Bwrdd CNC – Cylch Gorchwyl
Diben
Rôl Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw:
- sefydlu’r weledigaeth a’r cyfeiriad strategol, a goruchwylio CNC;
- cynnig arweiniad strategol effeithiol; diffinio a chymeradwyo cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol;
- hybu safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
- sicrhau bod gweithgareddau CNC yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol; a
- goruchwylio a monitro perfformiad lefel uchaf, er mwyn sicrhau bod CNC yn llwyr gyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad
Rhaid i’r Bwrdd sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn cynnig sicrwydd ynglŷn â rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol. Rhaid iddo sefydlu Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg wedi’i gadeirio gan aelod anweithredol (ond nid gan y Cadeirydd), er mwyn cynnig cyngor annibynnol iddo. Yn ogystal, disgwylir i’r Bwrdd sicrhau ei hun o effeithiolrwydd y rheolaeth fewnol a’r systemau rheoli risg.
Cwmpas
Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am ddiffinio a chymeradwyo’r weledigaeth a’r strategaeth tymor hir, fel y gall CNC fodloni ei gyfrifoldebau a’i ddyletswyddau o dan Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a phob deddfwriaeth berthnasol arall.
Gyda’i gilydd, mae aelodau’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod CNC, wrth arfer ei swyddogaethau, yn rhoi sylw dyledus i argyfyngau’r hinsawdd a byd natur, yn mynd ar drywydd ac yn hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol, ac yn sicrhau y rhoddir egwyddorion rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol ar waith, cyn belled ag y bo modd o fewn ei bwerau.
Cyfrifoldebau
Mae cyfrifoldebau’r Bwrdd yn cynnwys:
- sefydlu gweledigaeth, nodau ac amcanion strategol CNC sy'n gyson â'i ddiben cyffredinol ac o fewn cyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru a'r fframwaith polisi ac adnoddau a bennir gan y Gweinidog;
- sicrhau bod CNC yn gweithredu o fewn ei awdurdod statudol a dirprwyedig, a'i fod yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol o dan y Deddfau perthnasol, o dan rwymedigaethau statudol eraill a'r Ddogfen Fframwaith;
- hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Yn benodol, ni ddylid rhoi cyfarwyddiadau i'r Prif Weithredwr sy'n gwrthdaro â'i ddyletswyddau fel Swyddog Atebol CNC;
- arddangos safonau uchel o ran llywodraethu corfforaethol ac uniondeb, a sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd o ran rheoli risg, rheolaeth fewnol effeithiol a chadw cofnodion cywir;
- arddangos gwerthoedd CNC ym mhob peth a wneir, yn unigolion ac ar y cyd, gan fodelu ymddygiad cyson ledled y sefydliad;
- penodi Prif Weithredwr, gyda chymeradwyaeth y Gweinidog ymlaen llaw; a
- dal y Prif Weithredwr i gyfrif am berfformiad a chyflawniad yn erbyn blaenoriaethau strategol a blaenoriaethau’r cynllun busnes, amcanion a chyllidebau.
Materion a gedwir i’r Bwrdd
Mae’r materion a amlinellir yn y tabl isod yn cael eu cadw i’r Bwrdd.
Llywodraethu a rheoli:
- adolygu a chymeradwyo trefniadau llywodraethu corfforaethol cyffredinol y Bwrdd;
- cymeradwyo gwelliannau sylweddol i faterion a gedwir i’r Bwrdd;
- cymeradwyo cylch gorchwyl pwyllgorau, is-bwyllgorau neu weithgorau'r Bwrdd;
- cymeradwyo cofnodion y Bwrdd;
- cymeradwyo amserlenni cyfarfodydd y Bwrdd a'r pwyllgorau;
- cymeradwyo’r gwaith o ddirprwyo unrhyw rai o bwerau’r Bwrdd i’r Prif Weithredwr;
- cymeradwyo'r cynllun dirprwyo ariannol, gan gynnwys dirprwyo i'r Prif Weithredwr neu aelodau'r Tîm Gweithredol;
- cymeradwyo’r Cynllun Statudol a Chyfreithiol, gan gynnwys dirprwyo i’r Prif Weithredwr neu aelodau’r Tîm Gweithredol;
- cymeradwyo Dogfen y Fframwaith gyda Llywodraeth Cymru, neu ddogfennau olynol;
- cymeradwyo’r strategaeth a’r egwyddorion ar gyfer rheoli risg.
Apwyntiadau:
- penodi a diddymu pwyllgorau, is-bwyllgorau a gweithgorau’r Bwrdd, a’u Cadeiryddion;
- penodi a therfynu penodiad y Prif Weithredwr, yn amodol ar gydsyniad y Gweinidog sy’n gyfrifol yn Llywodraeth Cymru;
- penodi Arweinyddion Archwilio ac Ymholi.
