Taclo'r Tywi - Beth rydym yn ei wneud

Rhywogaethau ymledol anfrodorol 

Mae nifer o Rywogaethau Estron Goresgynnol yn effeithio ar gynefinoedd dalgylch Afon Tywi. Maent yn disodli rhywogaethau brodorol ac yn lleihau bioamrywiaeth.

Darllenwch fwy isod am y gwahanol rywogaethau planhigion sy'n effeithio ar Afon Tywi ac am yr hyn rydym ni’n ei wneud i helpu mynd i'r afael â nhw.

Beth yw Jac y Neidiwr a pham ei fod yn broblem?

Mae Jac y Neidiwr (Impatiens glandulifera) yn tarddu o ranbarth yr Himalaya ac fe'i cyflwynwyd i'r DU yng nghanol y 19eg ganrif fel planhigyn gardd addurnol. Mae bellach yn gyffredin ar draws y rhan helaeth o Brydain, ac mae i’w weld yn aml mewn clystyrau ungnwd trwchus sy'n cael effaith ddifrifol ar ein cynefinoedd brodorol.

Planhigyn blynyddol yw’r Jac y Neidiwr ac mae’n atgynhyrchu o hadau bob blwyddyn. Bydd yr egin blanhigion yn ymddangos gyntaf ym mis Ebrill ac yn tyfu'n gyflym gan gynhyrchu blodau pinc, melys eu sawr, ym mis Mehefin/Gorffennaf, cyn cynhyrchu hadau ddiwedd Awst/Medi. Mae pob planhigyn yn cynhyrchu llawer o godennau hadau sy'n ffrwydro yn yr hydref, gan wasgaru miloedd o hadau bychain i'r amgylchedd. Mae'r hadau'n cael eu cario'n hawdd gan ddŵr, a dyna pam mae Jac y Neidiwr yn broblem neilltuol ar hyd cyrsiau dŵr. Gall hadau aros yn hyfyw yn y pridd am 2 neu 3 blynedd. 

Yn ystod y gaeaf, bydd planhigion Jac y Neidiwr yn marw nôl gan adael tir moel. Bydd hyn yn cyfrannu at erydiad ar lannau afonydd gan nad oes yno blanhigion a gwreiddiau i sefydlogi'r lan. Mae'r erydiad cynyddol hwn ar lan yr afon yn ei dro yn codi lefelau'r llaid a'r priddoedd sy'n mynd i mewn i'r afonydd ac felly'n gostwng ansawdd y dŵr. Gall glannau sydd wedi'u herydu gynyddu perygl llifogydd hefyd.

Lawrlwythwch fwy o wybodaeth am Jac y Neidiwr a sut i’w adnabod (Saesneg yn unig).

Sut i reoli Jac y Neidiwr

Mae Jac y Neidiwr yn gymharol hawdd i'w reoli gan ei fod yn blanhigyn blynyddol, ac felly'r nod yw cael gwared ar y planhigyn cyn iddo gynhyrchu hadau. Gellir codi, torri neu strimio'r planhigyn.

Yr amser gorau i reoli Jac y Neidiwr yw ym mis Mehefin a mis Gorffennaf pan fydd ei flodau pinc yn galluogi ei adnabod yn hawdd, ond cyn iddo daflu hadau. Os ydych chi'n torri neu'n strimio, mae'n bwysig torri'r planhigyn yn agos at y ddaear o dan y nod cyntaf er mwyn atal aildyfiant.

Gellir defnyddio chwynladdwr fel glyffosad hefyd i drin Jac y Neidiwr, a gall hyn fod yn opsiwn defnyddiol mewn ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd. Efallai y bydd angen sêl bendith CNC er mwyn gallu defnyddio chwynladdwyr; mwy o wybodaeth am y broses cymeradwyo chwynladdwyr.

Peidiwch â cheisio rheoli Jac y Neidiwr yn yr hydref gan y bydd eich ymdrechion, yn anfwriadol, yn debygol o gynyddu lledaeniad yr hadau.

Wrth ystyried rhaglen reoli Jac y Neidiwr, mae'n hanfodol defnyddio strategaeth o'r brig i lawr, gan sicrhau eich bod yn dechrau yn y lleoliad uchaf ar yr afon. Fel arall, mae ail-gytrefu yn debygol o ddigwydd o ganlyniad i hadau newydd yn cyrraedd o rannau uchaf yr afon. Fodd bynnag, mae unrhyw reolaeth ar unrhyw raddfa yn ddefnyddiol er mwyn lleihau effaith y planhigyn ar ein rhywogaethau brodorol.

Os ydych yn bwriadu mynd ati i reoli ardaloedd helaeth o Jac y Neidiwr, cysylltwch â CNC os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu eich cynghori ar ddulliau priodol, a sicrhau na fydd eich cynigion yn cael effaith andwyol ar rywogaethau eraill (er enghraifft, adar sy'n nythu, dyfrgwn ac ati)

Taflen:Gwybodaeth am y Jac y Neidiwr a sut i'w reoli.(Saesneg yn unig)

Rheolaeth Fiolegol

Mae Afon Tywi yn un o bedair ardal yng Nghymru lle mae'r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddoniaeth Rhyngwladol (Centre for Agrculture and Bioscience International: CABI) yn profi datrysiad rheoli biolegol posibl ar gyfer Jac y Neidiwr.

Mae hyn yn golygu cyflwyno math o ffwng a elwir yn ‘ffwng y gawod’ neu lwydni (‘rust fungus’) sy'n tarddu o ranbarth yr Himalaya ac sy'n targedu'r planhigyn yn weithredol ac yn ei wanhau.

Y nod yw canfod straen o ‘ffwng y gawod’ a fydd yn naturiol yn rheoli lledaeniad y Jac y Neidiwr yn y DU. Lawrlwythwch fwy o wybodaeth ar CABI a'r prosiect rheoli biolegol. (Saesneg yn unig)

Beth ydym ni'n ei wneud? 

Rydym wedi bod yn cefnogi ein partneriaid wrth iddyn nhw fapio presenoldeb Jac y Neidiwr a rhywogaethau estron goresgynnol eraill gan ddefnyddio apiau fel IRecord i gael gwybodaeth fanwl gywir am eu dosbarthiad yn y dalgylch.

Rydym wedi gwneud gwaith mapio ar lednentydd Brân (Llanymddyfri) a Sawdde, yn ogystal â threfnu sawl gweithgor i reoli Jac y Neidiwr ar Afon Brân.

Rydym yn gweithio gyda Ffederasiwn Pysgotwyr Sir Gaerfyrddin i gefnogi eu gwaith mapio mewn perthynas â rhywogaethau estron goresgynnol yn nalgylch Afon Tywi a chynghori ar eu gweithgareddau gyda golwg ar reoli Jac y Neidiwr.

Canfuwyd mai yn Rhandirmwyn mae tarddle’r Jac y Neidiwr yn rhan uchaf Afon Tywi. Bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda Ffederasiwn Pysgotwyr Sir Gaerfyrddin ynghyd â gwirfoddolwyr a thirfeddianwyr lleol i ganolbwyntio ymdrech ar ei ddileu yn ardal Rhandirmwyn, gan ddefnyddio strategaeth o'r brig i lawr. Mae ymrwymiad y gymuned leol wedi bod yn amhrisiadwy i sicrhau canlyniadau da. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfrannu £8000 at y gwaith hwn hyd yma, ac mae'n gobeithio parhau i gefnogi'r fenter hon yn y dyfodol.

Efwr Enfawr - Giant Hogweed

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn trin poblogaeth neilltuol o'r Efwr Enfawr (Heracleum mantegazzianum) yn ardal Manordeilo, a hynny ers sawl blwyddyn. Rydym wedi llwyddo i reoli a lleihau'r boblogaeth.

Taflen ffeithiau: Efwr Enfawr (Saesneg yn unig)

PWYSIG! – Os ydych chi'n amau eich bod wedi gweld yr Efwr Enfawr, peidiwch â'i gyffwrdd. Mae sudd y planhigyn yn achosi llid a phothelli difrifol ar y croen.

Os digwydd i chi weld unrhyw blanhigion yr Efwr Enfawr yn nalgylch Afon Tywi (neu yn rhywle arall), rhowch wybod i CNC neu eich Canolfan Cofnodion Lleol.

 

Llysiau’r Dial/Canclwm Japan - Japanese Knotweed

Mae Clymog Japan (Fallopia japonica) yn bresennol wrth ymyl Afon Tywi a'i llednentydd. Mae'r twf mwyaf i’w weld yn ardal Caerfyrddin. Mae CNC yn gwneud rhywfaint o waith rheoli wedi'i dargedu ar Glymog Japan lle mae'n peri risg i'n hasedau, er enghraifft ein hasedau Rheoli Perygl Llifogydd.

 

Clymog Japan: Beth sydd angen ei wybod

Menter PestSmart

Mae ein partneriaid, Dŵr Cymru, wedi lansio menter i leihau nifer y maetholion sy'n mynd i mewn i'r dalgylch â thechnolegau arloesol. Mae'r cynllun ‘Sychwr Chwyn/Weed Wiper’ yn caniatáu taenu plaladdwyr yn fwy effeithlon na chwistrellu, drwy ddefnyddio darn o offer arferol i sychu'r plaladdwyr ar hyd y planhigyn. Mae'r dull hwn yn lleihau lefel y goferiad cemegol i Afon Tywi. Yn ogystal, mae hefyd yn fwy cost-effeithiol i'r ffermwyr gan fod angen defnyddio llai o gemegau. Ar hyn o bryd, mae Dŵr Cymru yn cynnig y cyfle i ffermwyr oddi mewn i ddalgylch Afon Tywi ddefnyddio'r sychwyr chwyn, a hynny’n rhad ac am ddim yn ystod y tymor tyfu. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Dŵr Cymru PestSmart.

Prosiect Slyri

Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, Coleg Sir Gâr, Power and Water a'r diwydiant amaethyddol er mwyn datblygu ffordd newydd arloesol o drin slyri fferm, un o'r sialensiau mwyaf i ansawdd dŵr yn nalgylch Afon Tywi.

Mae hwn yn dal yn y cyfnod datblygu cynnyrch ar hyn o bryd. Gobeithir y gellir datblygu'r dechnoleg newydd i'w ddefnyddio ar ffermydd unigol er mwyn gwahanu dŵr o'r slyri, fel mai’r unig sgil-gynnyrch yw dŵr wedi’i buro a gwrtaith organig sy'n debyg i ddail iard fferm o ran ansawdd.

Y gobaith yw y gellir datblygu'r dechnoleg newydd i'w defnyddio ar ffermydd unigol, a gallai hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i nifer y digwyddiadau o lygredd slyri sy'n effeithio ar Afon Tywi yn y dyfodol.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf