Cyfle i roi eich barn am sut y rheolir coedwigoedd lleol yn ardal Y Bala
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwahodd sylwadau ar gynigion i reoli coedwigoedd ger Y Bala dros y ddegawd nesaf a thu hwnt.
Mae’r Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer coedwigoedd Llanfor a Chelyn ac Aberhirnant a Llangywer yn gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer cynnal a chadw a gwella gwytnwch ecosystemau yn yr ardal leol trwy ddulliau rheoli cynaliadwy.
Mae CNC - sy'n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru – wedi gosod amcanion allweddol ar gyfer rheoli’r coedwigoedd, sy’n cynnwys adfer cynefinoedd a tir mawn, cynyddu bioamrywiaeth, a chynnal darpariaeth pren cynaliadwy.
Meddai Mike Indeka, Uwch Swyddog Cynllunio Coedwigoedd CNC:
“Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i’r amgylchedd ac i’n cymunedau. Maen nhw’n ein helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a’r argyfwng natur, yn darparu pren o ansawdd da y gallwn ei ddefnyddio, ac yn llefydd rhyfeddol y gallwn oll eu mwynhau.
“Mae gennym rôl bwysig i sicrhau bod ein coedwigoedd yn cael eu rheoli mewn ffordd sy’n gynaliadwy ac yn dod â manteision – yn awr ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd: “Rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y modd yr ydym yn rheoli ein coedwigoedd yn cyflawni’r buddion hynny ac yn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle hwn i roi eu barn ar sut y rheolir eu coedwigoedd lleol.”
Mae crynodeb o’r prif amcanion ar gyfer y coedwigoedd a'r holl fapiau drafft ar gael ar wefan CNC. Fel arall, gellir ffonio 0300 065 3000 a gofyn am gael siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir a gwneud cais am gopïau caled o'r dogfennau.
Bydd yr ymgynghoriad ar gynlluniau Llanfor a Chelyn yn cau ar yr 16eg o Ragfyr, ac ymgynghoriad Aberhirnant a Llangywer ar y 18fed o Ragfyr.
Gellir cyflwyno adborth trwy Hwb Ymgynghori newydd CNC https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/ neu anfon sylwadau trwy’r post i Gynllun Adnoddau Coedwig Llanfor a Chelyn/Aberhirnant a Llangywer, Adeiladau'r Llywodraeth, Ffordd Aran, Dolgellau, LL40 1LW.