Cynllun llifogydd Llanelwy - ymgynghoriad cyn cais cynllunio, pecyn B
Rydym yn paratoi i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer Gwaith Pecyn B Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanelwy.
Er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau dan y deddfau uchod, rydym yn ysgrifennu at bob tirfeddiannwr/deiliad perthnasol, ymgyngoreion yn y gymuned ac ymgyngoreion arbenigol, a hefyd yn arddangos hysbysiadau cyhoeddus ar y safle, er mwyn gwahodd adborth ynglŷn â’n cais cynllunio drafft a’r dogfennau technegol ategol.
Bydd y cyfnod ymgynghori ar waith am 28 diwrnod - o 19 Awst 2016 tan 16 Medi 2016. Yna, byddwn yn cyflwyno cais cynllunio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Llanelwy i Gyngor Sir Ddinbych.
Mae'r pecyn yn cynnwys y dogfennau, adroddiadau a lluniau canlynol
- Tree Survey 1_May 2014
- Tree Survey 2_May 2016
- St Asaph Flood Risk Management Scheme Flood Consequence Assessment
- Environmental Constraints Plans - Plan 1; Plan 2; Plan 3
- St Asaph Flood Risk Management Scheme Contaminated Land Preliminary Risk Assessment
- Environmental Assessment Summary
- Site Location Plans - Plan 1; Plan 2; Plan 3
- General Arrangement Drawings - Drawing 1; Drawing 2; Drawing 3; Drawing 4; Drawing 5; Drawing 6; Drawing 7; Drawing 8; Drawing 9
- St Asaph Bat Roost Potential Report 2015
- St Asaph Great Crested Newts Report 2015
- St Asaph Preliminary Ecological Assessment
- St Asaph FRMS (PAR) – Ground Investigation 2014 Factual Report
- St Asaph FRMS (Detailed Design) Ground investigation 2016
- Design and Access Statement incorporating Planning Statement
- Bat Survey Report: Tree Roosts
- Package B Draft Planning Application Form
Yn ogystal ag ymgynghori gyda’r rheini y bydd y cynllun yn effeithio’n uniongyrchol arnynt, fel y datblygwr rydym hefyd yn croesawu adborth gan y gymuned yn gyffredinol ynghylch ein cynnig i adeiladu amddiffyniad rhag perygl llifogydd yn Llanelwy, rhwng Ffordd Dinbych Isaf a Pharc Carafannau Spring Gardens ac mewn llecynnau byr i lawr yr afon yn Nol Afon a Ffordd yr Orsaf yn Rhuddlan.
Bydd unrhyw sylwadau’n cyfrannu at ein cais cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori’n cael eu cofnodi a’u trafod mewn Adroddiad Ymgynghori, a fydd yn cael ei gyflwyno gyda’n cais cynllunio.
Rhaid i bawb sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch y datblygiad arfaethedig ysgrifennu atom i’r cyfeiriad e-bost
cynllun.llifogydd.llanelwy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
neu’r cyfeiriad Cyfoeth Naturiol Cymru, (dan ofal John M. Davies), Ffordd Caer, Bwcle, Sir y Fflint, CH7 3AJ.
Bydd yr ymgynghoriad ar waith rhwng 19 Awst 2016 ac 16 Medi 2016.