Aelodau o'n Bwrdd
Syr David Henshaw
(Cadeirydd)
Cafodd Syr David ei eni a’i fagu yn Lerpwl. Mae wedi byw yng Ngogledd Cymru ers sawl blwyddyn bellach gyda’i wraig Alison. Cafodd Syr David ei urddo’n farchog yn 2004.
Ar ôl dilyn Addysg Uwch yn Sheffield a Birmingham, mae ei brif yrfa wedi bod yn y sector cyhoeddus. Bu’n Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Dinas Lerpwl, gan arwain adolygiad pwysig yn ymwneud â Chynnal Plant a’r Asiantaeth Cynnal Plant ar ran y llywodraeth ganolog. Yn fwy diweddar, mae wedi bod mewn swyddi Cadeirio uchel yn y GIG, yn cynnwys Awdurdod Iechyd Strategol y Gogledd Orllewin ac Ymddiriedolaeth Sefydledig Ysbyty Plant Alder Hay, gan arwain y Bwrdd drwy’r dasg o adeiladu’r ysbyty newydd. Ymhellach, mae wedi cael ei ddewis fel Cadeirydd dros dro ar gyfer nifer o Ymddiriedolaethau Ysbytai GIG a oedd mewn sefyllfa fregus.
Hefyd, roedd yn gysylltiedig ag Adolygiad Galluogrwydd Uned Gyflawni’r Prif Weinidog o adrannau’r llywodraeth ganolog, a bu’n Gadeirydd Bwrdd Cynghori Prif Weinidog Cymru a oedd yn ymwneud â chyflawni gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl bu’n rhan o’r tîm craidd a enillodd wobr Prifddinas Diwylliant 2008 a bu’n rheoli’r Cyngor wrth ddatblygu Liverpool 1, yr arena a’r ganolfan gynadledda ynghyd â diwygiadau sylweddol i’r gwasanaethau a oedd ar gael. Penllanw hyn fu cydnabod Lerpwl fel Cyngor y flwyddyn. Penderfynodd ymddeol o Lerpwl yn 2006.
Mae David wedi bod, ac yn dal i fod, yn Gadeirydd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill ac mae ganddo sawl rôl gynghori o hyd.
Penodwyd tan 31 Hyfref 2023.
Julia Cherrett
Yn wreiddiol o Ogledd Swydd Efrog, mae Julia wedi byw yn ardal Aberhonddu am ddeuddeng mlynedd. Mae ei chefndir yn y sector yswirant ac yn ddiweddarach gyda Thames Water, Veolia Water a’r RWE Group, ble yr oedd ganddi swyddi uwch o fewn yr adrannau adnoddau dynol. Wedi symud i Gymru, roedd yn gyfrifol am arwain ar wasanaethau cwsmeriaid i’r 1.1 miliwn o gwsmeriaid Dŵr Cymru. Mae ganddi brofiad o wella a thrawsnewid gwasanaethau cwsmeriaid, ac wedi arwain ar welliannau TG sylweddol i Dŵr Cymru. Mae wedi dysgu i siarad Cymraeg, ac yn mwynhau darllen nofelau Cymraeg i wella ei geirfa.
Penodwyd tan 31 Hydref 2025.
Dr Rosie Plummer
Mae gan Rosie gefndir a brwdfrydedd arbennig ym maes gwyddoniaeth gymhwysol. Astudiodd wyddoniaeth amaethyddiaeth a choedwigaeth ac roedd ei gwaith ymchwil biolegol (gwyddoniaeth planhigion a mycoleg) yn cynnwys cydweithio gyda diwydiant a masnach. Wedi hynny, symudodd i Addysg Uwch a rheoli gwyddoniaeth, gan weithio mewn meysydd academaidd ac an-academaidd ar draws y gwyddorau biolegol/ffisegol, ar lefel sefydliadol mewn amryw o swyddi strategol, llywodraethu ac ymchwil.
Roedd yn Gyfarwyddwr Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru am chwe mlynedd tan 2016 ac mae bellach yn ymddiriedolwr y Ganolfan Technoleg Amgen a Plantlife UK, yn llywodraethwr ysgol, a chafodd ei phenodi yn Aelod Bwrdd Awdurdod Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae gan Rosie ddiddordeb mawr yn yr amgylchedd, tirwedd, treftadaeth a chysylltu â’r cyhoedd. Mae ganddi gysylltiadau ac ymrwymiad hirdymor i Gymru ac yn defnyddio ei Chymraeg, sydd o safon lefel O, yn ddyddiol.
Penodwyd tan 31 Hydref 2024.
Yr Athro Steve Ormerod FCIEEM, FLSW, FRSB, CEcol
Mae Steve Ormerod yn un o brif ecolegwyr dŵr croyw cymhwysol y byd, a’i waith ymchwil yn canolbwyntio ar effeithiau y newid byd-eang ar afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd. Yn ddiweddar roedd yn gadeirydd RSPB a Phanel Cynghori ar yr Amgylchedd Dŵr Cymru, ac mae yn gadeirydd yr Elusen Infertebratau ‘Buglife’ ar hyn o bryd. Mae’n Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd ble y mae’n gyd-gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr y Brifysgol.
Steve yw Dirprwy Gadeirydd Bwrdd CNC hefyd.
Penodwyd tan 31 Hydref 2025.
Yr Athro Peter Rigby FRS, FMedSci
Cafodd Peter ei hyfforddi fel biolegydd moleciwlaidd yng Nghaergrawnt a Stanford, California. O 1999 i 2011 roedd yn Brif Weithredwr y Sefydliad Ymchwil Cancr, ble y mae’n parhau i fod yn Athro Emeritws Bioleg Ddatblygiadol.
Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr i’r Cwmni o Fiolegwyr, mae’n Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Ymddiriedolwyr Sefydliad Babraham. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac Academi y Gwyddorau Meddygol ac yn Aelod o’r Sefydliad Bioleg Foleciwlaidd Ewropeaidd.
Roedd Peter yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ymddiriedolaeth Wellcome ac yn un o Ymddiriedolwyr Marie Curie, ac ar hyn o bryd mae’n cadeirio Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Penodwyd tan 31 Hydref 2023.
Karen Balmer
Mae Karen yn gyfrifydd cymwysedig gyda thystysgrif CIPFA ac mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o reoli cyllidol, gan ddarparu arweinyddiaeth gyllidol weithredol a strategol o fewn y sector cyhoeddus, sector preifat a'r sector dielw. Mae hi'n cyfuno hyn gyda'i phrofiad adnoddau dynol a llywodraethu helaeth er mwyn cefnogi ei rolau fel aelod bwrdd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ac fel ymddiriedolwr ar gyfer sefydliadau elusennol eraill.
Ar hyn o bryd mae Karen yn Brif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru, sef elusen amgylcheddol sy'n gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â materion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a wynebir gan gymunedau lleol.
Penodwyd tan 8 Mai 2023
Zoë Henderson
Merch fferm o ogledd Cymru yw Zoë Henderson, a astudiodd Economeg Amaethyddol ym Mhrifysgol Llundain cyn dechrau ar yrfa 25 mlynedd ym maes busnes a marchnata gyda The Dow Chemical Company. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n gweithio ar lefel uwch yn y DU, Ewrop a'r Unol Daleithiau mewn amrywiaeth o swyddi arweiniol ym musnesau gwarchod cnydau, hadau a biotechnoleg.
Mae ganddi brofiad eang ym maes amaethyddiaeth, arweinyddiaeth, datblygu busnes strategol, marchnata, a datblygu busnes newydd ac adnoddau dynol, ac mae bob amser wedi chwarae rhan weithredol mewn materion yn ymwneud â diwydiant a’i gynrychiolaeth.
Bu Zoë yn aelod anweithredol o fwrdd AHDB Potatoes – sector o’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth – am chwe blynedd, a hi yw hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn ogystal, mae'n gadeirydd Fforwm Rheoli Tir Cymru a'r is-grŵp diwydiant cyfan ar lygredd amaethyddol.
Mae hi hefyd wedi rhoi cymorth ymgynghorol i nifer o brosiectau a busnesau, yn rhedeg busnes addurno a llenni bach, ac yn rheoli prosiect er mwyn datblygu cyrchfan gwyliau ar fferm y teulu yng ngogledd Cymru. Mae'n ymddiriedolwr grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig, yn stiward yn Sioe Frenhinol Cymru, ac yn aelod o sawl pwyllgor.
Penodwyd tan 8 Mai 2023
Geraint Davies
Mae Geraint Davies wedi bod yn ffermio ers dros 20 mlynedd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn y Gogledd.
Mae o blaid cynhyrchu bwyd cynaliadwy gan ddarparu nwyddau amgylcheddol ar yr un pryd.
Mae ei waith ym maes rheoli tir yn cynnwys rheoli cynefinoedd yr ucheldir, gan gynnwys cadw dŵr ar yr ucheldir, coetir hynafol, iechyd pridd a rheoli glaswelltir yn effeithiol. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn creu a chynnal cynefinoedd i adar ar ei fferm.
Mae Geraint yn gyn Gadeirydd a Chyfarwyddwr y Nature Friendly Farming Network yng Nghymru, yn Gyfarwyddwr Partneriaeth Penllyn ac yn ogystal â bod yn weithgar mewn pwyllgorau lleol ym Meirionnydd.
Mae Geraint yn siaradwr Cymraeg yn rhugl.
Penodwyd tan 31 Hydref 2024
Yr Athro Calvin Jones
Mae Calvin yn Athro Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd ac yn athro ac ymchwilydd profiadol gyda 30 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus ac addysg uwch. Mae’n arbenigo mewn dadansoddi economaidd rhanbarthol, gydag arbenigedd mewn modelu rhanbarthol, datblygu cynaliadwy, ynni, twristiaeth ac effaith technoleg ddigidol.
Mae wedi cyhoeddi llawer o ymchwil wedi’i hadolygu gan gymheiriaid ac wedi helpu i ddatblygu systemau mesur ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae Calvin wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu polisi a thystiolaeth amrywiol yn rhanbarthol gyda sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector, Mae wedi gwasanaethu ar fyrddau mentrau cymdeithasol mawr a bach, ac ar bwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys ar gyfer y Cenhedloedd Unedig.
Mark McKenna
Mae Mark McKenna yn gyfarwyddwr gwreiddiol Down to Earth, sef grŵp o fentrau cymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi’u lleoli yn y Gŵyr, Abertawe. Dros yr 16 mlynedd diwethaf, mae Mark wedi bod yn datblygu dulliau arloesol a chynhwysol o ddarparu gofal iechyd ac addysg drwy gyfrwng adeiladu cynaliadwy, rheoli tir yn gynaliadwy ac anturiaethau awyr agored.
Mae’n angerddol dros sicrhau newid positif drwy ffyrdd ystyrlon ac ymarferol o weithio, ac mae cefndir Mark wedi cyfuno’r defnydd o ddeunyddiau naturiol gyda thechnolegau adnewyddadwy arloesol. Trwy ganolbwyntio ar grwpiau ‘anodd eu cyrraedd’ honedig, mae’n hyrwyddo ymgysylltu cymunedol, gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion o gefndiroedd amrywiol i sicrhau bod Down to Earth yn cyflawni’n unol â’i werthoedd o fynd i’r afal ag anghydraddoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae gradd gyntaf a gradd Meistr Mark ym Mhrifysgol Abertawe wedi llywio cysylltiad cadarn Down to Earth gyda sefydliadau ymchwil academaidd a chlinigol i sicrhau bod ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth o weithio yn sail i’w dull holistaidd ar draws sectorau.
Ym mis Hydref 2020, derbyniodd Mark MBE am Wasanaethau i Bobl Ifanc a’r Amgylchedd.
Clare Pillman (Prif Weithredwr)
Bu’n gweithio mewn nifer o wahanol Adrannau o Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr Adran dros Dreftadaeth Genedlaethol, y Trysorlys a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. O 2004-2011 roedd Clare yn rheoli Gwasanaeth y Llysoedd yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Gogledd Cymru, bu’n arwain yr ymgyrch i sicrhau carchar yng Ngogledd Cymru ac yn arwain Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi Cymru (GLlEM) i fod y corff Cymru-gyfan cyntaf i dderbyn y Marc Siarter am Wasanaeth Cwsmer.
Dychwelodd Clare i Gymru i ymuno â CNC fel Prif Weithredwr ym mis Chwefror 2018. Cyn hynny Clare oedd Cyfarwyddwr Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn y swydd hon bu’n arwain y gwaith ar yr Olympiad Diwylliannol ac yn goruchwylio rhaglen newid fawr o fewn yr Adran. Mae hi wedi arwain gwaith i ddatblygu strategaethau newydd ar gyfer Chwaraeon, Twristiaeth a Diwylliant, bu’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni digwyddiadau fel Cwpan Rygbi'r Byd a Phencampwriaethau Athletau’r Byd, datblygu ac arwain y rhaglen i goffáu Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, a chreu modelau llywodraethiant ac ariannu newydd ar gyfer sefydliadau megis Historic England, English Heritage, y Parciau Brenhinol a Visit Britain.
Ar hyn o bryd mae Clare yn Aelod o Fwrdd Opera Cenedlaethol Cymru; a chyn hynny bu’n Ymddiriedolwr y Sefydliad Ymchwil Canser yn Llundain am ddeng mlynedd.
Cofrestr buddiannau
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus eu natur ac rydyn ni felly’n rhwym wrth ddyletswydd i gyflawni ein busnes yn unol â safonau ymddygiad derbyniol ar gyfer cyrff cyhoeddus.
Er mwyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gydymffurfio â’r safonau ar fod yn agored ac yn atebol a osodir gan Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (OCPA), mae’n ofynnol i aelodau ddatgan unrhyw fudd a allai fod yn berthnasol i waith y sefydliad.
Gofynnir i holl aelodau’r Bwrdd ddatgan unrhyw fuddiannau personol a heb fod yn bersonol (er enghraifft, rhai’n ymwneud ag adrannau prifysgol y gallai aelod fod yn gyfrifol amdanynt) os ydynt yn teimlo y gallent wrthdaro â’u cyfrifoldebau fel aelod o’r Bwrdd, neu a allai gael eu gweld gan aelod rhesymol o’r cyhoedd fel rhywbeth a allai ddylanwadu ar eu barn.Gofynnir i aelodau’r Bwrdd ddatgan buddiannau ariannol a heb fod yn ariannol.
Bydd buddiannau aelodau’r Bwrdd yn cael eu hadolygu’n flynyddol a chyhoeddir unrhyw newidiadau ar ein gwefan.Gofynnir i aelodau hefyd ddatgan, ar ddechrau cyfarfodydd y Bwrdd, unrhyw fuddiannau penodol a allai fod ganddynt sy’n berthnasol i eitemau ar yr agenda.Yn yr achosion hyn, gofynnir i’r aelod fynd allan tra bydd yr eitemau hynny’n cael eu trafod.
Dilynwch y ddolen a ddarperir uchod i weld datganiadau buddiannau aelodau’r Bwrdd.
Lwfansau aelodau’r Bwrdd
Caiff Aelodau’r Bwrdd eu had-dalu am y costau yr achosir iddynt wrth deithio ar fusnes Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant.Mae’r costau’n cynnwys llety, cynhaliaeth (gan gynnwys prydau bwyd a lluniaeth) a theithio.
Rydym yn cydnabod bod angen i lawer o'n cynrychiolwyr deithio fel rhan o'u busnes bob dydd, i sicrhau bod targedau ein cynllun busnes uchelgeisiol yn cael eu cwrdd.Defnyddiwn y dulliau teithio mwyaf priodol ac ystyriwn gynaliadwyedd, hwylustod ac effeithlonrwydd (ar gyfer yr unigolyn a Cyfoeth Naturiol Cymru), yn ogystal â’r gost i’r sefydliad.
Cyhoeddir manylion y taliadau yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.