Prosiect Gwastraff LIFE SMART

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn un o bartneriaid Prosiect Gwastraff  LIFE SMART Ewrop gyfan.  Mae'n brosiect pum mlynedd sy'n dangos ffyrdd arloesol o ddeall, taclo a lleihau troseddau gwastraff.

Pam fod angen y prosiect?

Roedd adroddiad y gwnaethon ni ei gomisiynu gan Eunomia yn amcangyfrif bod effaith ecomonaidd troseddau gwastraff yng Nghymru'n costio rhwng  £15.2 miliwn a £32.4 miliwn.  

Mae ffrydiau gwastraff sydd o safon neu werth isel, neu sy'n anodd ei drin, wastad yn denu troseddwyr sy'n elwa ar draul yr amgylchedd ac ar draul gweithredwyr cyfreithlon diwydiant gwastraff Ewrop. Mae'r arferion anghyfreithlon hyn yn newid o hyd ac nid ydyn nhw'n hawdd i'w gweld.

Fel rheolydd amgylcheddol, mae gennyn ni amrywiaeth o offer y gallwn ni ei ddefnyddio. Ond, mewn rhai achosion nid arolygu a gorfodi yw'r unig ateb bob tro

Byddwn yn gweithio gydag Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr Alban, SEPA, a gyda chydweithwyr yma yn CNC i helpu adeiladu ein gwybodaeth a thystiolaeth ar gyfer prif gamau'r prosiect. Byddwn yn rhoi pwyslais ar fod yn arloesol yn y ffordd rydym yn cynnal ein hymchwiliadau ac casglu ein gwybodaeth a bydd yn gyfle gwych i ni i brofi llawer o dechnegau newydd.

Dyma'r math o bethau rydyn ni'n disgwyl eu gweld ar ddiwedd y prosiect sy'n cael ei ariannu gan European LIFE:

  • rhoi arferion a thechnolegau newydd ar brawf a'u gwneud yn barod i'w defnyddio gan asiantaethau gorfodi yn Ewrop sydd â buddiant

  • adroddiadau i gyrff perthnasol yr UE sy'n argymell newidiadau mewn polisïau neu ddeddfwriaethau sy'n amharu ar ymddygiadau anghyfreithlon mewn marchnadoedd gwastraff penodol neu'n eu lliniaru
  • astudiaethau achos, sy'n nodi manylion rhoi rheoliad synhwyrol, wedi ei seilio mewn gwybodaeth a'i fuddiannau ar waith

  • pecynnau hyfforddi a chyrsiau ar gyfer mudiadau gorfodi


Mae'n brosiect pum mlynedd sy'n cael ei gynnal tan fis Mai 2019.

Diweddarwyd ddiwethaf