Strategaeth, Cynllun Busnes a chyllideb:
- cymeradwyo (gan gynnwys amrywio) Strategaethau Corfforaethol a Chynlluniau Strategol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru;
- cymeradwyo’r Cynllun Busnes blynyddol a’r gyllideb flynyddol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru;
- cymeradwyo dangosyddion perfformiad allweddol CNC;
- sicrhau bod y datganiad o gyfrifon yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Gweinidog, yr Archwilydd Cyffredinol, ac arferion da;
- cymeradwyo a chyflwyno adroddiad blynyddol a chyfrifon CNC i Archwilydd Cyffredinol Cymru, y Gweinidog, a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Penderfyniadau gweithredol:
- cymeradwyo cynnwys polisïau strategol a chorfforaethol;
- cymeradwyo’r cylch cyflog;
- cymeradwyo’r Cynllun Taliadau;
- cymeradwyo datblygiadau mawr a newidiadau i’r sefydliad.
Mae'r Bwrdd yn goruchwylio’r holl gyfrifoldebau a ddirprwyir i bwyllgorau'r Bwrdd.
Ar brydiau, gall fod yr angen i ystyried eitemau rhwng cyfarfodydd ar ran y Bwrdd er mwyn hwyluso busnes brys neu pe bai rhywbeth mawr yn digwydd. Pe cyfyd yr angen i ystyried eitemau mawr a/neu ddadleuol ar frys, bydd y Bwrdd fel arfer yn dirprwyo'r mater i Bwyllgor Brys a elwir yn arbennig, i gynnwys ei Gadeirydd a dau aelod arall o'r Bwrdd. Pe cyfyd eitem nad yw'n fater pwysig nac yn ddadleuol ond ei fod yn dyngedfennol o ran amser, caiff y Cadeirydd ddefnyddio ei ddisgresiwn i benderfynu a ddylid cymryd camau gan y Cadeirydd, a dylai Ysgrifennydd y Bwrdd ei gynghori, os yw hynny'n briodol.
Pan fydd y Cadeirydd yn cymryd camau am fod amser yn dyngedfennol, ystyrir ei bod yn briodol (lle bo modd) i'r Cadeirydd geisio barn yr aelodau trwy e-bost cyn dod i benderfyniad. Dylid adrodd yn glir ar bob penderfyniad a wneir gan y Pwyllgor Brys a/neu'r Cadeirydd, cyn gynted â phosibl, a'i gofnodi yng nghofnodion ei gyfarfod nesaf er gwybodaeth.
Nid yw'r Cylch Gorchwyl hwn yn atal y Cadeirydd na'r Bwrdd rhag penderfynu ar faterion eraill, nad ydynt yn cael eu cadw'n ôl, petaent yn dod i'r Bwrdd i'w trafod neu i'w penderfynu.
Bydd y Bwrdd fel arfer yn cynnal adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd. Dylai hyn gynnwys hunanadolygiad dan arweiniad y Cadeirydd, gan gynnwys adborth gan aelodau'r Bwrdd, unrhyw wersi a ddysgwyd a gwelliannau posibl. Dylai'r Bwrdd ystyried comisiynu adolygiad allanol annibynnol o effeithiolrwydd oddeutu unwaith bob tair blynedd.
Adolygir y cylch gorchwyl yn flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben ac yn weithredol effeithiol.
Bydd cofnod yn cael ei gadw o bob adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd ac adolygiadau o’r cylch gorchwyl. Bydd unrhyw argymhellion ar gyfer newid sylweddol yn cael eu dwyn i sylw'r Bwrdd i'w cymeradwyo.
Cyfarfodydd
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn. Bydd trafodaethau nad ydynt yn gyfrinachol yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Bydd diweddariadau interim y Bwrdd yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd rhyngddynt.
Bydd cworwm mewn cyfarfod ar gyfer eitem benodol ar yr agenda os oes mwyafrif o aelodau'r Bwrdd yn bresennol ar gyfer yr eitem gyfan/eitemau cyfan, a chyhyd â bod y mwyafrif o'r rhai sy'n bresennol yn aelodau anweithredol o'r Bwrdd. Ni chaniateir dirprwyon.
Er mwyn penderfynu a oes cworwm yn bresennol, gellir cyfrif aelod o'r Bwrdd yn y cworwm os yw’n gallu cymryd rhan yn nhrafodion y cyfarfod, gan gynnwys trwy ddulliau o bell (e.e. ffôn neu gyswllt digidol arall) ac yn parhau i fod ar gael trwy gydol y drafodaeth, a thrwy gydol y penderfyniad ar gyfer pob eitem y caiff ei gyfrif yn rhan o'r cworwm.
Rhaid i aelodau'r Bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn y cyfarfod perthnasol, hyd yn oed os ydynt wedi'u cofnodi eisoes yn y Gofrestr Buddiannau gyhoeddedig. Cofnodir unrhyw ddatganiad o'r fath yng nghofnodion y cyfarfod.
Yn amodol ar eu datganiadau o fuddiant (gall y Cadeirydd ofyn i aelod o'r Bwrdd ymneilltuo o'r drafodaeth a/neu ymatal rhag pleidleisio os yw'n teimlo bod y posibilrwydd o wrthdaro buddiannau yn gofyn gwneud hynny), bydd gan bob aelod o'r Bwrdd yr hawl i bleidleisio mewn unrhyw ddadl, ac i'w safbwyntiau gael eu cofnodi yn y cofnodion.
