Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd

© Hawlfraint y Goron (2019) Cymru

Mae'r Datganiadau Ardal hyn yn crynhoi trafodaethau’r ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym parhau i ymgysylltu ynghylch Datganiadau Ardal ac yn addasu ein cynlluniau ar gyfer digwyddiadau a gweithdai’r dyfodol oherwydd y pandemig Coronafeirws. Defnyddiwch y blychau adborth ar bob tudalen Datganiad Ardal i ddarganfod mwy.


Mae’r rhan fwyaf o’r meysydd parcio a’r llwybrau yn ein coetiroedd a’n gwarchodfeydd natur yn agored.


Er mwyn cael y diweddaraf ynglŷn â beth sy’n agored, gweler ein tudalen ymweld â’n safleoedd yn ystod y pandemig Coronafeirws 

 

Pam y thema hon? 


Y newid yn yr hinsawdd yw u'n o'r materion, os nad y mater, sy'n diffinio ein hamser. Bydd hyn yn effeithio ar ein cymunedau, y gwasanaethau a ddarparwn, ein hasedau a'n seilwaith. Mae'n glir o'r gwaith rydym wedi ymwneud ag ef sy'n ymwneud a'r thema strategol hon bod y newid yn yr hinsawdd yn golygu bod angen i ni newid y ffyrdd rydym yn gweithio gyda nhw i fynd i'r afael ag ef.

Mae peryglon posib y newid yn yr hinsawdd yn eang gyda'r potensial i effeithio ar yr holl fioamrywiaeth a sut mae'n rhyngweithio yn y byd. Mae'r hinsawdd yn newid yn gyflym ac yn 2019, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae bioamrywiaeth ac ecosystemau sy’n gweithio'n dda yn darparu atebion naturiol i feithrin gwydnwch cymunedol, cefnogi bywoliaethau, gwella llesiant a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Mae thema strategol Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd yn canolbwyntio ar achub ar bob cyfle i ymdrin ag achosion gwraidd a gwneud hynny ar y cyd fel partneriaid, gan symud y ffocws o risg i gyfle a rhoi cymunedau wrth wraidd y broses. Mae rhwydwaith thema Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd wedi archwilio sut a ble y gallwn weithio'n well gyda'n gilydd i weithredu ar yr achosion ac addasu i ganlyniadau'r newid yn yr hinsawdd.

Yn ystod cyfnod cynnes estynedig yn 2018, gwnaeth Gwent brofi tanau gwyllt niferus. Roedd yr effaith a'r difrod i gynefinoedd a rhywogaethau'n ddinistriol ac mae'r creithiau'n parhau i fod ar y dirwedd. Mae'r digwyddiadau tywydd hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar y gwasanaethau brys ac arian y sector cyhoeddus. Mae gweithio gyda phartneriaid yn y maes hwn wedi'n galluogi i nodi sawl risg hinsawdd sy'n benodol i ardal Gwent a bod angen ymdrin â hwy.  Mae'r rhain yn cynnwys risgiau i'r canlynol; unigolion, preswylwyr a chymunedau, seilwaith a'r amgylchedd adeiledig, cyflenwadau dwr cyhoeddus rhag sychder a llif isel yn benodol yn yr amgylchedd gwledig, ecosystemau a busnesau amaethyddol o newidiadau mewn amodau hinsoddol. Gall pobl a chymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan ddigwyddiadau tywydd eithafol fod y lleiaf tebygol o gael eu clywed mewn penderfyniadau cynllunio a chyflawni sy'n ymwneud ag addasu a lliniaru'r hinsawdd.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant? 

Sut mae llwyddiant yn edrych Y weledigaeth ar gyfer De-ddwyrain Cymru

Nid yw adnoddau naturiol yn lleihau'n barhaus ac nid ydynt yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gallant gael eu hailgyflenwi

Mae cyfleoedd i ddatblygu economi fwy cylchol yn cael eu gwireddu.  Mae hyn yn golygu datblygu system economaidd sydd wedi'i hanelu at wahardd gwastraff a'r defnydd parhaus o adnoddau. Mae adnoddau'n cael eu defnyddio am gyhyd a phosib, gan dynnu'r gwerth mwyaf ohonynt, yna mae'r cynnyrch a'r deunyddiau'n cael eu hachub a'u hail-greu ar ddiwedd bywyd pob un. Mae datblygiad addysg a sgiliau'n rhoi'r cyfle i swyddi newydd ac arloesedd, arbed costau i fusnesau a'r gallu i gryfhau ein cadwyni cyflenwi, gan wella'n gwydnwch economaidd lleol

Nid yw iechyd a gwydnwch ein hecosystemau ar draws y pedair nodwedd gwydnwch ecosystemau yn cael eu cyfaddawdu a'u gwella lle y bo angen Caiff bioamrywiaeth ei ddiogelu, ei wella a bydd yn wydn i hinsawdd sy'n newid, mae ansawdd dwr ac aer yn dda, mae priddoedd yn iach ac mae cysylltedd ecolegol yn cael ei fwyafu. Mae cyfleoedd i atafaelu carbon a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cynnwys bioamrywiaeth fel egwyddor sylfaenol a thanseiliol. Rhagwelir gwrthdrawiadau rhwng 'gweithredu er yr hinsawdd' a 'gweithredu dros fioamrywiaeth' a chant eu hosgoi - er enghraifft, caiff gorchudd canopi coed ei gynyddu lle y bo'n briodol gwneud hynny ac nid mewn lleoliadau a fyddai'n cael effaith niweidiol ar safleoedd Natura 2000 (rhwydwaith o safleoedd wedi'u dynodi i sicrhau goroesiad tymor hir rhywogaethau a chynefinoedd Ewrop mwyaf gwerthfawr a dan fygythiad)

Mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio mewn modd effeithlon ac mae’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau ecosystemau gwahanol yn cael ei hybu ar gyfer llesiant

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae cefnogaeth i gymunedau leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr wedi'i dosbarthu mewn ffordd sy'n gyfiawn yn gymdeithasol. Mae trafnidiaeth yn garbon niwtral. Mae gweithgaredd dal a storio carbon a datgarboneiddio yn rhan hanfodol ac integredig o'n heconomi gwyrdd lleol, gan ddarparu manteision lluosog yn ein cymunedau ac ar eu cyfer a chefnogi'r economi gwyrdd lleol

Mae'r buddiannau sy'n deillio o adnoddau naturiol yn cael eu dosbarthu mewn modd teg a chyfartal ac mae'r cyfraniad y maent yn ei wneud tuag at lesiant yn diwallu ein hanghenion sylfaenol ac nid yw'n lleihau nawr nac yn y tymor hir

Bod pobl ddiamddiffyn yn cael eu diogelu'n ddigonol rhag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Bod atebion sy'n seiliedig ar natur i addasu'r hinsawdd yn cyfrannu at y cynnydd mewn gwydnwch lleol i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Bod cymunedau'n cael eu haddysgu am risgiau yn sgil yr hinsawdd ac yn weithredol wrth ddylunio a gweithredu'r ymateb. Bod cymunedau'n fwy gwydn i gostau ynni a thrafnidiaeth sy'n codi drwy effeithiolrwydd gwell, ymdrin â thlodi tanwydd, teithio llesol a chynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy lleol


Beth yw'r camau nesaf?


YMADDASU CANLYNIAD: Iechyd a gwydnwch gwell o ran ein hecosystemau i fwyafu eu gallu i amddiffyn, atal a lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Cynnal, gwella ac adfer gorlifdiroedd a systemau hydrolegol i leihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr a’r symiau ohono (cyfleoedd gofodol allweddol: rhannau is afon Gwy, afon Wysg ac afon Lwyd, Gwastadeddau Gwent, a Chaerffili)

  • Sicrhau bod mawndiroedd yn cael eu rheoli'n dda, eu bod yn cadw eu lleithder, a’u bod yn gynaliadwy fel dalfeydd a storfeydd carbon (cyfleoedd gofodol allweddol: ucheldiroedd gwydn De-ddwyrain Cymru a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)

  • Cynyddu brigdwf coed a gwrychoedd lle bo'n briodol i'w wneud (cyfleoedd gofodol allweddol: amrywiol, ond yn cynnwys Dyffryn Gwy, Canol Sir Fynwy a'r amgylchedd trefol)

  • Cynyddu'r defnydd o seilwaith gwyrdd i leihau effaith peryglon amgylcheddol sy'n ymwneud â’r hinsawdd (e.e. Systemau Draenio Cynaliadwy Trefol)

  • Rhoi ystyriaeth ddigonol o effeithiau cynnydd yn lefel y môr ar Wastadeddau Gwent yn y Cynllun Rheoli Traethlin, fel y nodwyd gan fodelu rhagfynegi’r hinsawdd yn dilyn y senario o allyriadau uchel

  • Gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr i nodi lle gallai tir gael ei reoli'n wahanol i ddal a storio carbon ac adeiladu gwydnwch

  • Datblygu methodoleg neu feini prawf (sy'n ystyried senario rhagfynegi’r hinsawdd lle ceir allyriadau uchel) i nodi ar ba afonydd nad ydynt yn brif afonydd y gellid gweithredu cyfleoedd rheoli perygl llifogydd yn naturiol yn y modd mwyaf effeithiol

LLINIARU CANLYNIAD: Gwella effeithlonrwydd adnoddau, gyda chamau angenrheidiol wedi eu cymryd tuag at ddatgarboneiddio ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr i nodi lle gallai tir gael ei reoli yn wahanol i ddal a storio carbon ac adeiladu gwydnwch

  • Ymgorffori’r Prosiect Carbon Bositif ar draws y sector cyhoeddus a rhannu arfer gyda’r trydydd sector a’r sector preifat lle bo'n briodol i leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd yr aer

  • Cefnogi'r gwaith o sefydlu seilwaith ar gyfer cerbydau isel eu hallyriadau

  • Datblygu cynllun sector cyhoeddus ar gyfer datgarboneiddio fflyd Gwent (yn dilyn adolygiad o fflyd y sector cyhoeddus)

YMADDASU CANLYNIAD: Gwell dealltwriaeth o risgiau a chyfleoedd y newid yn yr hinsawdd ar draws Gwent
ac
LINIARU CANLYNIAD: Gwell dealltwriaeth o'r angen i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Archwilio dulliau o gynnwys cymunedau a/neu sectorau a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf gan newid yn y dyfodol yn y rhanbarth wrth ddatblygu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

  • Galluogi cyfleoedd i ddinasyddion herio a chraffu cynnydd camau gweithredu

  • Cyflenwi'r lefel angenrheidiol o ymrwymiad, uchelgais ac arweinyddiaeth sydd ei hangen i sbarduno gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

  • Cydweithio i ddatblygu fframweithiau monitro a gwerthuso cyson sy'n mesur y newidiadau i bolisi ac ymarfer o ran gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

  • Datblygu methodoleg gyffredin ar gyfer nodi cyfleoedd ac asesu lle gall rheolaeth o ystâd y sector cyhoeddus adeiladu gwydnwch i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a mwyafu'r cyfleoedd ar gyfer dal a storio carbon heb gael effaith negyddol ar fioamrywiaeth

  • Sefydlu dealltwriaeth a rennir o’r newid yn yr hinsawdd, yn benodol dealltwriaeth a rennir o oblygiadau posib adroddiad tystiolaeth Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd (CCRA) 17 a Rhagolygon Hinsawdd y DU 2018 ar gyfer sefydliadau

  • Datblygu methodoleg ar gyfer cynlluniau rheoli asedau er mwyn ystyried effeithiau hirdymor y newid yn yr hinsawdd (fel y nodwyd gan fodelu rhagfynegi’r hinsawdd yn dilyn y senario allyriadau uchel)

  • Datblygu methodoleg gyffredin i nodi sut y gall gwell arferion caffael ar y cyd yn y sector cyhoeddus sbarduno datgarboneiddio

  • Datblygu iaith gyffredin, gan sicrhau bod yr holl bartneriaid yn hyddysg ym maes y newid yn yr hinsawdd

YMADDASU CANLYNIAD: Gwell dealltwriaeth o risgiau a chyfleoedd y newid yn yr hinsawdd ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Datblygu rhwydwaith thematig o ymarferwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau perthnasol (a chymunedau, lle bo'n briodol) er mwyn datblygu dealltwriaeth a rennir o atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd

  • Cydweithio i ddatblygu, poblogi a defnyddio setiau data cyffredin a fydd yn galluogi sefydliadau i creu gwaelodlin ar gyfer tystiolaeth sy'n berthnasol i atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd

LINIARU CANLYNIAD: Gwell dealltwriaeth o'r angen i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Datblygu rhwydwaith thematig o ymarferwyr, ymchwilwyr, rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau perthnasol (a chymunedau, lle bo'n briodol) er mwyn datblygu dealltwriaeth a rennir o'r angen i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws Gwent

  • Cydweithio i ddatblygu, poblogi a defnyddio setiau data cyffredin a fydd yn galluogi sefydliadau i creu gwaelodlin ar gyfer tystiolaeth sy'n berthnasol i ôl troed carbon y sector cyhoeddus

YMADDASU CANLYNIAD: Cynyddu gallu sefydliadau ac unigolion, gan sicrhau bod yr offer, sgiliau a chanllawiau angenrheidiol ganddynt i alluogi iddynt ymaddasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Cydweithio i ddatblygu pecyn cymorth a chrynhoi arferion gorau, cyngor ac arweiniad i rheoli perygl llifogydd yn naturiol, rheoli ucheldiroedd yn gynaliadwy, Systemau Draenio Cynaliadwy Trefol, adfer gorlifdiroedd, ac atebion rheoli coetiroedd i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a’u rhannu ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat fel y bo'n briodol

  • Datblygu a chyflenwi hyfforddiant sgiliau ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat, fel y bo'n briodol

  • Cydweithio i nodi ffrydiau ariannu a all alluogi cyflenwad o allbynnau’n seiliedig ar le sydd yn gwella iechyd ein hardaloedd naturiol a'r buddion maent yn eu darparu

  • Cydweithio i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu ymaddasu rhanbarthol amlsector a thraws-sefydliadol i Went. Bydd y strategaeth hon yn nodi sut a ble gall sefydliadau gydweithio yn well ar raddfa ranbarthol i ddiogelu a gwella gwydnwch ecosystemau yn y dirwedd.

    Caiff y strategaethau a chynlluniau hyn eu defnyddio fel glasbrint i gyflenwi'r camau â thema benodol a nodir uchod a, thrwy hyn, byddant yn gwneud y canlynol:

      • Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu’n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau atebolrwydd a llywodraethu cadarn yn eu lle

      • Sicrhau bod methodolegau cyffredin cytunedig yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ystyried anghenion ychwanegol cymunedau dan anfantais a bregus

      • Nodi ble a sut y gall cydweithrediad rhanbarthol adeiladu gwydnwch

      • Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyffredin ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd

      •  Nodi mecanweithiau ar gyfer trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol ar raddfa fwy, lle bo angen hynny (e.e. adnoddau dŵr, rheoli perygl llifogydd a rheoli ucheldir/glaswelltir)

      • Llywio arferion rheoli asedau, caffael a chynllunio ariannol yn y sector cyhoeddus

      • Archwilio ffyrdd newydd o weithio ac atgynhyrchu llwyddiant ar raddfa fwy

  • Gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb  mewn rheoli tir er budd natur i ddatblygu cynllun lle bo ganddynt adnoddau i gynghori ar benderfyniadau rheoli tir sy'n deillio o gymunedau, gan gynnwys nodi cyfleoedd i ddatblygu rhwydweithiau ac atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd a dal a storio carbon, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dir a reolir yn gyhoeddus ar y raddfa leol gyda chynghorau cymuned a thref

LLINIARU CANLYNIAD: Gwell effeithlonrwydd adnoddau, gyda chamau angenrheidiol wedi eu cymryd i ddatgarboneiddio ar draws Gwent

Camau gweithredu:

  • Cydweithio i ddatblygu pecyn cymorth a chrynhoi arferion gorau, cyngor ac arweiniad i effeithlonrwydd adnoddau a datgarboneiddio a’u rhannu ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat fel y bo'n briodol

  • Datblygu a chyflenwi hyfforddiant sgiliau ar gyfer gwella effeithlonrwydd adnoddau, datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat lle bo'n briodol

  • Cydweithio i nodi ffrydiau ariannu a all alluogi cyflenwad o allbynnau’n seiliedig ar le sydd yn gwella effeithlonrwydd adnoddau a datgarboneiddio asedau a hyrwyddo ynni adnewyddadwy

  • Cydweithio i ddatblygu strategaeth a chynllun gweithredu lliniaru carbon rhanbarthol amlsector a thraws-sefydliadol i Went. Bydd y strategaeth hon yn nodi sut a ble gall sefydliadau gydweithio yn well ar raddfa ranbarthol i ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau (y sector ynni). 

    Caiff y strategaethau a chynlluniau hyn eu defnyddio fel glasbrint i gyflenwi'r camau â thema benodol a nodir uchod a, thrwy hyn, byddant yn gwneud y canlynol:

      • Sicrhau bod ymyriadau a nodwyd yn cael eu cydlynu’n dda rhwng asiantaethau a bod llwybrau atebolrwydd a llywodraethu cadarn yn eu lle

      • Sicrhau bod methodolegau cyffredin cytunedig yn gyfiawn yn gymdeithasol ac yn ystyried anghenion ychwanegol cymunedau dan anfantais a bregus

      • Nodi ble a sut y gall cydweithrediad rhanbarthol adeiladu gwydnwch

      • Cyfrannu at ddatblygu sylfaen dystiolaeth gyffredin ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur i ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd

      •  Nodi mecanweithiau ar gyfer trefniadau gweithio mewn partneriaeth effeithiol ar raddfa fwy, lle bo angen hynny (e.e. adnoddau dŵr, rheoli perygl llifogydd a rheoli ucheldir/glaswelltir)

      • Llywio arferion rheoli asedau, caffael a chynllunio ariannol yn y sector cyhoeddus

      • Archwilio ffyrdd newydd o weithio ac atgynhyrchu llwyddiant ar raddfa fwy

  • Gweithio gyda sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb yn y sector arbed ynni i ddatblygu cynllun lle bo ganddynt adnoddau i gynghori ar benderfyniadau rheoli cyfleusterau sy’n deillio o gymunedau, gan gynnwys nodi cyfleoedd i wella effeithlonrwydd adnoddau, gan ganolbwyntio i ddechrau ar dir a reolir yn gyhoeddus ar y raddfa leol gyda chynghorau cymuned

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Yn 2019, wrth weithio drwy Grŵp Gweithredu Strategol Gwent ar Lesiant, gwnaeth rhwydwaith thematig Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd hwyluso cyfres o gyfleoedd cyfranogi ar gyfer y sector cyhoeddus, y trydydd sector a chymunedau a oedd â’r nod o wella dealltwriaeth ar y cyd o’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd ar raddfa leol a rhanbarthol.  Gweithiodd y prosiect hwn gyda grwpiau amrywiol â ffocws i ddysgu o brofiad byw o ddigwyddiadau tywydd eithafol yn y gorffennol er mwyn nodi dulliau o gynyddu’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.

Gweithiodd y prosiect hwn,  “Ymaddasu’r i’r Newid yn yr Hinsawdd: O Brofiad Byw i Gamau Strategol”, gyda phobl a sefydliadau ledled Gwent a ddaeth ynghyd drwy gysylltiadau partneriaeth a oedd eisoes yn bodoli, gan gynnwys Uwch-gyngor Plant Blaenau Gwent, Fforwm Pobl Hŷn Blaenau Gwent, Cyngor Tref Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, Transition Monmouth, Partneriaeth Gwastadeddau Byw, Cyngor Cymuned Allteuryn, cymuned amaethyddol Gwent, a rhanddeiliaid yn ardaloedd Cwm-carn ac Aber-carn.

Mae rhwydwaith Gwent yn Barod ar gyfer yr Hinsawdd wedi bod yn gweithio hefyd drwy gysylltiadau sefydledig â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i hwyluso gwaith datgarboneiddio'r sector cyhoeddus drwy rannu dysgu ac arfer gorau o Brosiect Carbon Bositif Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'n cydweithwyr yn y sector cyhoeddus. Gan weithio'n benodol gyda rheolwyr fflyd, asedau, cyllid a data lleol, rydym hefyd wedi cyflenwi nifer o brosiectau datgarboneiddio arddangos ar draws y rhanbarth.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Bydd y canlyniadau o dan bob un o’r pedair thema strategol yn cyflenwi gweledigaeth y Datganiad Ardal ar gyfer De-ddwyrain Cymru. Er bod gan bob thema ei gweledigaeth ei hun ar gyfer De-ddwyrain Cymru, mae pob un yn rhan o'r un dull trosfwaol o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yn y lle.

Mae Datganiad Ardal y De-ddwyrain yn cynrychioli ffyrdd o weithio sy'n fwy cydweithredol, integredig a chysylltiedig; mae'n cynrychioli'r gwaith rydym eisoes wedi'i wneud yng Ngwent dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gryfhau'r ffyrdd rydym yn gweithio gyda’n gilydd yn wahanol, o fewn ein sefydliadau ein hunain ac fel partneriaid.

Yn y De-ddwyrain, ein nod oedd creu Datganiad Ardal sy'n llywio gwaith cynllunio mewnol ac allanol ar y raddfa briodol ac sy'n helpu rhanddeiliaid i ystyried ffyrdd gwahanol o gydweithio wrth wneud hyn. Mae proses y Datganiad Ardal yn ymaddasol a bydd yn helpu i archwilio a llywio ffyrdd uchelgeisiol o weithio.

Bydd rhwydweithiau thematig yn parhau i ganolbwyntio ar gydweithio’n wahanol i adeiladu gwydnwch ecosystemau. Bydd pob rhwydwaith yn cydweithio i ddatblygu sail dystiolaeth gyffredin yn ogystal â hwyluso ymyriadau ataliol dros y tymor hwy.

Myfyriwr o Gyngor Plant Blaenau Gwent yn ystod Gweithdy Addasu Gwent sy'n Barod am yr Hinsawdd

Sut all pobl gymryd rhan?


Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith o gyflawni'r camau a restrir yma, cyfrannu at ddatblygu'r rhwydwaith thematig, neu rannu eich delweddau a straeon eich hun ar effaith y newid yn yr hinsawdd, cysylltwch â ni.

Rhowch adborth

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Hoffech chi gael ateb?

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf