Lleihau anghydraddoldebau iechyd

llun gan Lloyd Jones

Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.


Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.


Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws.

.

Pam y thema hon?


Mae adnoddau naturiol iechyd a gwydn yn tanategu ein hiechyd a'n llesiant, yn ogystal â bod yn rhan bwysig o'n diwylliant a'n heconomi. Maent yn darparu ein bwyd, dŵr glân, aer ac ynni ac maent yn ein diogelu rhag peryglon fel llifogydd a’r newid yn yr hinsawdd. Dyma fuddion naturiol lle.

Ceir gwahaniaethau amlwg mewn iechyd pobl ar draws De-orllewin Cymru. Mae'r cysylltiad rhwng ein hiechyd a chyflwr a hygyrchedd ein hamgylchedd naturiol wedi'i gydnabod a'i adlewyrchu yng nghynlluniau llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Rydym yn gwybod bod bod yn egnïol yn yr awyr agored mewn amgylchedd naturiol yn gwella iechyd corfforol a llesiant meddyliol pobl. P'un a ydych chi'n byw yng nghefn gwlad neu yn y ddinas, mae'n bwysig fod gan bob un ohonom fannau gwyrdd hygyrch, e.e. coetiroedd, dolydd a pharciau, a mannau glas, e.e. afonydd, llynnoedd a'r môr. Os yw cymunedau yn defnyddio'r ‘campfeydd awyr agored’ hyn, ceir buddion drwy iechyd a llesiant gwell, yn ogystal â lleihad mewn costau gofal iechyd. Mae angen i ni gyd reoli ein hadnoddau naturiol mewn modd sy'n well ac yn fwy cynaliadwy fel eu bod yn lanach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy hygyrch a'u bod yn cadw eu prydferthwch naturiol - gan ddod â mwy o fwynhad a buddion i bobl leol ac ymwelwyr.

Prif ‘heriau a chyfleoedd cenedlaethol’ y Polisi Adnoddau Naturiol y mae’r thema hon yn mynd i'r afael â nhw:

  • Cefnogi dulliau ataliol ar gyfer canlyniadau iechyd, â ffocws penodol ar y materion iechyd cyhoeddus allweddol o lygredd aer a sŵn a achosir gan drafnidiaeth, mynd i'r afael ag anweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl

  • Cefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd

  • Cefnogi cydlyniad cymunedol

  • Cefnogi’r broses o liniaru ac ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd trwy ddulliau rheoli ar lefel yr ecosystem

Iechyd yn Ne-orllewin Cymru

Yng Nghymru, ar gyfartaledd, mae pobl yn byw yn hirach nag o'r blaen ac maent yn byw yn hirach ag iechyd da. Ond pan fyddwn yn edrych ar y rheini sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yn Ne-orllewin Cymru, ceir amrywiaethau mawr mewn iechyd pobl. Mae gan y rheini sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddisgwyliad oes is ac nid oes ganddynt iechyd cystal.

Os byddwn yn edrych ar y wybodaeth ar gyfer y rheini sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Dinas a Sir Abertawe, mae'r gwahaniaeth o ran disgwyliad oes iach yn 21.9 mlynedd ar gyfer dynion ac 16.3 mlynedd ar gyfer menywod. Mae gan ddynion sy'n byw o fewn pumed ran fwyaf difreintiedig Cymru nid yn unig hyd oes byrrach, ond maent hefyd yn treulio llai ohono mewn iechyd da (77%) o'u cymharu â'r rheini yn y pumed ran leiaf difreintiedig (89%). Mae'r un peth yn wir am fenywod (74% o'u cymharu ag 86%). Gellir gweld cydberthynas rhwng amddifadedd cyffredinol uwch a sgoriau iechyd corfforol isel mewn ardaloedd trefol ac yng Nghymoedd De Cymru, lle mae'r rhan fwyaf o ardaloedd yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn sgorio'n isel. 

Rydym wedi nodi tri phwnc allweddol sy'n perthyn i'r thema hon.

1. Mannau gwyrdd agored a seilwaith gwyrdd trefol

Rydym yn gwybod bod cysylltiad uniongyrchol rhwng iechyd da pobl a chael ein hamgylchynu gan yr amgylchedd naturiol. Cyfeirir yn aml at ein mannau gwyrdd a glas, gan gynnwys parciau, mannau agored, meysydd chwarae, coetiroedd, gwlyptiroedd, ymylon ffyrdd, afonydd, camlesi, rhandiroedd a gerddi preifat, fel seilwaith gwyrdd. Mae'r rhwydwaith byw hwn nid yn unig yn diffinio a ffurfio cymeriad lle, ond mae hefyd yn cyflenwi buddion lluosog ar gyfer bioamrywiaeth, iechyd a llesiant.

Trwy gael rhwydwaith byw gwych mewn ardal drefol, gall helpu i gysylltu poblogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd tameidiog, gan gysylltu ardaloedd trefol â'u hamgylcheddau cyfagos. Mewn geiriau eraill, mae seilwaith gwyrdd yn dda ar gyfer pobl ac ar gyfer natur.

Mae ardaloedd incwm isel yn gysylltiedig â thai ac addysg o ansawdd is, deiet gwael, a llai o fynediad at fannau gwyrdd o ansawdd da. Gall byw ger ardaloedd sydd â mannau gwyrdd (fel parciau neu goetiroedd) wella iechyd, waeth beth fo'r dosbarth cymdeithasol.

Mae coed trefol yn elfen bwysig o seilwaith gwyrdd. Mae gan rai trefi yn Ne-orllewin Cymru lefelau isel nodedig o orchudd coed (gan gynnwys Port Talbot, sydd â gorchudd coed o 7.5%, a Gorseinon, Hwlffordd, Caerfyrddin a Llanelli, sydd â gorchudd coed o tua 11%). Yn ogystal, nid yw'r gorchudd coed wedi'i ddosbarthu'n gyfartal yn yr ardaloedd hyn, gydag ardaloedd difreintiedig yn dueddol o gael llai o orchudd coed.

2. Gweithgareddau hamdden a’r defnydd o deithio llesol gwyrdd a glas

Mae’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn annog mwy o bobl i deithio'n rheolaidd ar droed neu ar feic. Gall buddsoddi mewn seilwaith teithio llesol arwain at fuddion economaidd sylweddol. Gall adeiladu llwybrau teithio llesol gwyrdd arwain at fuddion lluosog ar gyfer pobl a bioamrywiaeth.

Mae'r gwaith ar y Datganiad Ardal hyd yn hyn wedi nodi bod rhoi mynediad at lwybrau hamdden i bobl, yn ogystal â llwybrau teithio gwyrdd/glas, yn flaenoriaeth bwysig. Mae hyn yn rhywbeth y nodwyd yn ogystal trwy ein gwaith ymgysylltu â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau lleol (e.e. Cynllun Llesiant ar gyfer Sir Benfro a’r cynllun rheoli drafft ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) ar gyfer De-orllewin Cymru mewn lleoliadau gwledig a threfol.

Mae gweithgareddau hamdden awyr agored yn darparu buddion lluosog ar gyfer pobl, yr amgylchedd a'r economi drwy annog ymddygiadau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, drwy gyfrannu at ganlyniadau iechyd, a thrwy dwristiaeth. Mae gan Dde-orllewin Cymru lawer i gynnig o ran cefn gwlad sy'n hygyrch yn lleol a physgodfeydd, llwybrau beicio mynydd a thraethau ymdrochi sy'n enwog yn rhyngwladol.

O ystyried y ddarpariaeth hon, hoffem weithio ar y cyd i gefnogi gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur a gwneud yr awyr agored yn hygyrch i bawb. 

Plant yn adeiladu gwersyllfa yn yr awyr agoredLlun gan Pippa Sabine

3. Diogelu'r amgylchedd ar gyfer ein llesiant

Mae sicrhau bod ein hadnoddau naturiol o ansawdd uchel yn allweddol i'n llesiant. O'r aer rydym yn ei anadlu a'r dyfroedd rydym yn nofio ynddynt, i reoli perygl yr afonydd a'r arfordir rydym yn byw wrth eu hymyl, gall atebion sy'n seiliedig ar natur gyflawni buddion lluosog ar gyfer pobl a'r amgylchedd. Ceir cysylltiad cryf rhwng y pwnc hwn a'n thema rheoli tir.

Mae'r parth arfordirol o amgylch De-orllewin Cymru yn bwysig iawn ar gyfer cefnogi twristiaeth a diwydiant yn ogystal â darparu buddion iechyd dynol. O fewn yr ardal hon, mae gennym 40 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig (33 â statws ‘Ardderchog’, chwech â statws ‘Da’ ac un â statws ‘Digonol’) y mae'r diwydiant twristiaeth yn dibynnu arnynt ar gyfer ymwelwyr.

Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno safonau ansawdd dŵr sy’n sylweddol lymach, sy'n golygu bod nifer o ddyfroedd ymdrochi mewn perygl o beidio â bodloni'r gofynion sylfaenol newydd. Mae gweithgareddau a gollyngiadau o'r amgylchedd trefol yn gallu cael effaith niweidiol ar y dyfroedd hyn a gall hyn gael effaith sylweddol ar y sawl sy'n eu mwynhau.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r Datganiad Ardal hwn yw ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac rydym yn dweud mwy am hyn yn yr adran nesaf.

Yn yr adran flaenorol, rydym wedi disgrifio rhai o'r prif ystyriaethau a chyfleoedd ar gyfer gwella iechyd. Yn yr adran hon, rydym wedi nodi ‘sut olwg sydd ar lwyddiant’ fel cyfres o ddatganiadau yr hyn ddywedoch wrthym sy'n adlewyrchu'r consensws cyffredinol o'n sesiynau ymgysylltu; cynhyrchodd y sesiynau hyn lawer o syniadau a gwybodaeth ac mae'r canlynol yn cynrychioli crynodeb yn unig o'r cyfleoedd sydd o'n blaenau (lle cafwyd cytundeb cyffredinol ymysg nifer o randdeiliaid). Os ydych yn teimlo ein bod wedi colli rhywbeth, peidiwch â phoeni, rydym am barhau â'r trafodaethau rydym wedi'u dechrau. Gweler yr adran ar ddiwedd y thema hon, sy'n rhoi manylion ynglŷn â sut y gallwch barhau i fod yn rhan o'r broses hon.

Dywedoch wrthym y dylai ein cymunedau trefol gynnwys rhwydwaith o seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel sydd wedi'i gysylltu'n dda

  • Mae angen i ni weithio gyda chynllunwyr a datblygwyr lleol i sicrhau bod datblygiadau newydd yn darparu seilwaith gwyrdd

  • Mae angen i ni gynnwys pobl leol yn y broses o wneud penderfyniadau a'u galluogi i reoli eu hamgylcheddau lleol. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer rheolaeth wahanol (e.e. tyfu bwyd cymunedol) a defnyddio asedau cyhoeddus

  • Dylai datblygiadau presennol ymgorffori seilwaith gwyrdd er mwyn helpu i fynd i'r afael â materion fel ansawdd aer gwael a dŵr ffo trefol. Mae angen i ni ddeall sut mae preswylwyr yn defnyddio eu mannau trefol ar hyn o bryd a beth yw eu perthynas â mannau gwyrdd a mynd i'r afael â bylchau

Dywedoch wrthym y dylai cymunedau fod wedi'u cysylltu'n dda gan lwybrau teithio llesol gwyrdd, gyda mannau gwyrdd hamdden sy’n hawdd eu cyrraedd

  • Mae cyfleoedd sylweddol ar gael er mwyn gwneud defnydd gwell o ystad y sector cyhoeddus ar gyfer hamdden ffurfiol ac anffurfiol. Gellir gwneud defnydd o'r asedau hyn yn haws drwy symleiddio prosesau a gwaith papur. Dylai partneriaid a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus weithio ar y cyd, gan gynnwys rhannu data a sgiliau, i archwilio mentrau iechyd ac i archwilio a thynnu rhwystrau i ffyrdd o fyw iach ac egnïol

  • Yn gysylltiedig â hyn a'n thema newid yn yr hinsawdd, mae angen i ni gyd newid y ffordd rydym yn teithio. Mae cynlluniau yn cynnwys:

    • System drafnidiaeth gyhoeddus integredig: amserlenni sydd wedi'u cysylltu, sydd wedi'u cysylltu â llwybrau teithio llesol a chynlluniau rhannu (rhannu beiciau a cheir). Mae angen i ni weithio gyda phartneriaid o gyrff y sector cyhoeddus, diwydiant a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y system hon yn cael ei chynllunio a'i hystyried yn briodol a'i bod ar gael i bawb
  • Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o fannau gwyrdd/glas a bioamrywiaeth drwy:
    • Adolygu rôl addysgol sefydliadau'r sector cyhoeddus gyda staff yn cael eu grymuso i hyrwyddo mynediad lleol wrth addysgu am faterion sy'n fwy technegol (fel bioamrywiaeth)

    • Gweithio gyda chyfleusterau addysgol a'r trydydd sector i hyrwyddo bioamrywiaeth drwy’r cwricwlwm ysgol ac ar raddfa ysgolion unigol

    • Rhaglenni nawdd sy'n cysylltu busnesau, cymunedau a mwynderau lleol â mannau glas neu wyrdd cyfagos, gan gynnwys hyrwyddo gweithgareddau diwylliannol sy'n rhoi pwyslais mawr ar gynaliadwyedd

Bachgen ar gefn beic mynydd ar lwybrLlun gan Pippa Sabine

Dywedoch wrthym y dylai pawb fwynhau aer glân i'w anadlu a thraethau ymdrochi ac afonydd o ansawdd uchel:

  • Rydych yn rhoi gwerth uchel ar ein hamgylchedd arfordirol a'n traethau ymdrochi yn benodol. Byddwn yn gweithio gyda'r cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i reoli dalgylchoedd afonydd yn eu cyfanrwydd (dull sy'n seiliedig ar ddalgylchoedd) er mwyn diogelu'r ardaloedd hyn a'r afonydd sy'n eu bwydo. Byddwn yn defnyddio dull a arweinir gan dystiolaeth er mwyn nodi mesurau lliniaru – gan gynnwys ymchwilio i’r posibilrwydd o ffynonellau ariannu amgen. Adeiladu ar enghreifftiau fel y bartneriaeth Môr Glas fel modelau llwyddiant.

    • Ymchwilio i’r posibilrwydd o ddynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol (mewn dociau, llynnoedd ac afonydd) er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r mannau glas sydd ar stepen eu drws

    • Mae angen newid ymddygiadau i wella ansawdd ein haer drwy weithredu ‘cynlluniau gweithredu ansawdd yr aer’ a chamau gweithredu eraill. Mae angen i ni dargedu ardaloedd lle y gallwn gydweithio (fel ceir segur ger ysgolion neu sgriniau gwybodaeth sy'n rhoi data byw i’r cyhoedd ar ansawdd aer a sŵn)
  • Sicrhau bod cymunedau yn cael eu diogelu a'u paratoi’n dda rhag llifogydd. Hysbysu ac addysgu'r cyhoedd a gwleidyddion lleol am faterion fel perygl llifogydd, gan gynnwys y rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau cynllunio. Ymgysylltu â chymunedau sy'n byw mewn ardaloedd ‘mewn perygl’ er mwyn codi ymwybyddiaeth. Defnyddio technegau adfer dalgylchoedd (dal dŵr mewn mannau eraill cyn iddo achosi llifogydd mewn ardal), ochr yn ochr â dulliau rheoli perygl llifogydd ‘traddodiadol’

Rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn Abertawe© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Wrth ddatblygu'r Datganiad Ardal hwn ein nod oedd gweithio ar y cyd a chynrychioli safbwyntiau a syniadau ein holl rhanddeiliaid yn Ne-orllewin Cymru. Ein nod oedd eich cynnwys chi i helpu nodi'r risgiau allweddol rydym yn eu hwynebu wrth reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, yn ogystal â'r cyfleoedd.

Mae hyn wedi gofyn am ffordd wahanol o weithio.

Rydym wedi cynnal ystod eang o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys gweithdai cynllunio targedig ag arbenigwyr dethol i weithdai amlsector mwy. Mynychwyd yr olaf yn dda ac roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr etholedig, grwpiau cymunedol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol, yn ogystal â swyddogion o'r sector cyhoeddus. Rydym hefyd wedi sicrhau bod grwpiau cynrychioliadol (fel undebau ffermio, cymdeithasau genweirio ac ati) wedi'u cynnwys. Mae'r sector busnes wedi'i gynrychioli'n bennaf gan ddiwydiannau mwy.

Mae cymaint o sectorau gwahanol â phosib wedi'u cynnwys er mwyn dal yr ystod ehangaf o safbwyntiau ac arbenigedd. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn fewnol sy’n datblygu Datganiadau Ardal Canol De Cymru a Chanolbarth Cymru a’r Datganiad Ardal Forol i sicrhau bod camau gweithredu yn cysylltu lle bo hynny'n briodol. Yn benodol, mae'r parth arfordirol a'r amgylchedd morol yn bwysig iawn i ni yn Ne-orllewin Cymru ac rydym yn cydnabod bod yr hyn sy'n digwydd ar y tir yn aml yn cael effaith ar y môr ac i'r gwrthwyneb.

Beth yw'r camau nesaf?


Mae angen eich cefnogaeth barhaus arnom er mwyn datblygu'r cyfleoedd a'r camau gweithredu a nodwyd gennym yn gynt yn yr adran hon. Byddwn yn parhau i gynnal ein sgyrsiau â chi o ran y ffordd orau i ddatblygu hyn – o ran cyflenwi ac o ran mireinio'r manylion lle mae angen rhagor o waith; mae hyn yn debygol o gynnwys gwaith â mwy o ffocws ar themâu penodol neu o amgylch ardaloedd daearyddol penodol (e.e. y dalgylchoedd â chyfleoedd).

Felly, rydym yn annog ein holl randdeiliaid, presennol a newydd, i gymryd rhan – ceir rhagor o fanylion ynglŷn â sut i wneud hyn yn yr adran nesaf.

Trwy gydol y thema hon, ceir meysydd eglur y dywedoch wrthym eu bod yn bwysig ar gyfer gweithredu camau effeithiol er mwyn gwella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae'r rhain yn cynnwys y system cynllunio datblygu, defnyddio ystad y sector cyhoeddus, hamdden a mynediad, a gwelliannau amgylcheddol (ansawdd aer a dŵr).

Y camau nesaf:

Dylanwadu ar y system gynllunio

  • Gweithio gyda'r awdurdodau cynllunio lleol er mwyn sicrhau y ceir darpariaeth briodol o fannau gwyrdd a seilwaith gwyrdd ar lefel cynllunio rhanbarthol ac ar gyfer datblygiadau unigol

  • Gweithio gyda grwpiau lleol er mwyn sicrhau bod seilwaith gwyrdd yn cael ei ystyried a'i integreiddio o fewn unrhyw brosiectau adfywio a gynlluniwyd

Gwella cyfleoedd hamdden, mynediad a thwristiaeth gan ddefnyddio asedau Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a rhanddeiliaid lleol i ddatblygu uwchgynllun hamdden i Goedwig Afan er mwyn gwella mynediad ac ymweliadau

  • Gweithio gydag eraill i archwilio a mwyafu budd cymunedol Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (e.e. trwy gytundebau Mynediad)

  • Cefnogi fforymau mynediad lleol i helpu i wella rhwydweithiau mynediad

  • Hyrwyddo addysg a hamdden yn ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Gweithio gyda phartneriaid y sector cyhoeddus er mwyn cael y budd llesiant a bioamrywiaeth mwyaf o'r ystad gyhoeddus

  • Gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid y trydydd sector i hyrwyddo a gweithredu seilwaith gwyrdd ar gyfer llesiant pobl

  • Sicrhau bod data ac arbenigedd yn cael eu rhannu rhwng partneriaid er mwyn hwyluso rhagor o fynediad i fannau gwyrdd a glas a defnydd hamdden ohonynt

  • Darparu cymorth er mwyn i gymunedau gael mynediad gynaliadwy ac yn briodol at yr amgylchedd naturiol a’i reoli

Sicrhau bod gan Dde-orllewin Cymru amgylchedd o ansawdd uchel

  • Defnyddio dull gweithredu ar sail dalgylch (sy'n gysylltiedig â'n thema rheoli tir) i gynnal a gwella ansawdd dyfroedd ymdrochi. Parhau i fonitro, cynnal a gwella statws dyfroedd ymdrochi ac ymchwilio i'r posibilrwydd o ddynodi dyfroedd ymdrochi mewndirol er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r asedau sydd ar stepen eu drws

  • Cynorthwyo rhaglen o ymgysylltu â chymunedau â blaenoriaeth i godi ymwybyddiaeth pobl o’u perygl llifogydd a’r camau y mae angen iddynt eu cymryd

  • Cefnogi adolygiad Llywodraeth Cymru o’r cynllun gweithredu tymor byr ar gyfer ansawdd aer ym Mhort Talbot. Gweithredu'r Cynllun Aer Glân yn yr ardal hon a gweithio gydag arbenigwyr mewn technegau newid ymddygiad i weithredu hyn

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy? 


Trwy gofleidio’r amgylchedd naturiol yn Ne-orllewin Cymru, gallwn chwarae ein rhan wrth wella rhywfaint o’r cyflyrau iechyd cronig a welir yn yr ardal – mewn lleoliadau gwledig a threfol. Mae ecosystemau sydd wedi'u lleoli ger poblogaethau yn darparu'r cyfleoedd gorau a dylid eu rheoli mewn modd sy'n mwyafu'r buddion y maent yn eu darparu ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol.

I gyflenwi unrhyw gamau gweithredu, bydd angen defnyddio dull integredig a chydweithredol, gan adlewyrchu egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy ac ymgorffori'r pum ‘ffordd o weithio’ o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Gweledigaeth ar gyfer De-orllewin Cymru:

  • Mae ein trefi, dinasoedd a datblygiadau newydd yn cynnal a gwella'r amgylchedd naturiol gyda seilwaith gwyrdd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau

  • Mae'n hawdd cael mynediad at fannau gwyrdd a glas o ansawdd uchel (trefol a gwledig) ac maent yn cael eu defnyddio'n aml ac yn briodol gan bawb

  • Mae cymunedau, busnesau, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus yn wybodus am yr amgylchedd naturiol ac maent wedi'u galluogi i reoli eu mannau lleol yn effeithiol

  • Ceir mannau glân ac iach i fyw, gweithio a chwarae ynddynt – o'r aer rydym yn ei anadlu i'r dyfroedd rydym yn ymdrochi ynddynt

Sut all pobl gymryd rhan?


Y thema hon yw dechrau'r daith yn unig wrth inni weithio gyda phobl i wella rheolaeth o adnoddau naturiol De-orllewin Cymru. Os hoffech fod yn rhan o'r broses, cysylltwch â ni. Fel arall, anfonwch e-bost uniongyrchol atom yn: Southwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch wybod

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?



Hoffech chi gael ateb?


Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf