Tasglu yn lansio cynllun gweithredu tuag at adferiad COVID-19 gwyrdd a theg i Gymru
Gall cymunedau ledled Cymru arwain y gad ar ymateb beiddgar a chyflym i bandemig y coronafeirws drwy roi'r economi gylchol ac argyfyngau’r hinsawdd a natur wrth wraidd yr adferiad.
Dyma yw hanfod yr alwad i weithredu yn yr adroddiad 'Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu' a gyflwynwyd i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths heddiw (3 Rhagfyr) sy'n amlinellu'r camau ymarferol a blaenoriaethol a fydd yn llywio llwybr cynaliadwy Cymru allan o bandemig y coronafeirws.
Lluniwyd yr adroddiad gan y grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer adferiad gwyrdd, dan gadeiryddiaeth Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru Syr David Henshaw, ac fe'i sefydlwyd dan gyfarwyddyd y Gweinidog ym mis Gorffennaf 2020.
Cyhoeddwyd hefyd heddiw adroddiad annibynnol sy'n archwilio sefydlogrwydd a gwydnwch y sector amgylcheddol yng Nghymru a'i nod yw llywio'r drafodaeth ehangach am y ffordd orau o gefnogi'r sector i greu'r cyfleoedd ar gyfer 'adferiad gwirioneddol wyrdd'.
Roedd y grŵp gorchwyl a gorffen yn gyfrifol am ddatblygu syniadau mawr y gellid eu datblygu yn y tymor byr a'r tymor canolig fel rhan o adferiad Cymru ar ôl y pandemig - syniadau sy'n cysylltu'r economi gylchol a'r argyfyngau hinsawdd a natur â chreu swyddi, twf economaidd cynhwysol a theg, a blaenoriaethau datblygu eraill.
Derbyniwyd 168 o gynigion yn dilyn yr alwad am syniadau mawr gan y grŵp gorchwyl a gorffen. Derbyniwyd y rhain gan drawstoriad o’r gymdeithas gan gynnwys grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, elusennau, cyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a grwpiau amgylcheddol ledled Cymru.
Roedd y syniadau'n amrywio o ficro-brosiectau o fewn tref neu bentref, i fentrau sy'n ymestyn dros ffiniau awdurdodau lleol neu'n ceisio dulliau Cymru gyfan.
Ymhlith y mesurau a hyrwyddwyd gan y grŵp yn yr adroddiad mae:
• Atebion sy'n seiliedig ar natur
- cyflymu buddsoddiad hirdymor mewn adfer mawndiroedd
- mabwysiadu dull partneriaeth o adfer a chynnal safleoedd gwarchodedig
- Adfer ac ehangu coetiroedd a gwrychoedd
- Cynyddu potensial carbon glas ein moroedd drwy adfer cynefinoedd
- Adfer afonydd a gwlyptiroedd
• Trawsnewid systemau economaidd-gymdeithasol
- Bwyd - cysylltu tyfwyr bwyd â marchnadoedd lleol, gwella mynediad i dir ar gyfer cynhyrchu bwyd yn gydweithredol yn y gymuned, adeiladu gallu garddwriaeth drwy wella'r seilwaith sydd ar gael.
- Morol – potensial datgarboneiddio ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth arfordirol
- Ailddychmygu ardaloedd trefol a mannau gwyrdd – adeiladu gofod ar gyfer natur wrth ddylunio tirweddau trefol
- Teithio llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy – gwella cysylltedd rhwng trefi a mannau gwyrdd, ehangu’r gallu i wefru cerbydau trydan ar draws ardaloedd gwledig Cymru, cefnogi prosiectau lleol gan gynnwys mwy o gynlluniau parcio a theithio, ac atebion o ran cynlluniau teithio integredig i reoli nifer fawr o ymwelwyr â chyrchfannau twristiaeth poblogaidd.
• Economi gylchol
- ehangu gweithgareddau trwsio/ailddefnyddio
- arloesi i greu marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion pren gwerth uchel a gwlân
• Twristiaeth
- Archwilio modelau ariannu ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a'i hyrwyddo ymhellach
- Datblygu'r cysylltiadau rhwng natur a threftadaeth yng Nghymru fel rhan o'r cynnig twristiaeth rhyngwladol
• Tai
- Ôl-osod tai cymdeithasol
- Buddsoddi mewn tai newydd i gefnogi'r agenda datgarboneiddio a chreu swyddi gwyrdd
• Sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau
- dylai pob rhaglen buddsoddi cyhoeddus newydd gefnogi nifer ddiffiniedig o gyfleoedd profiad gwaith a phrentisiaeth
- ehangu neu ddatblygu cyrsiau addysg uwch i sicrhau bod gan Gymru weithlu â'r sgiliau priodol ar gyfer y dyfodol
Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen:
Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu'r argyfyngau hinsawdd, natur ac economaidd sy'n ein hwynebu – ond felly hefyd y cyfleoedd, sef yr hyn y mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi mynd ati i'w ddatgelu a'i flaenoriaethu ar gyfer cyflawni.
O'r cychwyn cyntaf, ein huchelgais beiddgar ar gyfer y grŵp hwn fu bod ar flaen y gad ar gyfer newid gwyrdd ledled Cymru. O atebion sy'n seiliedig ar natur i brentisiaethau gwyrdd, rydym wedi dewis amrywiaeth o gynigion y teimlwn y gellir eu datblygu'n gyflym, a chyda brys. Maent yn syniadau a fydd, gobeithio, yn troi'n esiamplau i'w hefelychu gan eraill.
Efallai mai gwlad fach yw Cymru, ond ein huchelgais yw y bydd y syniadau a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn yn ysgogi'r pŵer cyfunol sydd ei angen arnom i gael effaith fawr ar y ffordd rydym yn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy i'n cenedl.
Er mwyn cynnal ac adeiladu momentwm, mae aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi ymrwymo i barhau i gydweithio, gan ffurfio Partneriaeth Cyflawni Adferiad Gwyrdd. Drwy gronni ei arweinyddiaeth gyfunol, bydd y grŵp yn rhoi cymorth uniongyrchol i'r rhai sydd wedi cyflwyno cynigion fel rhan o’r broses hon, i'w galluogi i yrru'r broses weithredu yn ei blaen.
Ym mis Chwefror 2021, bydd y Grŵp yn arwain galwad arall am gynigion, gan alluogi eraill i gyfrannu, a bydd yn parhau i annog eraill i gymryd rhan yn y ddeialog barhaus.
Mae'r adroddiadau wedi'u cyhoeddi i nodi dechrau'r cyfnod o 12 mis cyn Cynhadledd y Pleidiau y Cenhedloedd Unedig (COP26), a fydd yn gweld awdurdodau o bob rhan o'r byd yn cynnull yn Glasgow i drafod sut i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Y gobaith yw y bydd gweithredu'r cynigion ar gyfer adferiad gwyrdd a gyflwynwyd heddiw, a hynny’n gyflym, yn tanlinellu uchelgeisiau Cymru i fod yn llais blaenllaw yn yr ymateb byd-eang i'r argyfwng hinsawdd.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi parhau i gynnal bydd y pandemig Covid-19 dim ond yn cynyddu ein ffocws ar ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd, yn hytrach na thynnu oddi arno.
O dan ein blaenoriaethau ailadeiladu Covid-19, rydym wedi ymrwymo i ymateb yn egnïol i’r argyfwng hinsawdd trwy ddilyn agenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau’r dyfodol, a gwarchod a gwella ein hadnoddau naturiol.
Ochr yn ochr â’r ymrwymiadau a’r buddsoddiadau hynny yr ydym , mae’r adroddiad hwn gan CNC yn rhan o’n hymdrechion i droi ein blaenoriaethau i weithredoedd.
Ond - fel yr amlygwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd a Chynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, ni all y Llywodraeth yn unig gyflawni’r ymateb i argyfyngau mewn hinsawdd a bioamrywiaeth - a chefnogi ein tirweddau naturiol a’n cymunedau ledled Cymru i ymateb iddynt - ac rydym eisiau sicrhau rydym yn cydweithio gyda'n partneriaid ar bob lefel wrth i ni gyrraedd y nodau hyn.
Rwy’n ddiolchgar iawn i Gyfoeth Naturiol Cymru a’r grŵp tasg a gorffen adferiad gwyrdd, a phartneriaid eraill, am eu gwaith ar yr adroddiad Adferiad Gwyrdd.
Mae’r gwaith yn gyfraniad pwysig i ymateb parhaus Cymru’ i’r materion hinsawdd ac amgylchedd sy’n ein hwynebu, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda CNC a phartneriaid eraill wrth inni weithredu’r canlyniadau hynny a argymhellir yn yr adroddiad.
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru:
Mae'r amrywiaeth o fesurau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn herio Llywodraeth Cymru ac eraill i wneud yn ogystal â dweud wrth iddynt ddangos eu hymrwymiad i Adferiad Gwyrdd. Mae'r syniadau mawr a ddewiswyd yn adlewyrchu maint y dasg sydd o'n blaenau, ac yn dangos y bydd gan bawb gyfrifoldeb i chwarae eu rhan yn nhaith Cymru drwy adferiad.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi'r caniatâd, yr eglurder a'r creadigrwydd i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn arloesol am y penderfyniadau a wnawn a'r Gymru rydym am ei gweld. Mae gweithredu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru yn golygu cymryd camau brys i leihau allyriadau carbon, gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, mynd i'r afael â'r lefelau anghynaliadwy o gyn hyrchu a defnyddio, a chysylltu pobl â natur.
Rwy'n falch o weld bod yr adroddiad yn rhoi blaenoriaeth i gyflawni rhai o'r canlyniadau rwyf wedi nodi eu bod yn hanfodol ar gyfer adferiad gwyrdd - gan gynnwys fy argymhellion ar gefnogi datgarboneiddio cartrefi, buddsoddi mewn ffyrdd gwell i gysylltu a symud pobl ac annog sefydliadau i gofrestru a chymryd disgyblion sy’n gadael ysgol ymlaen fel rhan o raglen sgiliau gyfannol ledled Cymru.
Dylai argymhellion y Tasglu, sy'n cynnig syniadau ymarferol i’w gweithredu, gael eu hystyried ar frys gan bob Gweinidog.
Dywedodd David Lea-Wilson, Cyfarwyddwr Halen Môn:
Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen am i'r adroddiad hwn gael ei ddefnyddio i wneud i bethau ddigwydd yn 2021. Mae'n gam cyntaf tuag at wireddu adferiad gwyrdd. Mater i eraill yn awr, wedi'i ysgogi gan arweinyddiaeth y llywodraeth, yw defnyddio'r gorau o'r syniadau hyn. Mae'r rhain, a'r nifer fawr y gobeithiwn a ddaw yn sgil yr adroddiad, yn dangos y gall Cymru wneud y peth iawn i'w phobl ac i'r blaned. Gobeithiaf fod hyd yn oed yn fwy balch o Gymru mewn blwyddyn yn yr uwchgynhadledd ar newid yn yr hinsawdd ym mis Tachwedd 2021 a dangos ein bod yn genedl o 'weithredwyr' nid siaradwyr.
Ochr yn ochr â'r adroddiad adferiad gwyrdd, mae adroddiad annibynnol wedi’i gyhoeddi a ysgrifennwyd gan y Ganolfan Ariannu a gynlluniwyd i ddeall yr heriau y mae Covid-19 wedi'u cael ar sefydliadau ac elusennau'r trydydd sector sy'n ymwneud â'r amgylchedd a natur. Wedi'i ysgrifennu ar y cyd â'r sector, mae'n gwneud sawl argymhelliad gyda'r nod o helpu i sefydlogi'r sector, gan amlygu'r angen i gryfhau cydnerthedd ariannol, llywodraethu ac ymgysylltu â'r gymuned. Bydd Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector i ystyried a gweithredu'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
Rwy'n croesawu'r gwaith sydd wedi'i wneud gan y Grŵp hwn i nodi ffyrdd o wella yn sgil y pandemig a fydd yn ein helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a dirywiad natur. Gall awdurdodau lleol gyfrannu at adferiad gwyrdd mewn sawl ffordd. Maent mewn sefyllfa dda oherwydd y rôl gydgysylltu y maent yn ei chwarae yn eu cymunedau, ar draws meysydd gwasanaeth a chydag ystod eang o bartneriaid. Mae CLlLC wedi cynnig pecyn ysgogi i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar fuddsoddi mewn amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus ac mae gan hyn gysylltiadau â llawer o'r cynigion yn yr adroddiad. Byddwn yn cydweithio â phartneriaid i gefnogi'r gwaith o ddarparu adferiad sy'n cefnogi pobl, eu hamgylchedd byw a'r amgylchedd naturiol ehangach y mae ein lles yn dibynnu arno yn y pen draw.
Ychwanegodd Syr David Henshaw:
Mae gan y Llywodraeth ar bob lefel, arweinwyr busnes, a chynrychiolwyr y sectorau amgylcheddol a gwirfoddol ledled Cymru oll ddyletswydd i arloesi i greu'r dyfodol yr ydym am ei gael ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Dim ond nodi dechrau'r daith honno mae cyhoeddi'r adroddiadau hyn heddiw. Er mwyn sicrhau y gallwn gyflawni newid ystyrlon ar lawr gwlad, mae angen i ni oresgyn y bwlch cyflenwi a chyflymu'r camau ymarferol sydd eu hangen i sicrhau adferiad gwyrdd llwyddiannus yng Nghymru.
Edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyda'n partneriaid yn y sectorau amgylchedd a natur ar weithredu'r adroddiadau hyn, wrth i ni weithio tuag at adferiad i Gymru lle mae lles ei phobl a'n planed yn cyd-fynd ag iechyd ein heconomi yn y dyfodol.
Mae'r adroddiadau i'w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru