Polisi Cwynion a Chanmoliaeth

Datganiad a Phwrpas

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n ymroddedig i ddelio’n effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion y byddwn yn eu derbyn am ein gwasanaeth. Ein nod yw esbonio unrhyw faterion sy’n aneglur i’n cwsmer(iaid). Os yn bosib, fe wnawn unioni unrhyw gamgymeriadau y gallem fod wedi eu gwneud. Fe ddarparwn ni unrhyw wasanaeth â hawl y byddwn wedi methu â’i gyflenwi. Fe wnawn geisio dysgu oddi wrth ein camgymeriadau bob amser a cheisio gwella ein gwasanaethau.

Disgwylir i Cyfoeth Naturiol Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ddelio â chwynion yn unol â Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n dilyn yr arferion gorau a fynegir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac sydd wedi eu rhestru’n fanwl ym mholisi a chyfarwyddyd Pryderon a Chwynion Model Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Pryd y dylid defnyddio’r polisi hwn

Gall unrhyw aelod o’r cyhoedd, neu aelod o fusnes, sydd wedi derbyn, neu a oedd â hawl i dderbyn, gwasanaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cwyn. Mae’r un peth yn gymwys os byddan nhw wedi dioddef oherwydd gweithredu amhriodol neu ddiffyg gweithredu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ogystal â hyn, os bydd unrhyw fusnes rheoledig am wneud apêl anffurfiol yn erbyn ein penderfyniadau rheoleiddiol, bydd yr apeliadau hyn yn cael eu trin yn unol â’r polisi hwn. Nid yw cyflwyno apêl atom yn y ffordd hon yn effeithio ar unrhyw hawl statudol a allai fod gennych i gyflwyno apêl, na’r terfyn amser y mae'n rhaid cwblhau apêl statudol oddi fewn iddo, na'ch hawl i ystyried gofyn i'r llysoedd adolygu ein penderfyniad.

Beth yw Cwyn

Cwyn yw:

  • mynegiant o anfodlonrwydd neu bryder
  • un ai’n ysgrifenedig neu’n eiriol drwy unrhyw ddull cyfathrebu
  • wedi ei wneud gan un neu fwy o aelodau’r cyhoedd
  • ynglŷn â gweithred neu ddiffyg gweithredu neu ynglŷn â safon gwasanaeth a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac sy’n gofyn am ymateb

Gall y gŵyn fod am Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun, rhywun sy’n gweithredu ar ei ran, neu bartneriaeth darparwr gwasanaeth cyhoeddus y mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhan ohoni. Ni ddylai’r weithdrefn hon fodd bynnag gael ei defnyddio gan aelod o staff neu ddarpar aelod o staff fel cyfrwng i godi materion cyflogaeth. Mae systemau mewnol eraill ar gael ar gyfer y mathau hyn o bryderon, er enghraifft gweithdrefnau chwythu’r chwiban, bwlio neu gwynion cyflogaeth.

Nid yw cwyn yn:

  • gais cychwynnol am wasanaeth. (Os ydych yn cysylltu â ni am y tro cyntaf er mwyn cael gwasanaeth, yna ni fydd y polisi hwn yn berthnasol oherwydd dylid rhoi cyfle inni ymateb i’ch cais yn gyntaf. Os gofynnwch am wasanaeth a’ch bod yn anfodlon wedyn ar ein hymateb, cewch leisio eich pryder yn unol â’r polisi hwn.)
  • yn apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad 'a wnaed yn briodol' gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac eithrio pan fod y trydydd parti hwnnw yn fusnes rheoledig sy'n gwneud apêl anffurfiol
  • yn ddull o geisio newid deddfwriaeth neu benderfyniad polisi ‘a wnaed yn briodol’
  • yn ddull o lobïo grwpiau/sefydliadau i geisio hyrwyddo achos
  • unioni drwy gyfrwng achosion cyfreithiol1

Egwyddorion allweddol

Fe ddelir â chwynion a dderbynnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn y fath fodd fel mai’r gŵyn yw’r ffocws ac nid y broses ei hun. Bydd yr egwyddorion canlynol yn cael eu cymhwyso pan dderbynnir cwynion:

Yn Hygyrch ac yn Syml

  • Fe wnawn gyhoeddi ein polisi a’n gweithdrefnau ynglŷn â sut i wneud cwyn a’r ffordd y caiff ei thrin
  • Bwriedir i’r polisi a’r gweithdrefnau fod yn hawdd eu deall a’u dilyn – gan y cyhoedd a’r staff.

Yn Deg ac yn Ddiduedd

  • Fe ddeliwn ni â’r pryderon mewn ffordd sy’n deg ac yn ddiduedd.
  • Caiff achwynwyr eu sicrhau na fydd gwneud cwyn yn effeithio’n andwyol ar eu hymwneud a’u cysylltiadau â Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.

Yn Amserol, Effeithiol a Chyson

  • Fe geisiwn ofalu, pryd bynnag y bydd hynny’n briodol ac yn bosibl, y dylai staff rheng flaen geisio datrys cwynion eu hunain yn unol â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Ein hegwyddor or-redol fydd ‘Ymchwilio Unwaith, Ymchwilio’n Dda’ – pan fydd angen ymchwiliad ffurfiol ar gŵyn, dylid gwneud hynny’n drylwyr i sefydlu ffeithiau’r achos.
  • Fe ddeliwn ni â’ch pryderon cyn gynted ag sydd bosib, ac fe rown wybod i chi beth sy’n digwydd.

Yn Atebol

  • Fe ddarparwn ni esboniad gonest, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac fe rown resymau am y penderfyniadau.
  • Pan ganfyddir bod cyfiawnhad i bryderon, fe wnawn ni, fel y bydd yn briodol:
    • gydnabod camgymeriadau
    • ymddiheuro mewn ffordd ystyrlon
    • unioni’r mater
    • darparu camau cywirol sy’n brydlon, priodol a chymesur
  • Fe ofalwn ni fod pawb yn cael eu hysbysu o’u hawl i gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (neu o lwybrau priodol eraill sy’n agored iddyn nhw, er enghraifft, Comisiynydd y Gymraeg o ran cwynion am gydymffurfio â Chynlluniau Iaith Gymraeg, a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol).

Yn Cyflenwi Gwelliant Parhaus

  • Fe geisiwn gasglu’r gwersi a ddysgwyd gyda’r cwynion a defnyddio’r wybodaeth honno i sicrhau gwelliant parhaus i’r gwasanaeth a ddarperir.

Camau Cwynion

Mae yna ddau gam ym mholisi Cyfoeth Naturiol Cymru i ddelio â chwynion. Mae’r rhain yn cael eu tanategu gan yr egwyddorion a amlinellwyd uchod:

Cam 1 – Datrys yn y Fan a’r Lle

Fel sefydliad sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, mae gennym gyfrifoldeb i ystyried yn ddifrifol unrhyw gwynion ynglŷn â methiant mewn gwasanaeth neu bryderon ehangach am y gwasanaeth.

Mae’r cam yma’n rhoi cyfle i ymgysylltu’n anffurfiol ym mhwynt cyflenwi’r gwasanaeth i ddatrys cwynion un ai ar yr adeg pan fydd y gŵyn yn codi neu’n fuan wedi hynny. Mewn llawer o achosion, yr unig gam fydd yn angenrheidiol fydd esboniad neu gamau lliniaru priodol eraill gan staff rheng flaen. Yn ddelfrydol, bydd unrhyw bryderon gan fusnesau rheoledig neu unigolion sy'n ymwneud â'n penderfyniadau rheoleiddiol yn cael eu datrys yn ôl y dull hwn, cyn i apeliadau ffurfiol neu anffurfiol gael eu cyflwyno.

Amser ymateb ar gyfer datrysiad anffurfiol yn y fan a’r lle ar Gam 1 – ein nod yw ymateb ar unwaith i bryderon a fynegir mewn perthynas â gwasanaethau a ddarparwyd, ac yn ôl pob tebyg, cysylltu’n uniongyrchol (wyneb yn wyneb, ffôn) â’r cyhoedd a chwsmeriaid fydd y ffordd fwyaf effeithiol o ran cyflawni datrysiad anffurfiol.

Os na fydd hyn yn effeithiol, ac mae’r gŵyn yn cael ei ffurfioli, yna fe wneir asesiad ynglŷn â difrifoldeb a chymhlethdod tebygol y gŵyn.

Sut i fynegi eich pryder neu gwyno’n ffurfiol

Gallwch fynegi eich pryder trwy ddefnyddio unrhyw un o’r ffyrdd isod.

Gallwch ofyn am gopi o’n ffurflen gan yr unigolyn sydd eisoes mewn cysylltiad â chi. Dywedwch wrthyn nhw eich bod am i ni ddelio â’ch cwyn yn ffurfiol.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon

Penrhosgarnedd

Bangor

Gwynedd

LL57 2DW

Cam 1 yw lle y byddwn ni’n buddsoddi’r rhan fwyaf o’n hamser a’n hadnoddau, a bydd ein ffocws ar ganlyniad llwyddiannus (cwyn wedi’i chau).

Delio â Chŵyn wedi’i Ffurfioli yng Ngham 1

Byddwn yn anfon llythyr o gydnabyddiaeth o fewn pum niwrnod gwaith, ac fe fyddwn wedi ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn unrhyw gwynion sydd wedi’u ffurfioli’n ysgrifenedig. Bydd yn amlwg mai i’n Cyfarwyddwr Llywodraethu y mae’r hawl i apelio.

Cam 2 – Ymchwiliad Ffurfiol

Bwriad ein polisi yw y byddwn yn delio ag ychydig iawn o gwynion sydd wedi symud ymlaen i’r cam hwn. Fodd bynnag, fe fydd yna rai, a bydd hynny drwy:

  • Yr asesiad cychwynnol yn dangos bod y gŵyn yn ddifrifol ac yn gymhleth o bosib
  • Dim datrysiad o’r cwynion a gafodd eu trin yng Ngham 1 lle na chyflawnwyd yr ‘ateb sydyn’ na ffordd glir i ddatrysiad

Gyda chwynion sy’n cyrraedd y cam yma, fe wnawn fabwysiadu egwyddor ‘Ymchwilio unwaith, ymchwilio’n dda’. Fe rown bwyslais ar un ymchwiliad i ddelio’n drylwyr â’r pryderon a fynegwyd.

Ymchwiliadau Ffurfiol yn ystod Ymateb Cam 2 – bydd cwynion difrifol neu gwynion sydd heb eu datrys a gyfeirir at y Cyfarwyddwr Llywodraethu yn cael eu cydnabod o fewn pum niwrnod gwaith. Fe roddir ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, er y gallem ymestyn yr amser ymateb hwn mewn rhai amgylchiadau. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i chi o fewn y cyfnod hwn pam y credwn y gall gymryd mwy o amser i ymchwilio iddi
  • dweud wrthych faint o amser y disgwyliwn i hynny ei gymryd
  • rhoi gwybod i chi lle rydym arni o ran yr ymchwiliad
  • rhoi’r diweddaraf i chi am hynt y gŵyn, gan gynnwys dweud wrthych a oes unrhyw ddatblygiadau a allai newid ein hamcangyfrif gwreiddiol

Yn ogystal ag ansawdd yr ymchwiliad, mae ‘ymchwilio’n dda’ yn golygu hefyd cynnal ymchwiliad mewn ffordd sy’n gymesur â natur a graddau difrifoldeb y gŵyn.

Canlyniad

Os byddwn yn ymchwilio eich cwyn yn ffurfiol, fe rown wybod i chi beth fyddwn ni wedi’i ganfod yn eich dull cyfathrebu dewisol chi. Gallai hynny fod mewn llythyr neu e-bost, er enghraifft. Os bydd angen, fe wnawn ni gynhyrchu adroddiad hirach. Fe esboniwn sut a pham y daethom i’n casgliadau. Os canfyddwn mai ni oedd ar gam, fe ddywedwn wrthych beth ddigwyddodd a pham. Fe ddangoswn i chi sut yr effeithiodd y camgymeriad arnoch chi.

Os canfyddwn fod nam yn ein systemau neu’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau, fe ddywedwn wrthych beth ydi o a sut rydyn ni’n bwriadu newid pethau i’w atal rhag digwydd eto. Os gwnaethon ni gamgymeriad, fe ymddiheurwn bob amser.

Unioni Pethau

Os na wnaethon ni ddarparu’r gwasanaeth y dylech fod wedi ei dderbyn, fe geisiwn ni ei ddarparu yn awr os yw hynny’n bosib. Os na wnaethon ni rywbeth yn dda, fe geisiwn ni ei unioni. Os byddwch chi ar eich colled o ganlyniad i gamgymeriad ar ein rhan ni, fe geisiwn ddod â chi’n ôl i’r sefyllfa y byddech wedi bod ynddi pe baen ni wedi gweithredu’n briodol.

Fe derfynir Ymchwiliadau Cam 2 gan y Cyfarwyddwr Llywodraethu, a hwn fydd terfyn y sefydliad ynghylch y mater. Ni fydd yna unrhyw lwybr apêl pellach o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru, a bydd y cyfathrebu’n egluro mai i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru y bydd unrhyw apêl.

Amser a Aeth Heibio

Yn arferol, dim ond os byddwch wedi rhoi gwybod i ni am eich pryderon o fewn chwe mis y gallwn edrych arnyn nhw. Mae hynny oherwydd ei bod yn well ymchwilio i’ch pryderon tra bod y materion yn dal yn ffres ym meddyliau pawb.

Mae’n bosib y gallwn yn eithriadol edrych ar bryderon sydd wedi eu dwyn i’n sylw’n ddiweddarach na hyn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi roi rhesymau cadarn am fethu â dwyn hyn i’n sylw’n gynharach, a bydd angen i ni gael gwybodaeth ddigonol ar y mater i ganiatáu i ni ei ystyried yn briodol. (Sut bynnag, waeth beth fo’r amgylchiadau, ni wnawn ystyried unrhyw bryderon am faterion a ddigwyddodd mwy na thair blynedd yn ôl.)

O ran apeliadau y mae busnes rheoledig yn dymuno eu nodi yn anffurfiol yn erbyn ein penderfyniadau rheoleiddiol, rhaid i'r rhain gael eu cofrestru ymhen 15 diwrnod i'r dyddiad ar ôl inni gadarnhau ein penderfyniad yn ysgrifenedig.

Cwynion sy’n Ymwneud ag Achosion Cyfreithiol neu Ddisgyblaethol Eraill

Yn achlysurol, bydd cwynion a dderbynnir yn ymwneud ag achosion cyfreithiol neu ddisgyblaethol. O dro i dro, mae’n bosib y bydd angen oedi’r ymchwiliad i’r gŵyn tan ddiwedd yr achosion eraill yma.

Cwynion sy’n ymwneud â mwy nag un darparwr gwasanaeth

Mae yna achlysuron pan fydd cwyn a dderbynnir yn ymwneud â mwy nag un sefydliad, ac yn yr achosion hynny, fe weithiwn ni’n agos ac yn adeiladol â’r sefydliadau eraill dan sylw.

Cwynion sy’n ymwneud â gwasanaethau sydd wedi eu contractio allan

Os yw’r gŵyn yn ymwneud â chorff sy’n gweithio ar ein rhan (e.e. contractwyr), efallai yr hoffech godi’r mater yn anffurfiol gyda’r corff hwnnw yn gyntaf. Fodd bynnag, os hoffech fynegi’ch pryder neu gwyno’n ffurfiol, byddwn yn ymchwilio i hyn ein hunain ac yn ymateb i chi.

Lle rydym wedi gosod darpariaeth gwasanaeth ar gontract i sefydliadau preifat/gwirfoddol, byddwn yn sicrhau bod eglurder ynglŷn ag ymdrin â chwynion yn narpariaeth y gwasanaeth.

Dysgu gwersi

Rydym yn ystyried eich pryderon a’ch cwynion yn ddifrifol ac yn ceisio dysgu oddi wrth unrhyw gamgymeriadau a wnaethpwyd gennym ni. Mae ein huwch dîm rheoli’n ystyried crynodeb o’r holl gwynion yn chwarterol yn ogystal â manylion unrhyw gwynion difrifol. Bydd ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ystyried hefyd ein hymateb i gwynion o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Lle bydd angen am newid, fe ddatblygwn ni gynllun gweithredu’n nodi beth wnawn ni, pwy fydd yn ei wneud o, ac erbyn pa bryd y byddwn yn bwriadu ei wneud. Fe rown wybod i chi pan fydd y newidiadau rydym wedi eu haddo wedi eu gwneud.

Beth os oes angen cymorth arnaf

Bydd ein staff yn anelu at eich helpu i roi gwybod i ni am eich pryderon. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch, byddwn yn ceisio eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu. Efallai yr hoffech gysylltu â gwasanaeth eiriolaeth annibynnol a all eich cynorthwyo. Gellir canfod rhagor o wybodaeth am Gyrff Eiriolaeth a Chynghori ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ombwdsmon

Os na lwyddwn i ddatrys eich cwyn yn ystod Cam 2, gallwch ei uwchgyfeirio i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth, a gall ymchwilio i’ch cwyn os byddwch yn credu eich bod chi’n bersonol, neu’r person rydych yn cwyno ar eu rhan:

  • wedi cael eich/eu trin yn annheg neu wedi derbyn gwasanaeth gwael drwy ryw fethiant ar ran y corff a oedd yn ei ddarparu
  • wedi eich/eu rhoi dan anfantais yn bersonol gan fethiant gwasanaeth neu wedi cael eich/eu trin yn annheg.

Bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl i chi ddod â’ch pryderon i’n sylw ni i ddechrau ac i roi cyfle i ni unioni pethau. Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon ar:

Mae yna sefydliadau eraill hefyd sy’n ystyried cwynion. Er enghraifft, Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn â gwasanaethau yn Gymraeg neu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Gallwn eich cynghori ar sefydliadau felly.

Beth rydyn ni’n ei ddisgwyl gennych chi

Nid ydym yn ystyried penderfyniad i leisio cwyn na chryfder teimlad ynglŷn â safonau ein gwasanaeth i fod yn amhriodol, ac rydym yn cydnabod y gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad ar adegau o drafferth neu drallod. Fodd bynnag, bydd unrhyw weithredoedd gan y rhai sy’n codi pryderon neu’n lleisio cwyn sy’n ddig, yn gofyn gormod, neu’n parhau ar ôl derbyn ymatebion rhesymol yn cael eu hystyried fel gofynion afresymol ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rydym o'r farn bod y gweithredoedd canlynol, yn enwedig pan gânt eu cyfuno ag achosion o feio aelodau unigol o staff ar gyfer diffygion canfyddedig o ran safonau gwasanaeth, yn ymddygiadau annerbyniol:

  • Bygythiadau
  • Cam-drin geiriol personol
  • Anfoesgarwch
  • Gwahaniaethu
  • Gwneud honiadau di-sail
  • Ymddwyn yn ymosodol yn gyffredinol tuag at staff Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Naws neu ymagwedd annerbyniol wrth gyfathrebu ynglŷn â chŵyn

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall taerineb wrth fwrw ymlaen â chŵyn fod yn ddilys, ond wedyn llithro i ofynion afresymol ac annerbyniol. Gallai’r amgylchiadau hyn fod yn berthnasol:

  • Pan mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgelu’r holl wybodaeth berthnasol ac mae’r achwynydd yn awr yn gwneud gofynion afresymol y tu hwnt i gwmpas y gŵyn wreiddiol
  • Pan mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi disbyddu ei allu i ymateb, yn dilyn ymatebion cynharach o’r safon uchaf posib, a hynny’n cael ei anwybyddu, ei ddiystyru neu ei wrthod

Neu pan fydd yr achwynydd yn:

  • Gwrthod yn barhaus â derbyn penderfyniad a wnaethpwyd mewn perthynas â chŵyn
  • Gwrthod yn barhaus â derbyn esboniadau sy’n ymwneud â’r hyn y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud neu’r hyn na all ei wneud
  • Parhau i leisio cwyn heb gyflwyno unrhyw wybodaeth newydd

Os bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n barnu bod rywfaint neu unrhyw rai o'r nodweddion canlynol yn berthnasol, yna rydym yn cadw’r hawl i hysbysu’r achwynydd y dylai pob cysylltiad ar y mater yn y dyfodol fod yn ysgrifenedig neu drwy gynrychiolydd. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i nodi y bydd pob gohebiaeth yn y dyfodol yn cael ei darllen a’i ffeilio gennym, ond na fyddwn yn ei chydnabod nac ymateb iddi oni bai y bydd yr achwynydd yn darparu gwybodaeth newydd arwyddocaol sy’n ymwneud â’i achos.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall dyfalbarhad afresymol effeithio ar ein gallu i ddarparu ein gwasanaeth arferol. Gan ddibynnu ar faint yr ohebiaeth neu gysondeb y galwadau ffôn, gallwn fynegi ar ôl ystyriaeth ofalus ei bod yn ofynnol bod unrhyw gyfathrebu pellach â Cyfoeth Naturiol Cymru yn digwydd yn ysgrifenedig wrth adolygu neu ymchwilio i gŵyn.

Ni fydd hyn yn wir yn achos digwyddiadau amgylcheddol a dylid rhoi gwybod am y rhain drwy ffonio 03000 65 3000.

Canmoliaeth

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddysgu yn sgil cwynion, rydym hefyd am gydnabod yr agweddau cadarnhaol ar y gwasanaethau a ddarparwn, a byddwn yn cydnabod unrhyw achosion o ganmoliaeth. Rydym yn ystyried bod gwasanaeth cwsmeriaid da iawn yn hanfodol, felly rydym yn falch o nodi pob achos lle y teimlid bod ein gwasanaeth ‘y tu hwnt i bob disgwyl’.

Anogir pob cwsmer a phob aelod o’r cyhoedd i gyflwyno canmoliaeth am wasanaethau a ddarparwyd gennym. Mae’n bwysig cydnabod bod llwyddiant ein sefydliad yn dibynnu ar gyfranogiad a gweithredoedd cyflogeion.

Cewch ganmol cyflogai yn bersonol, drwy lythyr, dros y ffôn, neu drwy ysgrifennu at flwch post cwynionachanmoliaeth@cyfoethnaturiol.cymru

Canmoliaeth Maes y Ffynnon Penrhosgarnedd Bangor Gwynedd LL57 2DW

Fel arall, gallwch gwblhau’r ffurflen Canmoliaeth.

Iaith Gymraeg

Croesewir cwynion yn y Gymraeg a byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb i hynny arwain at oedi.

Os ydych yn teimlo ein bod wedi torri ein Safonau Iaith Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol i ddatrys y mater, neu cysylltwch â Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg

Preifatrwydd

Byddwn ond yn defnyddio data personol yn unol â'r rheoliad diogelu data cyffredinol i ddelio â'ch cais ac unrhyw faterion sy'n codi ohono.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon pellach, cysylltwch â dataprotection@naturalresourceswales.gov.uk. Gweler ein polisi preifatrwydd sy'n disgrifio sut rydym yn casglu defnydd ac yn rhannu eich gwybodaeth.

Os bydd angen y ddogfen hon mewn fformat a/neu iaith arall, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

  • Ffôn: 0300 065 3000 (Llun–Gwener, 9am–5pm)
  • Ffôn Testun: 03702 422 549
  • E-bost: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
  • Drwy lythyr: Cyfoeth Naturiol Cymru, Canolfan Gofal Cwsmeriaid Tŷ Cambria 29 Heol Casnewydd Caerdydd CF24 0TP
  • Dogfennau Cysylltiedig Ffurflen Gwyno Ffurflen Ganmoliaeth Cynllun Iaith Gymraeg Cyfoeth Naturiol Cymru Ombwdsmon Cymru

E.e. ar gyfer gwaith a wneir dan y Ddeddf Adnoddau Dŵr (WRA) 1991, yn ôl Atodlen 21 yr WRW dylai unrhyw anghydfod mewn perthynas â iawndal lle cafodd gwaith ei gyflawni dan adran 165 gael ei benderfynu gan yr Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd). Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 hefyd yn nodi:

9 Exclusion: other remedies

The Ombudsman may not investigate a matter if the person aggrieved has or had

  • a right of appeal, reference or review to or before a tribunal constituted under an enactment or by virtue of Her Majesty's prerogative,
  • a right of appeal to a Minister of the Crown or the [F1, the Welsh Ministers, the First Minister for Wales or the Counsel General to the Welsh Assembly Government],
  • or a remedy by way of proceedings in a court of law.

Mannau eraill yng Cwynion a chanmoliaeth

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf