cyngor ar bolisi, tystiolaeth, gwybodaeth ac arweiniad i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, gweithredwyr diwydiannol a'r cyhoedd. Ein rôl polisi yw:
- Sicrhau bod y Llywodraeth, rheoleiddwyr a diwydiant yn gallu cydymffurfio â gofynion ansawdd aer ar lefel ryngwladol, y DU a domestig
- Darparu gwybodaeth amserol o ansawdd uchel i Weinidogion, y Llywodraeth, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill
- Rhoi gwybodaeth i drafodaethau polisi a rheoleiddio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
Prosiectau, Astudiaethau ac Adroddiadau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cychwyn ac wedi cefnogi nifer o brosiectau ansawdd aer sy'n gwella ein dealltwriaeth o ansawdd aer rhanbarthol. Dros y deng mlynedd diwethaf rydyn ni wedi cwblhau dros 40 o astudiaethau aer yr amgylchedd ledled Cymru, yn ogystal â phrosiectau ymchwil a thystiolaeth ansawdd aer niferus.
Rydyn ni'n cyhoeddi adroddiadau a setiau data naill ai ar dudalennau gwe Cyfoeth Naturiol Cymru neu ar Fforwm Ansawdd Aer Cymru https://airquality.gov.wales/
Rhagor o wybodaeth
Cysylltwch â ni am gymorth technegol, ynglŷn â monitro ansawdd aer yr amgylchedd neu wybodaeth ar ansawdd aer trwy e-bostio airquality@naturalresourceswales.gov.uk