Os na cheir penderfyniad trwy fwyafrif, bydd gan Gadeirydd y Bwrdd ail bleidlais neu bleidlais fwrw, p’un a ydynt wedi pleidleisio ar y mater o'r blaen neu beidio.
Ni ddylai aelodau'r Bwrdd weithredu fel "cynrychiolwyr" unrhyw sector penodol. Yn amodol ar y rheolau Gwrthdaro Buddiannau, disgwylir i aelodau'r Bwrdd ddefnyddio eu profiad ehangach, gan gyfrannu'n llawn at ystyried materion o'r fath, a gwneud penderfyniadau ar y cyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r meini prawf perthnasol, er budd amcanion CNC.
Disgwylir i aelodau'r Bwrdd barchu cyfrinachedd a doethineb priodol wrth gynnal materion y Bwrdd a thrafod/cadw gwybodaeth a dogfennau'n ddiogel, yn arbennig, mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth bersonol, berchnogol neu fasnachol.
Gall y Bwrdd, heb osod cynsail, wahodd swyddogion, unigolion neu gynrychiolwyr sefydliadau eraill i fynychu'r cyfan neu ran o'i gyfarfodydd. Ni fydd gan fynychwyr nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd yr hawl i bleidleisio.
Gweinyddiaeth
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn darparu'r gwasanaeth cymorth i'r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd, paratoi agendâu a phapurau, coladu dogfennau, cyfathrebu ag aelodau'r Bwrdd, cymryd cofnodion, dosbarthu cofnodion ac unrhyw gamau dilynol neu bwyntiau gweithredu perthnasol, a ffeilio dogfennau'r Bwrdd yn y System Rheoli Dogfennau er mwyn sicrhau y cedwir cofnod ffurfiol.
Cytunir ar eitemau'r agenda ymlaen llaw gyda'r Cadeirydd, a dosberthir agendâu a phapurau un wythnos (saith niwrnod) cyn cyfarfodydd. Bydd aelodau'r tîm gweithredol yn cefnogi ac yn cyflwyno eitemau agenda a gyflwynir gan eu Cyfarwyddiaeth/byrddau busnes a gefnogir ganddynt.
Bydd y Bwrdd yn cynnal 'rhagolwg' o'r eitemau sefydlog, a fydd yn cael eu hadolygu ym mhob cyfarfod a'u cynnal gan yr Ysgrifenyddiaeth. Caiff eitemau ychwanegol ar yr agenda eu coladu gan yr Ysgrifenyddiaeth a'u cynllunio trwy'r rhagolwg a'u cytuno gyda'r Cadeirydd ymlaen llaw. Cefnogir eitemau gan bapurau ysgrifenedig a/neu gyflwyniadau llafar. Oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi gan y Cadeirydd, ni chaiff papurau hwyr eu dosbarthu, a chaiff yr eitem ei dileu o'r agenda.
Cymerir cofnodion o gyfarfodydd y Bwrdd. Bydd hyn yn cynnwys cofnod o benderfyniadau a rhesymau dros benderfyniadau, a chamau gweithredu, ynghyd â chofnod gweithredu wedi'i grynhoi i'w gadw gan yr Ysgrifenyddiaeth a'i adolygu ym mhob cyfarfod. Bydd y Cadeirydd yn cytuno ar gofnodion drafft y cyfarfod a'r pwyntiau gweithredu y cytunwyd arnynt ac yn eu dosbarthu ymhen 10 niwrnod gwaith o'r cyfarfod, a dosberthir y cofnodion terfynol ymhen 20 diwrnod gwaith. Bydd y camau gweithredu yn cael eu cau pan fydd y Bwrdd wedi gweld digon o dystiolaeth eu bod wedi’u cwblhau, neu fod y camau wedi cael eu hymgorffori yn y busnes fel arfer.
Adolygir cofnodion a logiau gweithredu blaenorol ym mhob cyfarfod. Bydd y cofnodion yn cael eu cadarnhau yn y cyfarfod dilynol.
Bydd papurau a chofnodion yr eitemau Bwrdd nad ydynt yn gyfrinachol yn cael eu cyfieithu a'u cyhoeddi ar wefan CNC.
Aelodaeth
Penodir y Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd ac aelodau'r Bwrdd gan Weinidogion Cymru. Mae erthygl 3 paragraff 2 o'r Atodlen i Orchymyn (Sefydlu) CNC 2012 yn pennu na ddylai fod llai na phump, na mwy nag 11, o aelodau anweithredol yn ogystal â'r Cadeirydd.
Gwneir y penodiadau yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus. Penderfyna Gweinidogion Cymru ar hyd pob penodiad yn y llythyr penodi. Yn unol â'r Cod, ni fydd unrhyw unigolyn yn gwasanaethu mewn un swydd am fwy na 10 mlynedd.
Mae'r Gorchymyn Sefydlu yn nodi bod yn rhaid i'r Prif Weithredwr fod yn aelod o'r Bwrdd. Gall y Bwrdd ddewis penodi hyd at bedwar yn rhagor o weithwyr CNC (y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn Sefydlu yn "aelodau gweithredol").
Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Medi 2021